Plaid Cymru yn lansio ymgyrch i ddiogelu eich dinasyddiaeth Ewropeaidd

I_Am_European.jpeg

Dylai pobl gael cadw dinasyddiaeth yr UE wedi Brexit, medd Plaid Cymru, cyn dadl diwrnod yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae ASau Plaid Cymru yn ceisio gorfodi Llywodraeth y DG i sicrhau y caniateir i ddinasyddion Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon gadw eu hunaniaeth a’u dinasyddiaeth Ewropeaidd wedi i’r DG adael yr UE, naill ai trwy warchod cytundebau sy’n bodoli eisoes neu ddatblygu model newydd o “Ddinasyddiaeth Ewropeaidd Gysylltiol”.

Mae dinasyddiaeth Ewropeaidd yn rhoi’r deiliaid yr hawl i deithio, byw, astudio a gweithio yn unman yn yr UE ac amrywiaeth eang o hawliau eraill dan gyfraith yr UE ynghylch iechyd, addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.

Mae Plaid Cymru wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog, wedi ei lofnodi gan 19 o unigolion a sefydliadau gan gynnwys arweinwyr gwleidyddol, Open Britain a Best for Britain, yn galw ar y Prif Weinidog i ymrwymo i gynnwys yn ei hamcanion trafod gyda’r UE hawl i ddinasyddion y DG gadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd yn dilyn ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd.

Enynnodd ymgyrch Plaid Cymru gefnogaeth grwpiau ymgyrchu, Open Britain, Best for Britain, papur newydd y New European a llawer eraill (a restrir isod). Fe’i cefnogir gan yr arbenigwr ar gyfraith Ewropeaidd, Yr Athro. Volker Roeben a’r cyfreithiwr amlwg, Jolyon Maugham CF, sy’n arwain ymgais i osod gerbron Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd y cwestiwn ynghylch a yw dinasyddiaeth yr UE i ddinasyddion y DG yn goroesi ymadawiad y DG o’r UE.

Mae Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop, Guy Verhofstadt hefyd wedi cefnogi’r syniad, gan drydar: “nid yw dinasyddiaeth yr UE yn cymryd lle ein dinasyddiaeth genedlaethol, mae’n ychwanegol ato. Haedda’r ymgyrch hon gefnogaeth pawb sy’n cytuno â gweledigaeth Churchill o “ddinasyddiaeth gyffredin” fyddai’n uno Ewrop ynghyd.”

Y rhagdybiaeth a rennir gan yr Undeb Ewropeaidd a llywodraeth y DG yw y bydd ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd  yn golygu y bydd dinasyddion Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn awtomatig yn fforffedu eu dinasyddiaeth  o’r UE. Dadleua arbenigwyr cyfreithiol, fodd bynnag, y byddai’n anghyfreithlon dan gyfraith Ewrop a chyfraith ryngwladol i ddinasyddion gael eu hamddifadu o’u dinasyddiaeth o’r UE.

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams AS:

“Er y caiff gadael yr Undeb Ewropeaidd effaith sylweddol ar economïau’r DG a gweddill yr UE, bydd hefyd yn cael effaith arwyddocaol arnom oll fel unigolion. Rydym yn wynebu cael ein dinasyddiaeth Ewropeaidd wedi ei ddwyn oddi arnom - ein hawliau Ewropeaidd a enillwyd mor galed ac, yn y bôn, ein hawl i alw ein hunain yn Ewropeaid wedi ei gipio oddi arnom. 

“Mae ein hawliau fel dinasyddion Ewropeaidd yn caniatáu i ni fyw, gweithio ac astudio ar draws yr UE a’r gwledydd cysylltiol. Maent yn rhoi cyfle i’n plant ehangu eu potensial a’u gobeithion mewn bywyd, ac yn rhoi hawliau ychwanegol i ni o ran gofal iechyd, addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.

“Does dim rhaid i adael yr Undeb Ewropeaidd olygu o raid ddwyn eu dinasyddiaeth Ewropeaidd oddi ar ein dinasyddion yn ein hunain. Caniataodd y DG i ddinasyddion Iwerddon gadw eu dinasyddiaeth o’r DG ar ôl annibyniaeth - gall y DG geisio sicrhau’r un fargen wrth adael yr UE.

“Mae ein dinasyddiaeth Ewropeaidd yn rhan annatod o’n hunaniaeth Ewropeaidd. Ewropead ydw i - Ewropead Cymreig, ac ni ddylid caniatáu i’r un llywodraeth, yr un wladwriaeth na’r un Brexitiwr ddwyn hynny oddi arna’i na neb arall.

“Mae angen i’r Prif Weinidog wneud parhad dinasyddiaeth o’r UE yn rhan o’i safbwynt trafod, fel y gallwn ni oll a’n plant barhau i fanteisio o’r cyfleoedd, yr hawliau a’r camau gwarchod hynod werthfawr a gynigir i ni gan ein dinasyddiaeth Ewropeaidd. Rwy’n gobeithio o waelod calon y bydd Jeremy Corbyn a’i gydweithwyr Llafur yn uno â Phlaid Cymru heddiw i anfon neges gref i lywodraeth Theresa May.”

Ychwanegodd Jolyon Maugham CF, sy’n mynd â’r mater i LCE:

“Mae’n hawdd siarad. Ond nawr mae’n amser i’r Prif Weinidog ategu ei rhethreg am uno’r wlad a gweithredu pendant. I lawer ar yr ochr Aros, mae dinasyddiaeth yr UE yn mynegi rhan greiddiol o’n hunaniaeth ac yn rhoi i ni hawliau yr ydym yn eu trysori’n fawr. Mae nifer o ffyrdd i gyflwyno parhad manteision dinasyddiaeth yr UE i’r sawl sydd ei eisiau. Gallai’r Prif Weinidog, mewn trafodaethau, ofyn am gadw’r hawliau hynny. Byddai hyn o fudd mawr i’r sawl sy’n rhoi gwerth ar yr hawliau hynny heb gost o gwbl i’r sawl nad ydynt.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.