Neges Fideo gan ein Ffrindiau Ewropeaidd

Heb os mae’r refferendwm dros ein haelodaeth o’r UE yn dominyddu’r wasg a’r dadlau’n poethi. Gyda ffeithiau a ffigyrau’n cael eu taflu o bob cwr, mae’n anodd gweld y golau. Diolch byth felly fod modd i ni droi at ein ffrindiau am gyngor a chefnogaeth.

Gyda’n gilydd, gyda’n ffrindiau o genhedloedd eraill Ewrop gallwn gydweithio i greu Ewrop y bobloedd.

Cliciwch yma i rhannu’r fideo ar Facebook.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.