Amaeth Cymru ar groesffordd wedi Brexit – Plaid Cymru

 

Simon_Thomas.jpg

Bydd AC Plaid Cymru Simon Thomas yn rhoi ei weledigaeth am amaethyddiaeth y bore yma (11am – 12pm) yn ystod seiat holi ar stondin Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Mae disgwyl i Simon Thomas AC, yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ddweud:
“Mae ffermio Cymru ar groesffordd os gadawn yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd amaethyddiaeth yn wynebu’r effaith fwyaf o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ôl ymchwil gan yr NFU, oherwydd am bob £1 a fuddsoddir mewn cefnogaeth i ffermio yn y DG, mae ffermio yn rhoi £7.40 yn ôl i’r economi. Dyna pam fod arnom angen y fframwaith reoleiddio a’r polisïau iawn i liniaru cymaint ag sydd modd ar y niwed a achosir i’r sector.

“Mae llawer yn dibynnu ar y trafodaethau masnach a gynhelir gan Lywodraeth San Steffan a faint o lais fydd gan Gymru yn y bargeinio.

“Gallai cytundebau masnach Llywodraeth San Steffan olygu y gwelwn dariffau yn cael eu gosod ar allforion bwyd a diod Cymreig a mewnforion rhad yn llifo i farchnad y DG.

“Barn Plaid Cymru yw mai’r ffordd orau i’n sector amaethyddol yw trwy barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac osgoi rhwystrau tariff.

“Mae arnom angen fframwaith i’r DG y mae’r pedair cenedl yn cytuno arno yn gyfartal, gyda chymaint o ryddid ag sydd modd ar gyfer gwahanol agweddau.

“Mae Cymru ar hyn o bryd yn cael bron i ddwywaith gymaint â’n cyfran ‘Barnett’ o gyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin o’r DG, felly yn y dyfodol rhaid cytuno ar hyn ar wahân i fformiwla Barnett.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru hefyd ymrwymo i ddefnyddio’r cyllid hwn i gefnogi amaethyddiaeth a’r economi wledig. Yn dilyn cwestiwn gen i, mae Llywodraeth Cymru wedi gwarantu parhad o gefnogaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin hyd at 2021: hyd at 2020 a addawyd yn flaenorol.

“Wrth i ni nesáu at y groesffordd hon i amaeth Cymru, hoffwn weld y gefnogaeth yn cael ei dargedu lle mae ei angen, megis ffermydd bychain yr ucheldir, yn hytrach na thirfeddianwyr mawr a busnesau ffermio mawr.

“Mae angen i ni symud tuag at dalu ein ffermwyr ar sail deilliannau yn hytrach na faint o dir sydd ganddynt. Mae dros 80 y cant o dir yng Nghymru yn cael ei ffermio, ac y mae ffermwyr felly mewn sefyllfa dda i wella ein hamgylchedd a’n heconomi.

“Gelid talu ffermwyr i gyflwyno gwasanaethau ecosystem megis gwell ansawdd dŵr a bioamrywiaeth; atal llifogydd a thorri carbon. Byddai hyn yn lleihau biwrocratiaeth gan y byddai ffermwyr yn derbyn tâl ar sail deilliannau, gyda’r rhyddid i arloesi gyda’r modd maent yn cyrraedd y nod.”

“Er bod hyn yn ddatblygiad deniadol i lawer, mae’n rhaid i ni gofio y bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd hefyd yn gymwys. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhain yn caniatáu i ni dalu ffermwyr dim ond am wneud pethau cadarnhaol, ond yn unig am yr incwm maent yn golli trwy eu gwneud. Mae llawer o drafodaethau cymhleth o’n blaenau, a dyna pam y mae’n hanfodol i Gymru gael llais cryf a chyfartal yn y trafodaethau hyn.”

Wrth i Ysgrifennydd Gwladol y DG dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Michael Gove ymweld â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, heriodd Simon Thomas arweinydd yr ymgyrch Adael.

Ychwanegodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas:

“Rydym wedi cael 20 mlynedd o wneud penderfyniadau ar amaethyddiaeth o Gymru, a chadarnhaodd pobl Cymru hynny yn bendant yn refferendwm 2011 ar bwerau’r Cynulliad. Allwn ni ddim caniatau yn awr i Dorïaid nad ydynt yn cynrychioli Cymru i lunio dyfodol amaethyddiaeth Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn cytuno â’r angen am fframweithiau’r DG wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yr oeddem eisiau gweithio i lunio’r fframweithiau hynny ar gyfer amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd, ond mae agwedd Gweinidogion Torïaidd yn Whitehall yn gwneud hyn yn amhosib.

“Yr hyn rydym yn weld yn awr yw nid fframweithiau, ond pethau sy’n cael eu gosod. Yn hytrach na thrin pedair cenedl y DG yn gyfartal, mae araith ddiweddaraf Michael Gove yn ergyd yn erbyn buddiannau Cymru a phwerau Llywodraeth Cymru.
“Mae Michael Gove eisiau gwneud y penderfyniadau allweddol ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yma yng Nghymru, er nad yw’n cynrychioli sedd yng Nghymru. Anetholedig, anatebol ac annemocrataidd – buasem yn troi’r cloc yn ôl i’r cyfnod cyn datganoli.”

“Mae’r Ceidwadwyr a Gove wedi sôn yn y gorffennol am ganiatáu cnydau GM a defnyddio neonicontinoidiau, plaleiddiaid sydd yn lladd ein poblogaethau o wenyn, yn amaethyddiaeth y DG. Maent yn dal i ganiatáu lefelau peryglus o uchel o lygredd aer. Mae Michael Gove yn defnyddio geiriau teg wrth rai amgylcheddwyr, ond y gwir yw y byddwn ni yng Nghymru yn colli llawer o fanteision amgylcheddol ac amaethyddol os caiff y Torïaid eu ffordd ac atal datganoli gyda Mesur Ymadael â’r UE.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.