Leanne yn cyhoeddi cynlluniau am Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru

 LWcynhadledd2015smaller.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC wedi amlinellu cynlluniau ei phlaid i adfywio democratiaeth Cymru a chyflwyno llywodraeth Plaid Cymru agored ac atebol os caiff ei hethol ym mis Mai.

Wrth annerch mewn digwyddiad gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth neithiwr, rhoddodd Leanne Wood fanylion am sut y buasai llywodraeth Plaid Cymru, yn ystod ei chan diwrnod cyntaf, yn ymgynghori ar yr adfywiad democrataidd mwyaf a welodd Cymru ers datganoli, gan gynnwys cyflwyno Deddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru.

Ychwanegodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn ymestyn yr etholfraint fel bod gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio, yn ogystal â sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.

Gan feirniadu "meddylfryd byncer" Llywodraeth Lafur bresennol Cymru, dywedodd Leanne Wood y byddai llywodraeth Plaid Cymru "yn agor coridorau grym i graffu a thrafodaeth ", er mwyn sicrhau statws Cymru fel democratiaeth fywiog ac ifanc.

Wrth siarad neithiwr, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:

"Ymhen can diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru byddwn yn ymgynghori ar yr adfywiad democrataidd mwyaf arwyddocaol a welodd ein cenedl ers datganoli, ac un a fydd yn sail i’n bil a ddaw ymhen amser yn Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl i Gymru.

"Fel rhan o gynigion Plaid Cymru am Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru, byddwn yn ceisio ymestyn yr etholfraint fel bod gan bobl un ar bymtheg a dwy ar bymtheg hawl i bleidleisio ym mhob etholiad o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Yr ydym yn creu y dylid hybu a meithrin ymwneud democrataidd yn ifanc trwy sefydlu Senedd Ieunctid Genedlaethol. Bydd y Senedd Ieunctid Genedlaethol a gynigiwn ni yn cyfrannu’n uniongyrchol i’n bywyd cenedlaethol a’n llywodraeth genedlaethol.

"Byddwn hefyd yn ymgynghori ar ddigideiddio democratiaeth Gymreig - gan ddysgu o wledydd megis Estonia a rhoi prawf ar bleidleisio digidol. ‘Dyw pleidleisio digidol ddim yn newydd yn y wlad honno, ac mae gennym lawer i ddysgu o ran seibr-ddiogelwch a phleidleisio. Mae ymwybyddiaeth o ddatblygiadau gwleidyddol Cymreig ac ymwneud a hwy wedi eu llesteirio ers yn rhy hir am nad oes cyfryngau Cymreig eang eu hapêl.

"Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gymryd pob cam posib i ehangu mynediad at ein Cynulliad Cenedlaethol a’i waith. Bydd Plaid Cymru yn ymgynghori ar gyflwyno mecanwaith deisebu newydd.

"Bu gwaith pwyllgor deisebau’r Cynulliad yn werthfawr ac yr ydym eisiau adeiladu arno. Byddwn am greu mecanwaith lle byddai deiseb a gâi ddeng mil neu fwy o lofnodion yn awtomatig yn cael ei drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Rwyf eisiau i bobl yng Nghymru gael ymdeimlad clir o natur llywodraeth Plaid Cymru. Ymdeimlad o’r modd y byddwn yn agor coridorau grym i graffu a thrafodaeth.

"Bydd y camau y buaswn i’n eu rhoi ar waith o swyddfa’r Prif Weinidog yn cychwyn gyda chyhoeddi pob penderfyniad gweinidogol a chynnal cyfarfodydd cabinet cyhoeddus ledled y wlad. Rwyf wedi sôn yn aml am fy nod o gyflwyno difidend datganoli i Gymru gyfan, yn economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol. Mae sicrhau mynediad at gabinet y genedl ym mhob cwr o’r genedl yn ganolog i’r nod hwn.

"Yr ydym wedi gorfod dioddef bron i ddwy ddegawd o lywodraeth meddylfryd byncer Llafur. Maent wedi eu claddu eu hunain draw o olwg y cyhoedd gymaint ag y gallant rhag i neb graffu arnynt.

"Bydd y llywodraeth dan f’arweiniad i yn wahanol. Fe fyddwn ni’n agored. Fe fyddwn ni yn hygyrch. Fe fyddwn ni yn atebol. Fe wnawn ein gorau i greu’r Gymru orau oll. Fe fyddwn yn siŵr o wneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. Ond wnawn ni ddim osgoi craffu nac atebolrwydd.

"Bydd y math hwn o lywodraeth, ynghyd â democratiaeth wedi ei adfywio a’i hwyluso trwy Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru , yn sylfaen gref i hen genedl egino fel democratiaeth ifanc a bywiog."

Ychwanegodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yng Nghymru:

“Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru yn edrych ymlaen at godi’r pynciau sydd o bwys yn ein democratiaeth sy’n dal i ddatblygu yng Nghymru yn ystod ymgyrch yr etholiad. Edrychwn ymlaen at glywed gan y pleidiau ar draws y sbectrwm gwleidyddol am eu gweledigaeth a’u huchelgais dros ddemocratiaeth yng Nghymru. Yr ydym hefyd yn edrych ymlaen at eu cwestiynu’n galed er mwyn sicrhau fod llai pawb yng Nghymru yn cael ei glywed, a bod gennym Gynulliad Cenedlaethol sydd yn cynrychioli ac yn cyflawni dros bobl Cymru.

“Mae democratiaeth yn fwy na dim ond ennill pleidleisiau, neu roi X yn y blwch yn etholiad mis Mai. Mae’n fater o’r modd yr ydym yn cynrychioli amrywiaeth cymunedau Cymru yn iawn, a sut y byddwn yn gofalu bod penderfyniadau'r sawl sydd mewn grym yn atebol er mwyn cael y polisïau gorau oll i gyflawni i bobl yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at sicrhau yr erys hyn yn rhan ganolog o weledigaeth yr holl bleidiau am dymor nesaf y Cynulliad."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.