Plaid Cymru yn rhybuddio y gallai rhai ffermwyr wedi torri ar daliadau fferm sylfaenol wedi 2019

FARM2019.jpg

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai rhai ffermwyr weld torri eu taliadau fferm sylfaenol wedi 2019.

Gydag amaethyddiaeth Cymru ar groesffordd oherwydd proses Brexit ni chafwyd gwarant gan y Llywodraeth Lafur am daliadau fferm wedi 2019 yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Simon Thomas:

“Bydd amaethyddiaeth yn wynebu’r effaith fwyaf os gadawn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl ymchwil gan yr NFU. Maent yn amcangyfrif, am bob £1 a fuddsoddir mewn cefnogi ffermydd yn y DG, fod ffermio yn rhoi £7.40 yn ôl i’r economi.

“Er hyn, nid yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi unrhyw ymrwymiad i ddiogelu’r arian ar gyfer y sawl sy’n eu derbyn ar hyn o bryd wedi 2019 ac y maent wedi sôn am rannu teisen sydd eisoes yn fechan ymysg hyd at 10,000 o fusnesau gwledig eraill nad ydynt ar hyn o bryd yn derbyn taliadau fferm.

“Oherwydd bod Trysorlys San Steffan wedi addo cynnal yr un cyllido tan 2022, dyma gyfle i sefydlogi materion yng Nghymru ar adeg o gynnwrf a newid mawr a rhoi arwydd clir o barhad i amaethyddiaeth Cymru.”

Ychwanegodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas: “Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro er mwyn sicrhau na fydd ffermio yn cael ceiniog yn llai os aiff Brexit rhagddo a chredwn ni y dylai newidiadau o bwys gael eu cadarnhau mewn etholiad Cynulliad.

“Y mae angen i ni symud tuag at dalu ein ffermwyr ar sail deilliannau yn hytrach na faint o dir maent yn berchen. Mae dros 80 y cant o dir yng Nghymru yn cael ei ffermio ac y mae ffermwyr felly mewn lle da i wella ein hamgylchedd a’n heconomi. Fodd bynnag, yr wyf yn poeni fod Llywodraeth Lafur Cymru eisiau cadw’r gwahaniaeth rhwng taliadau PAC Piler 1 a Philer 2 pan fo hyn yn gyfle i ryddhau sgiliau a syniadau ffermwyr a llacio’r system.

“Gellid talu ffermwyr i gyflwyno gwasanaethau ecosystem megis gwell ansawdd dŵr a bioamrywiaeth; atal llifogydd a thorri carbon. Byddai hyn yn torri i lawr ar fiwrocratiaeth gan y byddai ffermwyr yn derbyn taliadau seiliedig ar ddeilliannau, gyda’r rhyddid i arloesi ynghylch sut i gyrraedd y nod hwnnw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.