Ysgol Aeaf 2017

Catalonia.jpg

Yn dilyn cynhadledd ardderchog llawn egni ychydig o wythnosau yn ôl mae hi wedi dod yn amlwg fod nifer o aelodau Plaid Cymru eisiau cyfle arall i gyfarfod a thrafod polisïau a blaenoriaethau’r Blaid gyda’ch cyd-aelodau.

Rydym yn falch iawn i’ch gwahodd felly i Ysgol Aeaf Plaid Cymru, a gynhelir ddydd Gwener 8fed a Sadwrn 9fed o Ragfyr yn Aberystwyth. Mae llawer ohonoch wedi sôn y byddech yn gwerthfawrogi cyfle arall i drafod polisi mewn mwy o fanylder a chael dysgu mwy am sut i droi’r syniadau yma yn realiti drwy ennill etholiadau.

Rydym wedi gwneud trefniadau ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Ysgol Aeaf arbennig. Bydd pynciau i’w trafod yn cynnwys annibyniaeth, diwygio etholiadol, archwilio’r pwerau cyllidol newydd sydd ar eu ffordd i Gymru, datblygu’r cyfryngau yng Nghymru, Ail-adeiladu Ewrop, hyfforddiant ymgyrchu a chyfathrebu a llawer mwy. Fe fydda i, a llawer o’n haelodau etholedig yno, gan gynnwys yr AS lleol gwych dros Geredigion, Ben Lake.

Cliciwch yma i weld y rhaglen ar gyfer yr Ysgol Aeaf.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i dudalen y digwyddiad Facebook:
https://www.facebook.com/events/138591226785903/permalink/143352146309811/

Y ffi gofrestru sy’n cynnwys y ddau ddiwrnod yw £20 ac mae'n cynnwys cinio (£10 i fyfyrwyr, pobl di-gyflog a’r rhai sydd yn ennill llai na £15,000). Archebwch eich lle yn yr Ysgol Aeaf nawr drwy gysylltu â Gwennolhaf@plaid.cymru / 02920 475920. Cliciwch yma i lawrlwytho rhestr llety ar gyfer yr ardal leol.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno – Ymlaen!

Newydd: Digwyddiadau Cymdeithasol

Nos Wener: Cwis

Cwis.jpg

Nos Sadwrn: Gig

Gwerinos.jpg

 

PRYD
December 08, 2017 at 10am - December 09, 2017
BLE
Medrus
Penbryn
Penglais
Aberystwyth, Wales SY23 3BY
United Kingdom
Map Google a chyfarwyddiadau
CYSWLLT
Gwennol Haf · · 02920472272
41 RSVPs

A fyddwch yn dod?

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.