“Triniwch Gymru gyda’r parch sy’n ddyledus i ni”: Plaid Cymru yn gwrthod Mesur Ymadael â’r UE ym mhleidlais y Senedd

00_Leanne_Wood_AC.jpg

Y Blaid yn hyrwyddo Mesur Parhad i wrthwynebu’r ffaith fod San Steffan yn “diystyru democratiaeth”

Mae Leanne Wood wedi mynnu fod y Llywodraeth Brydeinig yn “trin Cymru gyda’r parch sy’n ddyledus i ni”, yn ystod dadl ar Fesur Ymadael â’r UE a fydd yn dwyn pwerau ymaith o Gymru.

Ymosododd Ms Wood a Steffan Lewis AC ar gynigion San Steffan i osod nenfwd newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad wrth i’r wlad adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd cynlluniau Llywodraeth y DG eu condemnio’n eang yn y gwledydd datganoledig.

Pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol i atal eu rheolau sefydlog er mwyn gallu cynnal dadl yn gwrthwynebu mesur Llywodraeth y DG. Mae’r cynnig ar y cyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn golygu bod rhyw ddwy ran o dair o’r holl ACau wedi gwrthod Mesur Ymadael Llywodraeth y DG, a bod nod Plaid Cymru o gael Mesur Parhad yn awr yn bolisi cenedlaethol.

Nod Mesur Parhad fydd gwreiddio cyfraith yr UE yng nghyfraith Cymru, cyn i Fesur Ymadael yr UE ddod i rym.

Fodd bynnag, yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn feirniadol o’r ffaith y bu’r Llywodraeth Lafur yn araf iawn yn cyflwyno Mesur Parhad. Galwodd ei phlaid yn gyntaf am Fesur Parhad ym mis Tachwedd 2016, ond methodd Llafur dro ar ôl to a chyflwyno un.

Dywedodd Leanne Wood a’i Hysgrifennydd Cabinet cysgodol dros faterion Allanol, Steffan Lewis, y buasent yn dal y Llywodraeth Lafur at eu hymrwymiad.

Meddai Leanne Wood:

“Fe ddylem fod yn glir ynghylch Mesur Ymadael yr UE Llywodraeth y DG. Nid yw’n ddim llai nac ymgais i dynhau gafael Llundain ar Gymru.

“Pleidleisiodd pobl Cymru ddwywaith i roi grym i’n democratiaeth Gymreig ni ein hunain a’n sefydliadau cenedlaethol ein hunain. Mae Mesur Ymadael â’r UE yn anwybyddu ac yn sathru ar y pleidleisiau hynny mewn modd annerbyniol.

“Ni allwn gael math penodol o adael yr UE lle mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn – Senedd Cymru fel y bydd yn y dyfodol – yn cael ei danseilio neu ei fychanu.

“Mae pobl yng Nghymru eisiau i’w gwlad gael ei pharchu a’i chlywed. Rhaid i gymryd rheolaeth olygu bod pwerau yn dod i Gymru. Mae’n golygu bod yn rhaid i San Steffan drin y genedl hon gyda’r parch yr ydym yn ei haeddu.”

Wrth fynnu Mesur Parhad yr UE, dywedodd Steffan Lewis AC:

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad heddiw i gyhoeddi Mesur Parhad i Gymru.

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru cyn hyn Fesur Cymru amgen gydag amcan gwleidyddol clir. Gallai Mesur Parhad wneud yr un peth, yn ychwanegol at ddod â manteision ymarferol o ran darparu eglurder a pharhad i ddinasyddion Cymru a sectorau allweddol o’n heconomi a’n cymunedau.

“Byddai peidio â gwneud hynny yn bradychu ein dyletswydd o gynnal dymuniad pendant pobl Cymru o ran y modd maent wedi penderfynu sut y maent am gael eu llywodraethu.

“Fe fuom yn aros chwe chan mlynedd am ymreolaeth; allwn ni dim gadael iddo gael ei erydu dros y chwe mis nesaf gan giwed yn San Steffan heb fandad i wneud hynny.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.