Plaid Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i “fandaliaeth economaidd”
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i lusgo’i thraed rhag peryglu contract technoleg hanfodol a allai sicrhau miloedd o swyddi technegol o ansawdd uchel yng Nghymru Wales.
Mae Plaid Cymru yn cael ar ddeall fod y cwmni Cymreig IQE – prif gyflenwr y byd o dechnoleg VCSEL i’r camerau 3D yn yr iphone8 newydd– yn gobeithio cymryd drosodd hen adeilad LG P&T yng Nghasnewydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni contract mawr newydd..
Mae’r Prif Weinidog wedi disgrifio’r buddsoddiad ehangach y mae hwn yn rhan ohono fel “llwyddiant o bwys” ac wedi dweud y bu gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i wneud Cymru yn “ganolfan fyd-eang o ragoriaeth mewn lled-ddargludyddion cyswllt.”
Fodd bynnag, deellir bellach, wedi llawer o lusgo traed a haglo gan Lywodraeth Cymru, fod y cwmni yn ystyried Cynllun B o adleoli’r project i’w safle yng Ngogledd Carolina. Dywedir bod y cwmni wedi rhoi tan Orffennaf 14 i Lywodraeth Cymru sicrhau’r fargen.
Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi, Adam Price:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu rhoi i’r prosiect hwn y flaenoriaeth glir ar lefel cabinet y mae’n haeddu. Mae gan y dechnoleg hon y potensial i chwyldroi amrywiaeth o sectorau – ac fe allem ei adeiladu yma yng Nghymru. Mae rhoi’r cyfrifoldeb i swyddogion lefel isel yn adran eiddo Llywodraeth Cymru a dadlau gyda’r partneriaid yn yr awdurdod lleol am fanion wedi peryglu un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed gan gwmni cynhenid llwyddiannus.”
Meddai AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru Steffan Lewis:
“Rwy’n mawr obeithio nad yw’n rhy hwyr i newid y sefyllfa hon. Mae IQE yn arwain y byd yn nhechnoleg yfory, a dyma’r math o swyddi y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sicrhau ein bod yn eu denu i Gymru. Yn hytrach, mae’r llywodraeth bron wedi eu gyrru ymaith. Rwy’n gobeithio y bydd ymyriad Plaid Cymru heddiw yn gorfodi Llywodraeth Cymru i unioni pethau, ond rhaid dysgu gwersi er mwyn atal y math hwn o fandaliaeth economaidd.”