Mae'n rhaid gwneud gwella iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn flaenoriaeth

2016_LW_4.jpg

Erthygl gan Leanne Wood o'r Western Mail gafodd ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n werth myfyrio ar pa mor bell y daethom ers y dyddiau pryd y byddai salwch meddwl yn aml yn cyfyngu pobl mewn sefydliad caeth, weithiau am flynyddoedd bwygilydd.

Mae cymdeithas wedi newid er gwell, a chaiff pobl â phroblemau iechyd meddwl eu trin fel pobl yn gyntaf oll. Nod ymgyrch Amser i Newid yw mynd i’r afael â stigma a rhagfarn tuag at y sawl sydd wedi profi, neu’n dal i brofi problemau iechyd meddwl, ac y mae wedi amlygu pa mor gyffredin yw iselder, pryder neu broblem arall, ond hefyd sut y mae modd dod allan yr ochr arall.

I ryw raddau, bu gwleidyddiaeth yn ceisio dal i fyny â’r newidiadau hyn. Er nad yw gwasanaethau iechyd meddwl bellach yn cael eu gweld fel targedau hawdd i’w torri (ac mewn gwirionedd ni chânt eu torri yng Nghymru diolch i lwyddiant Plaid Cymru yn diogelu’r gyllideb pan oeddem mewn llywodraeth), mae’r gwasanaeth yn dal i gael ei dangyllido. Mae camau eraill y mae angen eu cymryd er mwyn i’r byd gwleidyddol ddal i fyny.

Yn rhy aml o lawer, mae diffyg dealltwriaeth ymysg cyflogwyr tuag at weithwyr gyda phroblemau iechyd meddwl, o gymharu â gweithwyr gyda phroblemau iechyd corfforol. Er bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn gwarchod rhag camwahaniaethu uniongychol ac anuniongyrchol, mae arolygon wedi dangos dro ar ôl tro fod pobl gafodd broblemau iechyd meddwl yn llai tebygol o ddatgelu eu cyflwr na gwneud cais am swyddi neu ddyrchafiad, ac na fyddai llawer o gyflogwyr yn cyflogi pobl fu’n dioddef o iselder. Gyda rhagolygon o fesurau diogelu cyflogaeth i weithwyr yn cael eu gwthio’n ôl yn dilyn tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd dan lywodraeth gediwadol sy’n gwyro’n gynyddol i’r dde eithafol, yr unig ffordd y gallwn amddiffyn a gwella hawliau gweithle pobl â phroblemau iechyd meddwl yw i’r pwerau dros gyfraith cyflogaeth gael eu datganoli i Gymru.

Mae’n wir hefyd fod bylchau enfawr yn narpariaeth y gwasanaeth. Pobl ifanc sy’n teimlo hyn amlaf. Y rhain yw’r sawl sydd angen y gefnogaeth arbenigol a ddarperir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS). Maent yn wynebu cyfnodau cynyddol hwy o aros am yr apwyntiad cyntaf yn dilyn eu cyfeirio, yn aml yn hwy na phedwar mis. Bydd pedwar mis yn ystod yr amser pwysig hwn ym mywyd person ifanc yn anorfod yn effeithio ar ei addysg.

Ond un arwydd bychan o’r broblem yw’r bobl ifanc hynny sydd yn aros am wasanaethau CAHMS. Dangosodd Archwiliadau Achos Cenedlaethol nad oedd llawer o bobl ifanc a laddodd eu hunain wedi cael unrhyw gysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl, a bod y rhai a gafodd gysylltiad yn aml wedi methu apwyntiadau.

Daeth iselder, pryder a hunan-niweidio yn rhy gyffredin ymysg cenhedlaeth sydd â llawer o bryderon am bethau fel seibr-fwlio, pwysau i gydymffurfio â siâp corff delfrydol, a wynebu dyfodol o gontractau dim-oriau, dyled myfyrwyr enfawr a llymder diddiwedd o du cenhedlaeth o wleidyddion Llafur a Cheidwadol na fu’n gorfod wynebu’r un o’r rhain.


Gwyddom oll fod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol er mwyn cael deilliannau cadarnhaol mewn iechyd ac addysg, ac yn enwedig o ran atal rhai o’r problemau a all godi yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth yn dangos y gall blynyddoedd cynnar glasoed fod yr un mor hanfodol â’r blynyddoedd cynnar i ddatblygiad unigolyn.


Ac eto, tra bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o sŵn am (ail) lansio Plant Iach Cymru, i blant 0-7 oed, nid oes strategaeth ar gyfer gwella iechyd pobl ifanc yn eu harddegau. Fodd bynnag, mae’r angen am un yn eglur: mae’r gyfradd marwolaethau i bobl yn eu harddegau rhwng 15 a 19 oed yn uwch yng Nghymru nac yn Lloegr, a thros y tair degawd diwethaf, ni fu unrhyw ostyngiad mewn marwolaethau o anafu bwriadol ymysg pobl ifanc rhwng 10 a 18 oed.


Rhaid i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc gael ei symud i fyny’r agenda wleidyddol. Mae buddsoddi mewn gwell addysg a chefnogaeth i ysgolion i helpu i ddiogelu iechyd meddwl pobl yn eu harddegau yn fan cychwyn amlwg ar gyfer strategaeth o’r fath. Wrth gwrs, bydd angen i ysgolion fod â’r arfogaeth i gefnogi disgyblion, a’u helpu i ddatblygu cynnwys priodol sydd o help i bawb. Hefyd, rhaid cael cydweithio agosach gyda’r gwasanaeth iechyd i ddatblygu ymriadau yn gynt pan fydd problemau yn codi.
Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhaid i ni gofio nid yn unig pa mor bell y daethom fel cymdeithas, ond hefyd pa faint sydd eto i’w wneud.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.