Gweledigaeth Plaid Cymru am sector amaethyddol llwyddiannus yng Nghymru wedi Brexit

00_Simon_Thomas_AC.jpg

Gan Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Simon Thomas AC

Byddai amaethyddiaeth yn wynebu’r effaith fwyaf o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ôl ymchwil gan yr NFU, oherwydd, am bob £1 a fuddsoddir yn y DG, mae ffermio yn rhoi £7.40 yn ôl i’r economi.

Mae arnom angen y fframwaith reoleiddio a’r polisïau iawn i leihau gymaint ag sydd modd y niwed a achosir i’r sector. Ar yr un pryd, mae posibilrwydd y bydd rhai newidiadau, megis cael rhywbeth yn lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, yn gallu cyflwyno gwelliannau amaethyddol ac amgylcheddol.

Bu Plaid Cymru yn ymgynghori gyda’r sector materion gwledig yr haf diwethaf yn dilyn y bleidlais i adael yr UE. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cynnal ymchwiliad a bydd yn adrodd toc. Mae gennym gyfoeth o wybodaeth am ba fframwaith a pholisïau y mae rhanddeiliaid eisiau at y dyfodol. Fodd bynnag, mae llawer yn dibynnu ar y trafodaethau masnach a wneir gan Lywodraeth San Steffan a faint o lais fydd gan Gymru yn y trafodaethau hyn.

Aiff dros 90% o allforion bwyd a diod Cymru ar hyn o bryd i wledydd yr UE yn rhydd o dariffau. Daeth yn amlwg y gall Cymru gystadlu ar ansawdd ei bwyd a’i diod, ond na all gystadlu o ran pris. Y mae yn wir yn fater o bryder y bydd cytundebau masnach Llywodraeth San Steffan yn arwain at osod tariffau ar allforion bwyd a diod Cymru a mewnforion rhad yn llifo i farchnad y DG.
Mae’n hanfodol fod llais cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn cael ei gynrychioli yn nhrafodaethau masnach Llywodraeth y DG. Barn Plaid Cymru yw y byddai buddiannau sector amaeth Cymru ar eu hennill orau trwy barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl, a bod yn rhaid osgoi rhwystrau tariff.

Mae safonau uchel mewn iechyd a lles anifeiliaid ac mewn amgylchedd yn sylfaen i ansawdd bwyd a diod Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r fframwaith reoleiddio ar gyfer y safonau hyn yn cael ei osod ar lefel yr UE. Bu amaeth wedi ei ddatganoli ers 17 mlynedd, a datblygodd pedair cenedl y DG bolisïau sylweddol wahanol i gwrdd â’u gwahanol anghenion. Wedi gadael yr UE, mae arnom angen fframwaith i’r DG y mae’r pedair cenedl yn cytuno arno yn gyfartal yn gyfartal, gyda chymaint o ryddid ag sydd modd i wahanol agweddau.

Mae amaeth yng Nghymru ac yn Lloegr yn wahanol iawn. Pori gan dda byw, defaid yn arbennig, sy’n cyfrif am 75% o ddefnydd tir yng Nghymru, a 80% o hwn yn ‘ardal lai ffafriol’ neu dir DLlFf. Yn Lloegr, defnyddir 55% o dir amaethyddol i dyfu cnydau. Mae tirwedd, daearyddiaeth, hinsawdd, diwylliant ac iaith oll yn ffurfio rhan o’i hagweddau a’i hanghenion gwahanol.

Yn 2014-15, roedd taliadau uniongyrchol o gyllid yr UE yn cyfrif am 81% ar gyfartaledd o elw pob math o fferm yng Nghymru. Mae ar Lywodraeth San Steffan i’r sector amaethyddol yr un lefel o gyllid wedi gadael yr UE ag a geir ar hyn o bryd dan y PAC, fel yr addawyd gan y sawl fu’n ymgyrchu i adael yr UE. Mae Cymru ar hyn o bryd yn cael bron i ddwywaith cymaint â’n cyfran "Barnett" o gyllid CAP y DG, felly yn y dyfodol, rhaid cytuno ar hyn ar wahân i fformiwla Barnett.

Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i ddefnyddio’r cyllid hwn i gynnal amaethyddiaeth a’r economi wledig.

Dywed rhanddeiliaid o’r sectorau amaeth, materion gwledig ac amgylcheddol na fu’r CAP yn cyflawni ar amcanion amaethyddol, economaidd nac amgylcheddol a’i fod yn rhy gymhleth a biwrocrataidd. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle i ddatblygu rhaglen sy’n sylweddol wahanol.

Mae cyfle i dargedu cefnogaeth lle mae ei angen, megis ffermydd bychain yr ucheldir, yn hytrach na busnesau mwy ac i dalu ffermwyr ar sail deilliannau yn hytrach na faint o dir sydd ganddynt. Mae dros 80% o dir yng Nghymru yn cael ei ffermio, ac y mae ffermwyr felly mewn lle da iawn i wella ein hamgylchedd a’n heconomi.

Gellid talu ffermwyr i gyflwyno ‘gwasanaethau ecosystem’ - gwell ansawdd dŵr a bioamrywiaeth; atal llifogydd a thorri carbon. Gallai hyn dorri biwrocratiaeth wrth i ffermwyr dderbyn taliadau seiliedig ar ddeilliannau, gyda rhyddid i fod yn arloesol ynghylch sut i gyrraedd y deilliannau hynny.

Carai Plaid Cymru weld cryfhau’r cysylltiadau rhwng ffermio, yr economi wledig ehangach a’n cymunedau. Mae gwell seilwaith, gwasanaethau a chyfleoedd ar hyd yr ardaloedd gwledig a chynnal y sector amaethyddol oll wedi eu cysylltu. Mae band eang a chludiant cyhoeddus da yn gwneud ardaloedd yn fwy deniadol i fyw a gweithio a chynnal busnes ynddynt. Gall gwell cyfleusterau, gofal plant a chyfloed i ddatblygu sgiliau wneud ardaloedd gwledig yn fwy deniadol i bobl ifanc. Gallai prentisiaethau a choleg sgiliau gwyrdd helpu i ddarparu gweithlu amaethyddol at y dyfodol, gyda gwybodaeth a sgiliau cyfoes am y technegau diweddaraf. Gallai cynlluniau ynni adnewyddol cymunedol helpu i dorri carbon a gostwng biliau ynni cymunedau. Gallai mynediad at natur, gyda thirweddau wedi eu gwarchod yn hyfryd, a lonydd beicio a cherdded helpu i dyfu’r diwydiant twristiaeth a hefyd roi manteision iechyd i gymunedau cyfagos.

Mae'r blogiad hwn yn gyfieithiad o draethawd wnaeth ymddangos yn wreiddiol yn y Western Mail

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.