San Steffan yn rhoi’r Wladwriaeth Brydeinig ar lwybr at ‘Brexit eithafol’

conference.jpg

Mae Plaid Cymru yn cyhuddo’r Prif Weinidog o ffafrio ‘Brexit eithafol’ ac yn dweud fod yn rhaid i Lafur yn awr ymuno gyda Phlaid Cymru i bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50.

Anogodd llefarydd y Blaid ar Brexit, Jonathan Edwards, y sawl sydd o blaid cynnal y cysylltiadau masnach presennol ag Ewrop i bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50, wrth i’r Prif Weinidog awgrymu y bydd y DG yn gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn ogystal a’r Undeb Ewropeaidd.

Yr oedd Plaid Cymru o blaid ‘Brexit meddal’, gan gadw aelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Wrth ymateb i araith y Prif Weinidog, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards:

“Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi’r Wladwriaeth Brydeinig ar lwybr ‘Brexit eithafol’, gan ynysu Cymru a gweddill cenhedloedd y DG oddi wrth weddill y byd.

“Mae’r Prif Weinidog wedi blaenoriaethu tawelu ei gwleidyddion aden-dde di-glem dros amddiffyn yr economi, ac yn sicr fe ddylai’r Blaid Lafur yn awr ymuno gyda Phlaid Cymru i bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50.

“Pleidleisio i adael yr EU wnaeth y bobl, nid y Farchnad Sengl na’r Undeb Tollau. Wnaeth neb bleidleisio i golli eu swyddi na thorri eu cyflogau eu hunain. I Gymru – gwlad y mae ei heconomi yn dibynnu’n drwm ar ei hallforion – bydd ynysu ein hunain oddi wrth y Farchnad Sengl yn drychinebus.

“Dywed y Prif Weinidog ei bod eisiau rhoi’r ‘mynediad gorau’ i fusnesau fasnachu gyda’r EU, ac y mae rhesymau da dros hynny, ond bydd unrhyw beth llai nac aros yn y Farchnad Sengl yn waeth na’r mynediad gorau. Cenedl sy’n allforio yw Cymru, ond bydd ein gwarged masnach sylweddol yn awr yn cael ei beryglu o ganlyniad i benderfyniad y Prif Weinidog i roi gwleidyddiaeth o flaen synnwyr economaidd.

“Mae ein masnach gydag Ewrop yn cynnal 200,000 o swyddi yng Nghymru. Po fwyaf y rhwystrau i fasnachu rhwng Cymru a’r bloc Ewropeaidd, mwyaf fydd yr effaith ar swyddi a chyflogau. Mae penderfyniad y Prif Weinidog i gymryd y dewis Brexit eithafol yn golygu y bydd yn anorfod y caiff cwmniau Cymreig eu hunain yn gweithredu dan amodau masnachu llai ffafriol gyda’n partneriaid masnachu pwysicaf a bloc masnach mwyaf cyfoethog y byd.

“Mae effaith ddifrifol ac anghymesur hyn ar economi Cymru ac ar swyddogaethau datganoledig yn golygu bod yn rhaid gofyn i Senedd Cymru gadarnhau telerau’r cytundeb cyn iddo ddigwydd, ac nid San Steffan yn unig.

“Pan ddywed y Prif Weinidog ei bod eisiau cytundebau masnach rydd byd-eang, beth mae’n olygu yw ei bod eisiau gallu gwerthu ein gwasanaethau cyhoeddus i fuddiannau pleidiol.

“Roedd byw trwy gyfnod pan chwalodd y Toriaid gymunedau Cymreig yn symbyliad i mi fynd i mewn i wleidyddiaeth a dwyf i ddim yn barod i eistedd yn ôl yn llywaeth a gadael i hyn ddigwydd eto.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.