Biliwn i Gymru: Plaid Cymru yn Mynnu ei Chyfran o Arian Heathrow

joniheathrow.PNG

Dylai Cymru gael rhan o’r buddsoddiad cyhoeddus yn Heathrow, yn ôl AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw ar i Gymru gael “ei chyfran deg” o fuddsoddiad cyhoeddus mewn ehangu meysydd awyr yn ne-ddwyrain Lloegr.

Dan fformiwla Barnett, sydd yn pennu lefel y cyllid i holl genhedloedd datganoledig y DG, mae Cymru yn derbyn rhan o wariant ar faterion Lloegr-yn-unig, ar sail eu poblogaeth.

Mae Transport for London wedi amcangyfrif y bydd cysylltu Maes Awyr Heathrow, pan fydd wedi ei ehangu, â chanol Llundain yn costio hyd at £20 biliwn. Petai Cymru yn derbyn ei chyfran o ran poblogaeth, byddai’n rhoi hwb o £1 biliwn i gyllid cyhoeddus Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Os yw San Steffan yn barod i wario £20 biliwn o arian y trethdalwyr yng nghornel gyfoethocaf y Wladwriaeth Brydeinig, yna fe ddylent fod yn barod i roi i Gymru ei chyfran deg o’r gwariant hwnnw. Mae pobl Cymru yn talu eu trethi hefyd; nid dim ond Llundain sy’n gwneud.

“Dwyf i ddim yn frwd o gwbl am y modd mae’r gwledydd datganoledig yn cael eu cyllido, ac fe fuasai’n well gen i o lawer weld diwygio fformiwla Barnett sydd wedi hen golli hygrededd, ond cyhyd â’i bod yno, y lleiaf y gall San Steffan wneud yw rhoi i Gymru yr arian sy’n ddyledus i ni.

“Mae unrhyw fuddsoddiadau cyhoeddus ar brosiectau Lloegr-yn-unig, megis seilwaith trafnidiaeth Llundain, i fod i danio trosglwyddiad cyllid i Gymru, ar sail ein poblogaeth. Os bydd ehangu Heathrow yn golygu £20 biliwn o fuddsoddiad cyhoeddus ar uwchraddio rhwydwaith rheilffyrdd Llundain, yn ôl amcangyfrif TfL, yna mae gan Gymru hawl i £1 biliwn.

“Rwyf wedi bod yn San Steffan yn ddigon hir i weld sut mae’r Trysorlys yn ceisio amddifadu Cymru o arian sydd yn wir yn ddyledus i ni. Adeg adeiladu’r Parc Olympaidd yn Llundain ac wrth godi rheilffordd gwerth £80 biliwn trwy ganol Lloegr, ceisiodd San Steffan ddweud nad buddsoddi yn Lloegr yr oeddent, ond yn hytrach buddsoddi yn y DG. Mae dadlau fel hyn yn tanseilio holl bwrpas fformiwla Barnett.

“Gallai £1 biliwn drawsnewid economi Cymru. Gellem drydaneiddio ein rheilffyrdd, adeiladu systemau metro ac ail-agor rheilffyrdd a gaewyd er mwyn cysylltu ein cenedl. Gallem godi ysbytai, ysgolion a ffyrdd newydd.

“Byddai’n hollol warthus petai San Steffan yn ceisio dadlau eto fyth fod buddsoddi yn rheilffyrdd Lloegr rywsut yn fuddsoddiad i Gymru, ac yn amddifadu’r wlad o’r buddsoddiad hwn y mae cymaint o’i angen.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.