Cymru'n cael ei thawelu ar Brexit wrth i Lafur fethu gwrthwynebu'r Ceidwadwyr

11westminster.jpg

Plaid yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru am eglurhad o dro-pedol Llafur

Bydd Llywodraeth San Steffan nawr yn gallu gwthio'r Mesur Ymadael drwy'r Senedd hyd yn oed os yw'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon oll yn pleidleisio yn ei erbyn, yn dilyn trechu gwelliant Plaid Cymru yn Nhy'r Cyffredin heno.

Cefnogwyd Plaid Cymru gan yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r Blaid Werdd ond daeth gwrthwynebiad gan y Ceidwadwyr a'r DUP gyda bron pob AS Llafur yn ymatal.

Byddai'r gwelliant wedi mynnu fod y Prif Weinidog yn sicrhau cytundeb pob cenedl ddatganoledig yn y DU cyn dileu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Grwp Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol gan ofyn am eglurhad pam fod y Blaid Lafur wedi newid ei safbwynt ar roi llais ystyrlon i Gymru yn y Cynulliad ar gytundeb terfynol Brexit.

Yn y llythyr, mae Steffan lewis AC, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Allanol yn cyhuddo ASau Llafur o danseilio gallu'r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu er budd Cymru a rhoi'r mandad i Lywodraeth San Steffan i amharchu ewyllys democrataidd pobl Cymru'n llwyr.

Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno cwestiwn brys yn y Cynulliad yfory ar benderfyniad y Blaid Lafur i ymatal.

Wrth siarad ar ol y bleidlais, dywedodd Hywel Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan:

"Heno, dywedwyd wrth bobl Cymru nad ydi eu barn ar Brexit yn cyfri.

"Unwaith eto mae pleidiau San Steffan wedi ochri gyda'i gilydd i sicrhau nad yw llais Cymru'n cyfri dim pan ddaw'n fater o'n economi, cyflogau ein pobl a safonau byw ein plant ein hunain.

"Mae pedair cenedl yn rhan o'r DU, nid dim ond un, ond heno sicrhaodd ASau o'r pleidiau Llundeinig y bydd telerau Brexit yn cael eu penderfynu gan ddim ond un o'r gwledydd hynny.

"Nid ymgais i atal Brexit oedd ein gwelliant ond yn hytrach ymgais i sicrhau fod Cymru a gwledydd eraill y DG yn cael lleisio barn dros eu dyfodol. Dylai pob senedd cenedlaethol fod yn rhan o'r broses hon, nid dim ond San Steffan.

"Bydd ASau Plaid Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod a'u lleisio yn San Steffan, er gwaethaf apathi Llafur."

Dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol a'i llefarydd Brexit yn y Cynulliad, Steffan Lewis AC:

"Mae'r ffaith fod ein llywodraeth ein hunain yng Nghymru, dan arweiniad y Blaid Lafur, yn dewis gwadu llais i bobl Cymru ar Brexit yn cynrychioli'r weithred fwyaf o niwed yn erbyn budd cenedlaethol Cymru ers tanio erthygl 50.

“Dro ar ol tro mae'r Blaid Lafur wedi dweud wrth ddinasyddion Cymru ei bod yn credu y dylai Cymru gael lleisio barn ystyrlon ar delerau Brexit ond heno maent wedi mynd yn groes i'w gair ac yn hytrach wedi sicrhau fod dyfodol Cymru yn nwylo'r Ceidwadwyr a'r DUP yn San Steffan.

"Heb os mae gallu ein Cynulliad Cenedlaethol i weithredu er lles Cymru wedi ei danseilio'n ddifrifol gan weithredoedd ASau Llafur heno. Mae Llafur wedi siomi pobl Cymru gan roi mandad i'r Toriaid yn Llundain i amharchu ewyllys democrataidd pobl Cymru mewn dau refferendwm yn llwyr.

"Un waith eto, cyfrifoldeb Plaid Cymru yw hi i frwydro dros fuddiannau ein pobl - dyfodol yr NHS, swyddi a chyflogau Cymreig a safonau byw. Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth y gallwn yn Senedd San Steffan a'n Senedd ein hunain yng Nghymru i sicrhau fod buddiannau ein cenedl yn cael eu clywed a'i gwarchod. De ddechreuwn drwy alw’r Prif Weinidog i’r Cynulliad yfory i ofyn am esboniad am benderfyniad ei blaid i ymatal ar y bleidlais."

Yr Aelodau Seneddol wnaeth bleidleisio yn erbyn y gwelliant:

  • Guto Bebb, Ceidwadwyr (Aberconwy)
  • Alun Carins, Ceidwadwyr (Bro Morgannwg)
  • Stephen Crabb, Ceidwadwyr (Preseli Penfro)
  • Chris Davies, Ceidwadwyr (Brecon & Radnorshire)
  • David T.C. Davies, Ceidwadwyr (Sir Fynwy)
  • Glyn Davies, Ceidwadwyr (Maldwyn)
  • Simon Hart, Ceidwadwyr (Gorllewin Caerfyrddin)
  • David Jones, Ceidwadwyr (Clwyd West)

The following MPs representing Welsh seats supported the amendment:

  • Hywel Williams, Plaid Cymru (Arfon)
  • Liz Saville Roberts, Plaid Cymru (Dwyfor Meirionnydd)
  • Jonathan Edwards, Plaid Cymru (Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr)
  • Ben Lake, Plaid Cymru (Ceredigion)
  • Albert Owen, Llafur (Ynys Mon)

The following MPs representing did not vote at all:

  • Stephen Kinnock, Llafur (Aberafan)
  • Mark Tami, Llafur (Alyn & Deeside)
  • Tonia Antoniazzi, Llafur (Gwyr)
  • Kevin Brennan, Llafur (Gorllewin Caerdydd)
  • Chris Bryant, Llafur (Rhondda)
  • Ann Clwyd, Llafur (Cwm Cynon)
  • Nick Smith, Llafur (Blaenau Gwent)
  • Wayne David, Llafur (Caerffili)
  • Geraint Davies, Llafur (Gorllewin Abertawe)
  • Chris Elmore, Llafur (Ogmore)
  • Stephen Doughty, Llafur (De Caerdydd a Phenarth)
  • Chris Evans, Llafur (Islwyn)
  • Paul Flynn, Llafur (Gorllewin Casnewydd)
  • Nia Griffith, Llafur (Llanelli)
  • David Hanson, Llafur (Delyn)
  • Carolyn Harris, Llafur (Swansea East)
  • Gerald Jones, Llafur (Merthyr Tydful & Rhymni)
  • Susan Jones, Llafur (De Clwyd)
  • Ian Lucas, Llafur (Wrecsam)
  • Anna McMorrin, Llafur (Gogledd Caerdydd)
  • Madeleine Moon, Llafur (Pen y Bont)
  • Jessica Morden, Llafur (Dwyrain Casnewydd)
  • Christina Rees, Llafur (Castell Nedd)
  • Chris Ruane, Llafur (Bro Clwyd)
  • Owen Smith, Llafur (Pontypridd)
  • Jo Stevens, Llafur (Canol Caerdydd)
  • Nick Thomas-Symonds, Llafur (Torfaen)

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.