Adeiladu ein Peiriant Economaidd: Ein Gweledigaeth ar gyfer yr Economi

Cymru_Gyfoethocach.png

Gymaint yw'r gagendor economaidd rhwng Cymru ac economïau blaengar fel bod sicrhau twf economaidd confensiynol yn elfen ganolog mewn unrhyw strategaeth sy'n anelu at gyrraedd y lefel o wasanaeth cyhoeddus neu ffyniant sy i'w gweld mewn gwledydd bach eraill, megis Denmarc neu hyd yn oed Wlad yr Ia ôl-argyfyngol.

Ein nod economaidd tymor-canol felly yw cau'r bwlch incwm o 30% rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol - tra'n ymrwymo i wneud hynny mewn modd cynaliadwy, gwydn, a chyfiawn yn gymdeithasol a rhwng cenedlaethau.

Ein cred ni yw bod modd dychwelyd economi Cymru i'r safle a oedd iddi gydol y 1970au a'r 1980au - tua 85% o incwm-y-pen y DG - drwy ddefnyddio'n ddeallus bob un o'r trosolion polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, yn cynnwys, lle bo'n berthnasol, weithio mewn partneriaeth â'r DG a'r UE. Fodd bynnag bydd angen pwerau economaidd pellach er mwyn dod yn gwbl gyfartal, a hynny ynghynt.

Mi rown gychwyn felly ar drafodaethau brys â Llywodraeth y DG i fynd i'r afael â'r agendor ddwfn-wreiddiedig mewn ffyniant economaidd rhwng Cymru a gweddill y DG. Mi geisiwn am gytundeb i sefydlu Comisiwn Annibynnol ar Gyfartalu Economaidd. Bydd cylch gorchwyl y Comisiwn hwn yn cynnwys ystyriaeth o'r pwerau a'r adnoddau y mae'u hangen i gau'r bwlch incwm o fewn cenhedlaeth, yn cynnwys telerau setliad cydffederal i Gymru ynghyd â chreu cynllun ugain-mlynedd ar gyfer ailfuddosddi ac ymadfer - Cynllun Marshall modern i economi Cymru.

Ein hamcan economaidd tymor-canol yw dod â Chymru'n gyfartal â'r DG o fewn cenhedlaeth – h.y. dros gyfnod ugain-mlynedd at 2036. Mae hyn yn golygu graddfa twf GVA i Gymru o tua 3.5% y flwyddyn, sef £1.5 biliwn o allbwn i economi Cymru bob blwyddyn. Cryn gamp ond nid amhosibl. Cafodd Gwlad y Basg raddfa twf GVA cyfartalog o 3.59% rhwng 1995 a 2008.

Mi gyflwynwn a gweithredu Cynllun Economaidd Cenedlaethol i gyrraedd ein nod, sef bod yn gyfartal â gweddill Prydain. Bydd tri dimensiwn i'r cynllun: codi lefel sgiliau, strategaeth ddiwydiannol brysur a chynllun cynhwysfawr o fuddsoddiad strategol.

Ein Polisïau Economaidd Allweddol

1. Buddsoddiad o bwys yn ein trafnidiaeth, ynni a seilwaith gwyrdd

Cam_7_-_Rhaglen_Fuddsoddi_mewn_Isadeiledd.png

Rydym yn cychwyn ar y rhaglen fwyaf o ail-adeiladu a welwyd gan ein cenedl ers dechrau datganoli. Byddwn yn sefydlu corff newydd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC), corfforaeth gyhoeddus annibynnol fydd yn cynllunio, cyllido ac yn cyflwyno’r dyheadau a osodwyd allan yn y Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cenedlaethol i foderneiddio trafnidiaeth, telegyfathrebu, ynni a seilwaith gwyrdd. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein cenedl yn moderneiddio ein seilwaith, yn creu ac yn diogelu swyddi, ac yn helpu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru.

I fusnesau fuddsoddi a thyfu yng Nghymru, mae’n rhaid iddynt yn gyntaf gael y seilwaith fydd yn cynnal twf; mae hyn yn galw am gryn fuddsoddi mewn trafnidiaeth, telegyfathrebu, a seilwaith ynni. Nid yn unig y bydd ein cynlluniau yn creu miloedd o swyddi mewn peirianwaith, adeiladu ac amrywiol sectorau eraill sydd yn rhan o brosiectau seilwaith, ond fe fyddwn hefyd am fanteisio i’r eithaf ar gwmnïau a diwydiannau sydd yn seiliedig yng Nghymru, ac yn caffael ganddynt - megis dur Cymreig, gan greu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol a chadwyni cyflenwi cartref.

Mae diffyg cynllunio Llafur ar gyfer prosiectau sy’n barod i gychwyn yn syth yn golygu y bydd yn rhaid gweithredu rhaglen ‘Ail-godi Cymru’ dros ddegawd. O fewn 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn dwyn gerbron gynigion i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru gyda’r nod o ddechrau gweithredu ein cynllun Ail-godi Cymru erbyn diwedd 2016, gan fuddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth, cymdeithasol a gwyrdd ein cenedl. Fodd bynnag, strategaeth economaidd tymor-hir yw hon fydd yn parhau i fuddsoddi yn seilwaith ein cenedl a chynnal twf economaidd am genedlaethau i ddod.

Wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi fe fyddwn yn cymryd agwedd fentrus ond darbodus ar yr un pryd. Byddwn yn ceisio codi £15 biliwn o amrywiaeth o ffynonellau dros ddeng mlynedd gweinyddiaeth dau-dymor dan arweiniad Plaid Cymru, fydd yn ein galluogi i ddyblu cyfanswm buddsoddiad cyfalaf presennol Llywodraeth Cymru.


