Cymru wedi’i gadael allan o fuddsoddiad y Llywodraeth mewn band llydan

Ben_Lake_MP_1.jpg

Bydd chwe ardal ar draws Lloegr a’r Alban yn elwa o werth £10 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus mewn band llydan“ffibr-llawn”, gyda Chymru’n cael ei gadael allan o’r rhaglen yn gyfan gwbl, diolch i benderfyniad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Mae Plaid Cymru wedi galw’r penderfyniad yn “anhygoel”, gan dynnu sylw at ystadegau sy’n dangos fod saith o’r deg ardal gyda’r cyflymderau band llydan arafach yn y DG yng Nghymru.

Bydd y cynlluniau peilot band llydan “ffibr-llawn”, a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Prydain, yn rhedeg yn Swydd Aberdeen, Gorllewin Sussex, Coventry a Swydd Warwick, Bryste, Gorllewin Swydd Efrog a Manceinion Fwyaf. Bydd yn caniatáu i fusnesau, ysgolion ac ysbytai yn yr ardaloedd hyn i gyrraedd cyflymderau agos at un gigabit yr eiliad (Gbps).

Mae trigolion a busnesau yn Abererch yn Nwyfor Meirionnydd yn cael cyflymderau o ddim ond 2.7 megabit yr eiliad (Mbps) – yr arafaf sydd ar gael yn unman yn y DG. Isafswm derbyniol lefel llawrlwytho Llywodraeth Prydain ein hun yw 10 Mbps.

Meddai llefarydd y Blaid ar fand llydan, Ben Lake AS:

“Mae’n anhygoel fod Llywodraeth Prydain wedi penderfynu gadael Cymru allan o’r rhaglen hon, ar waethaf y ffaith fod gennym rai o’r cyflymderau band llydan arafaf yn unman yn y DG.

“Mae’r ffaith fod saith o’r deg ardal waethaf am gyflymder band llydan yng Nghymru yn warthus ynddo’i hun, ond penderfyniadau fel hwn o du Llywodraeth Prydain i esgeuluso Cymru unwaith eto sydd wedi arwain at y sefyllfa hon.

“Pam fod y Llywodraeth yn blaenoriaethu ardaloedd sydd eisoes â gwasanaeth da? Oni ddylent fod yn blaenoriaethu ardaloedd sydd mewn angen dybryd am well cyflymder band llydan ?

“Mae angen holi Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth Cymru am ba sylwadau a wnaed er mwyn sicrhau bod Cymru wedi ei chymwys.

“Mae llawer o f’etholwyr i heb allu cyrchu’r hyn mae Ofcom yn gydnabod fel y cyflymder angenrheidiol i gyflwyno 'profiad derbyniol i ddefnyddwyr', sydd ei angen ar gyfer tasgau sylfaenol fel pori’r we, ffrydio a galwadau fideo. Mae bod allan o gysylltiad ag oblygiadau difrifol i fusnesau yn ogystal â thrigolion, ac mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ddechrau blaenoriaethu’r ardaloedd hynny sydd yn is na’r safon.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.