Ymrwymiad buddsoddiad Cymreig y Canghellor yn “sarhad”, medd Plaid Cymru

conference.jpg

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi beirniadu ymrwymiad buddsoddiad Cymreig Llywodraeth y DU yn “sarhad” gan alw “diffyg parch San Steffan tuag at y gwledydd datganoledig” yn “isafbwynt newydd.”

Ymatebodd y Canghellor i alwad Plaid Cymru i gynyddu buddsoddiad mewn isadeiledd gan addo rhannu £250 miliwn rhwng yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae Plaid Cymru wedi galw am gynnydd o 1% o GDP mewn gwariant isadeiledd, sef oddeutu £20 biliwn ledled y DU gyda £1 biliwn o hynny i Gymru.

Wrth ymateb, dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru:

“Rydym wedi hen arfer gweld San Steffan yn cynnig dim ond briwsion i Gymru a disgwyl i ni fodloni ar hynny ond mae diffyg parch amlwg y Canghellor tuag at y gwledydd datganoledig yn isafbwynt newydd.

“Mae cynnig dim ond £250 miliwn i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon rhyngddynt yn sarhad a byddai’r ymgais hon i ddangos ymrwymiad i Gymru yn chwerthinllyd pe nai bai economi Cymru mewn cyflwr mor ddifrifol.

“Mae Cymru wedi dioddef blynyddoedd o dangyllido gan San Steffan ac amharodrwydd y llywodraeth yno i adael i lywodraeth Cymru fuddsoddi yn ei lle. Mae ein gwlad nid yn unig yn cael ei hamddifadu o fuddsoddiad ond hefyd yn cael ei ffrwyno rhag gweithredu ei hunan.

“Mae £250 miliwn yn tua 0.3% o gost y rheilffordd HS2 Lloegr-yn-unig, ac mae disgwyl i ni rannu’r swm yna gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon.

“Ni fyddaf yn derbyn datganiad arall gan y Trysorlys yn addo fod buddsoddi Lloegr-yn-unig megis HS2 a Crossrail yn fuddsoddiad i Gymru. Buddsoddiad i Gymru yw rheilffordd newydd yng Nghymru neu ehangu priffordd yng Nghymru, nid rheilffordd gyflym yn Lloegr. Ni all pobl Cymru hyd yn oed deithio o’r gogledd i’r de yn eu gwlad ei hunain heb groesi’r ffin, ac rydym yn dal i aros am ein modfedd gyntaf o reilffordd drydan.

“Os yw San Steffan mor gyndyn i drin Cymru fel rhan gydradd o’r Wladwriaeth Brydeinig, yna dylai adael i Lywodraeth Cymru weithredu yn ei lle.

“Os mai dyma’r oll sydd gan Ddatganiad y Canghellor ei gynnig i Gymru yn nhermau gwariant cyfalaf, yna byddai’n well iddo orchymyn ei fiwrocratiaid i wneud newidiadau sylweddol cyn ei gyhoeddiad ddydd Mercher.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.