Mae Llywodraeth Cymru angen deinameg newydd – diwylliant a strwythur sydd yn fwy addas i gyflwyno newid – dyna fydd Adam Price o Blaid Cymru yn ddweud heddiw. Mewn anerchiad allweddol yn Ysgol Rheolaeth Caerdydd, bydd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros y Trysorlys a Chyllid hefyd yn gosod allan gynlluniau ei blaid i gyflwyno diwylliant newydd o lywodraeth a nodweddir gan wasanaeth sifil symlach sydd yn barod ar gyfer newid.
Fe fydd yn dweud y caiff ei lwyddiant ei fesur yn ôl “Tri erbyn Deg” o lwyddiant: tri amcan ar gyfer y ddegawd nesaf.
Bydd Adam Price yn beirniadu methiant Llywodraeth Cymru i gydgordio eu gwaith, gan weithio mewn silos, gyda gwasanaeth sifil rhy chwyddedig, a diwylliant o ddifrawder a cheidwadaeth.
Fe fydd Adam Price yn dweud y bydd Plaid Cymru yn creu llywodraeth ddeinamig newydd, gyda gweledigaeth glir, arweiniad arbenigol, gydag arloesedd yn greiddiol iddi. Bydd Plaid Cymru yn creu Swyddfa’r Cabinet cryf wrth galon y Llywodraeth, ac yn mireinio’r gwasanaeth sifil canolog i fabwysiadu model o dimau arbenigol sydd yn gwybod popeth am eu maes.
Gan feirniadu methiant y llywodraeth Lafur bresennol i gymryd agwedd strategol tuag at gyflwyno, fe fydd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros y Trysorlys a Chyllid, Adam Price, yn dweud:
“Yng Nghymru, mae ein heconomi a’n system addysg wedi dirywio yn gymharol dan ddatganoli, a’r mwyaf y gallwn ddweud am ein gwasanaeth iechyd, er ei fod yn radical yn wahanol i’n cymdogion agos, yw nad yw ddim gwell na dim gwaeth – er mai amseroedd aros yn wir yw’r gwaethaf yn y pedair cenedl. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gwelodd y rhan fwyaf o’n gwlad un neu fwy o wasanaethau cyhoeddus craidd mewn mesurau arbennig, sy’n arwydd sobreiddiol o system mewn argyfwng dybryd.
“Craidd y broblem yw bod y Llywodraeth yng Nghymru wedi bod yn dda yn gwneud y pethau anghywir, ac yn ddrwg am wneud y pethau iawn. Da am osgoi bai pan aiff pethau o’i le, a chadw Gweinidogion allan o drwbwl. Da am amddiffyn y status quo. Da am ychwanegu haenau o reoli a niferoedd o staff. Gwael am seilio polisïau ar dystiolaeth, am reoli adnoddau yn effeithiol, am arloesi, diwygio a gwella cyflwyno gwasanaethau, am fod yn atebol. Mae’n rhestr hirfaith.
“Fu dim prinder strategaethau. Ond doedd dim strategaeth, dim strwythur, dim damcaniaeth ar lefel y Llywodraeth gyfan. Y ddamcaniaeth newid a redir gan y llywodraeth Lafur bresennol yw creu dyletswydd statudol ar rywun arall i wneud rhywbeth ac yna creu Comisiynydd neu Ombwdsmon i adrodd yn ôl i’r Llywodraeth am pam nad yw’n cael ei wneud.
“Mae sut llywodraeth yn aml yn bwysicach na’r pam. Neu yn wir y pwy. Mae polisïau a phersonoliaethau mewn Llywodraeth yn aml yn mynd i’r gors ar rywbeth llawer dyfnach, sef gallu’r system yn ei chyfanrwydd i achosi newid, pa newid bynnag fydd hwnnw a phwy bynnag sy’n achosi’r newid. Mae arnom angen deinameg newydd, ffordd newydd o weithio, ar draws Llywodraeth a rhwng y Llywodraeth a’r dinesydd os ydym am gael Cymru i symud.”
Bydd Adam Price sydd yn sefyll etholiad yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn mynd ymlaen i ddweud:
“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn symleiddio mesur llwyddiant i dri amcan allweddol ar gyfer y ddegawd nesaf, ein Tri erbyn Deg: torri’r bwlch economaidd rhwng Cymru a’r DG o 10% erbyn 2026 a chyrraedd cydraddoldeb ddegawd yn ddiweddarach; arbed 10,000 o fywydau trwy dorri’r marwolaethau y gellir eu hosgoi o 25% erbyn 2026; cyrraedd lle yn y deg uchaf i Gymru yn Ewrop yn y pum safle PISA o fewn degawd.
“Mae’r rhain yn amcanion uchelgeisiol sydd yn galw am ddiwygio radical a aiff yn ddyfnach o lawer na newid strwythurol ad-drefnu.
“Rydym eisiau i Gymru wneud y mwyaf o’i manteision fel gwlad fechan – yn ddigon mawr i fynd y tu hwnt i’r lleol, ond yn ddigon bach i allu ei rheoli – a dod yn faes profi gorau’r byd o ran gwasanaethau cyhoeddus ac arloesedd economaidd.
“I wneud hyn, dylem fabwysiadu model y wlad fechan o wladwriaeth ganolog effeithlon a chlyfar yn llywio system ehangach lle mae strategaethau a chyflwyno manwl yn waith cyrff gweithredol sy’n meddu ar bwerau gwirioneddol, gyda medr proffesiynol cryf ac arbenigedd technegol, sydd yn ddemocrataidd atebol ond gyda’r annibyniaeth a’r ystwythder angenrheidiol i wella ansawdd a chyflymder gwneud penderfyniadau.”
Bydd Adam Price hefyd yn ymdrin â’r angen i roi system arall ar waith i wella cyflawni er mwyn cael gwell canlyniadau am gost is yn wyneb toriadau anorfod yn y gyllideb a gyflwynir gan Lywodraeth y DG.