 2. ADC i’r 21ain ganrif i werthu ein cynhyrchion a’n syniadau i’r byd

Cam_8_-_WDA_ar_ei_Newydd_Wedd.png

Byddwn yn creu WDA i’r 21ain Ganrif: Awdurdod Datblygu Cymru fydd yn gwerthu Cymru – ein cynhyrchion a’n syniadau – i’r byd. Corff hybu masnach a buddsoddi newydd i Gymru fydd hwn, ar ffurf partneriaeth cyhoeddus-preifat, gyda chynrychiolaeth gref o fusnes ar ei fwrdd, yn annibynnol ar y Gwasanaeth Sifil ond yn atebol i Lywodraeth Cymru a busnes trwy’r cyrff fydd yn aelodau.

Bydd yn defnyddio’r brand WDA ar ei newydd wedd – fel Wales Development Agency yn Saesneg - i weithio ledled y byd ac yn y Deyrnas Gyfunol, i ddenu busnesau newydd i Gymru, i hybu allforion Cymreig i’r DG a thramor, a gartref, bydd yn gweithio trwy gyfuniad o arbenigwyr mewnol ac allanol i ddatblygu clystyrau diwydiant a chadwyni cyflenwi Cymreig.

Hyd heddiw mae'r WDA yn frand sy'n adnybyddus ledled y byd. Ers ei ddileu yn 2006, cafwyd newidiadau mawr i strwythurau cefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydlwyd i gefnogi a hybu allforion Cymreig a denu buddsoddiad o dramor i Gymru, sydd wedi arwain at ddryswch a diffyg cydlynu. O ganlyniad, cwympodd allforion Cymru o £1.6bn dan y llywodraeth Lafur bresennol.

Gall creu corff newydd hyd braich helpu i gyflwyno ein cynllun economaidd gartref, ac ail-sefydlu Cymru fel canolfan y mae pawb yn gwybod amdani ar lwyfan y byd ar gyfer buddsoddi. Bydd yn rhydd i feddwl o’r newydd am sut i greu cysylltiadau busnes Cymreig gyda’r byd; hybu allforion a denu buddsoddiad addas i mewn fydd yn gweld economi ein cenedl yn ffynnu.
Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau manwl i adfer y corff hyd braich hwn i fasnachu a buddsoddi o fewn 100 diwrnod gyntaf llywodraeth Plaid Cymru. Bydd wedi ei sefydlu’n llawn ac wedi dechrau hybu Cymru dramor o fewn dwy flynedd wedyn.


 3. Torri trethi busnes a rhoi mwy o gontractau cyhoeddus i gwmniau Cymreig

Cam_9_-_Torri_Trethi_Busnes_a_Pholisi_Caffael.png

Ar drethi busnes, byddwn yn cynyddu’r rhyddhad trethi busnes fel na fydd unrhyw gwmni gyda gwerth ardrethol o lai na £10,000 y flwyddyn yn talu unrhyw drethi busnes, a byddwn yn cyflwyno rhyddhad graddol i gwmniau gyda gwerth ardrethol rhwng £10,000 a £15,000. Bydd 83,000 o fusnesau yn elwa o’r polisi hwn, a byddai dros 70,000 yn cael eu rhyddhau o dalu unrhyw drethi. Er mwyn annog busnesau newydd, ni fuasem yn codi unrhyw drethi busnes fyddai’n ddyledus am flwyddyn gyntaf rhedeg y busnes.

Byddwn hefyd yn cynnig rhyddhad trethi busnes wedi ei dargedu i gwmnïau mwy fydd yn cytuno i gwrdd â rhai meini prawf ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol - gan gynnwys cyfleoedd i gyflenwyr lleol, y Cyflog Byw Cymreig, lleihau gwastraff a defnyddio ynni adnewyddol.

Ar gaffael, byddwn yn deddfu i’w gwneud yn orfodol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael. Byddwn yn cynyddu lefelau presennol caffael o 55% i o leiaf 75% o wariant Cymreig yng Nghymru. I gefnogi cyrff cyhoeddus i gwrdd â nod a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyllido deg o reolwyr caffael cyhoeddus profiadol yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Busnesau Bach a Chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru ac y mae cefnogi ein busnesau bach a’u helpu i dyfu yn hanfodol i ffyniant cyffredinol yr economi. Fel y maent ar hyn o bryd, mae trethi busnes yn dreth nad yw’n ymateb i dueddiadau economaidd ehangach, a gallant droi busnesau llai ymaith oddi wrth fuddsoddi ac ehangu.

Ar gaffael, mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £5.5 biliwn y flwyddyn trwy gaffael ar gyfer cyflenwi gwaith, a chyflenwi gwasanaethau a chontractau. Fodd bynnag, dim ond contractau gwerth 55% o’r holl wariant hwn mae cyflenwyr Cymreig yn ennill.

Yn yr Almaen a Ffrainc, mae rhyw 98% o werth contractau cyhoeddus yn mynd i gwmniau o fewn eu ffiniau. Yn ôl GwerthCymru (uned fewnol yn Llywodraeth Cymru), bydd pob 1% o gynnydd mewn caffael yn creu 2,000 o swyddi llawn amser, felly byddai 20 pwynt canran yn ychwanegol yn creu 40,000 o swyddi. Bydd ein polisi ni yn creu 40,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ac yn torri diweithdra o 40%.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.