Diwedd rhyddid symud yn gwneud trwyddedau gweithio Cymreig yn hanfodol

22334055508_ed5c31739b_o.jpg

Mae diwedd rhyddid symud Ewropeaidd yn y Wladwriaeth Brydeinig yn ei gwneud yn hanfodol caniatáu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fisas gweithio Cymreig, medd Plaid Cymru.

Awgrymodd Gweinidog mewnfudo Llywodraeth Prydain, Brandon Lewis, heddiw y bydd rhyddid i symud rhwng y DG-UE yn dod i ben yn 2019.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gael y cyfrifoldeb dros gyhoeddi cyfran o fisas y DG er mwyn sicrhau y bydd modd cau prinder sgiliau yng Nghymru.

Dan gynigion Plaid Cymru, byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyhoeddi cyfran ar sail poblogaeth o fisas y DG, er mwyn llenwi bylchau sgiliau. Amcangyfrifir mai 4.7% yw cyfran Cymru o boblogaeth y DG, yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol.

Erys Plaid Cymru yn ymrwymedig i gadw Cymru yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau trwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams:

“Mae agwedd ‘un-maint-i-bawb’ San Steffan at bolisi mewnfudo yn gwneud tro gwael â Chymru ac y mae ein prinder sgiliau yn cyfyngu ar ein gallu i roi swyddi a chyflogau da ac yn atal ein cenedl a’n pobl rhag cyrraedd eu potensial.

“Mae gan Gymru eisoes brinder dybryd o feddygon a nyrsys, er enghraifft - yr ydym eisoes yn dibynnu ar fewnfudwyr gyda sgiliau o’r UE a mannau eraill i gynnal y gwasanaeth iechyd. Yn y tymor hir, rhaid i ni hyfforddi a recriwtio o’n gweithlu ein hunain, ond yn y tymor byr a’r tymor canol, does gennym ni ddim dewis ond dibynnu ar fewnfudwyr gyda sgiliau, a diolch i esgeulustod parhaus Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi gwrthod buddsoddi i hyfforddi meddygon yng Nghymru, yr ydym yn dibynnu mwy nac y dylem ar ddenu sgiliau o wledydd eraill.

“Allwch chi ddim cael agwedd un-maint-i-bawb at fewnfudo. Tra bod un o bob chwech o bobl yn Lloegr yn fewnfudwyr o dramor, mae 96% o bobl yng Nghymru yn dod o Ynysoedd Prydain. Mae bylchau sgiliau arwyddocaol mewn rhai sectorau yn economi Cymru, tra bod anghenion Lloegr yn wahanol.

“Trwy ganiatáu i Lundain bennu polisi mudo Cymru, rydym mewn perygl o gael polisi mewnfudo a gynlluniwyd i gwrdd ag anghenion Dinas Llundain a’r sector gwasanaethau ariannol ar draul Cymru.

“Yr ateb yw i Lywodraeth Cymru greu cofrestr o alwedigaethau lle mae prinder sgiliau a chyhoeddi trwyddedau gweithio sydd yn adlewyrchu’r prinder hwnnw.

“Dylid caniatáu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cyfran o fisas y DG, ar sail ein poblogaeth gymharol. Yn gyffredinol, ni fyddai yn effeithio ar nifer y bobl sy’n dod i’r Wladwriaeth Brydeinig ond fe fyddai’n sicrhau y gallai Cymru gau’r bwlch sgiliau yn ei heconomi.

“Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw Cymru yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau trwy barhau yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd unwaith i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond os bydd Llywodraeth Prydain yn llwyddo i roi terfyn ar ryddid symud neu beidio, mae’n iawn i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth dros gyhoeddi ei chyfran hi o drwyddedau gweithio. Mae’n amlwg nad yw San Steffan yn malio fawr ddim am economi Cymru, felly mater i ni yng Nghymru yw edrych ar ein holau ein hunain.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.