Dyfodol taliadau amaethyddol yn y fantol

BL1.jpg

Mae’r Llywodraeth Brydeinig wedi rhoi ergyd i’r sector amaethyddol heddiw drwy fynegi ansicrwydd dros ddyfodol taliadau ffermwyr.

Mewn araith heddiw, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Michael Gove, na fydd taliadau amaethyddol yn y dyfodol yn cael eu gwarantu.

Wedi 2022, bydd ffermwyr ond yn derbyn taliadau os ydynt yn cytuno i ddiogelu’r amgylchedd ac ategu at fywyd gwledig. Nid yw manylion y polisi na’r meini prawf wedi eu cadarnhau.

Yr unig beth y mae datganiad gwag Gweinidog yr Amgylchedd yn ei wneud yw bygwth bywoliaeth cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru sydd yn dibynnu ar daliadau sydd yn cyfri am 80% o’u hincwm.

Wrth ymateb i’r araith, dywedodd llefarydd amaethyddiaeth Plaid Cymru, Ben Lake AS:

“Mae’n ffaith bod ansicrwydd ar gyfer unrhyw fusnes boed hynny ar y stryd fawr neu ar y fferm deuluol, yn wenwynig yn economaidd. Pan mae diogelwch bwyd yn y fantol, dylai’r Llywodraeth Brydeinig wybod yn well na gwneud datganiadau amwys pan nad oes ganddynt gynllun.

“Tra fy mod yn cytuno gyda chynsail diwygio Polisi Amaethyddol Cyffredin fel nad yw’n ffafrio tirfeddiannwyr mawr, fel y Frenhines a Thywysogion o dramor, nid yw’r datganiad hwn yn gwneud unrhyw ymrwymiadau i ddiogelu taliadau i ffermydd teuluol annibynnol. Yr unig beth mae’r datganiad yn ei wneud yw codi bwganod a niweidio hyder y sector.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn dibynnu ar daliadau sydd yn cyfri am 80% o’u hincwm. Mae angen eglurdeb a sicrwydd ar y bobl yma.

“Mae’r fferm deuluol annibynnol wrth galon ein heconomi. Dyma beth sydd yn diogelu a rheoli ein hamgylchedd. Mae’n rhan o falchder hanesyddol a chymdeithasol ein gwlad.

“Nid budd-daliad mo’r gefnogaeth ariannol y mae ffermwyr yng Nghymru yn ei derbyn; cefnogaeth i sicrhau parhad diogelwch bwyd ac iechyd ein heconomi ydyw. Mae’n golygu ein bod ni’n gallu parhau i fwynhau’r cynnyrch amaethyddol gorau.

“Mae ffermwyr Cymru yn dibynnu ar daliadau ffermio, ac rydym ni’n dibynnu ar ffermwyr Cymru. Mae’n rhaid diogelu eu taliadau ac mae Plaid Cymru yn mynnu eu bod yn cadw pob ceiniog.”

Ychwanegodd Simon Thomas AM, llefarydd amaeth Plaid Cymru yn y Cynulliad:

“Ni allwn adael i Geidwadwyr sydd ddim yn cynrychioli Cymru lunio dyfodol ffermio yng Nghymru.

“Mae Plaid Cymru yn cytuno gyda chreu fframweithiau sydd yn gweithio ar draws y DG wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni’n awyddus i weithio i adeiladu’r fframweithiau amaeth, pysgota ac amgylchedd, ond mae agwedd Gweinidogion yn San Steffan yn gwneud hynny yn amhosib.

“Nid fframweithiau cydweithiol y ceir yma ond gorchmynion. Yn lle ymdrin â gwledydd y DG yn hafal, roedd araith Michael Gove i’r gwrthwyneb yn tanseilio Llywodraeth Cymru ac yn mynd yn groes i’n buddiannau cenedlaethol fel gwlad.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.