Datganolwch ddarlledu i fynd i’r afael a’r diffyg democrataidd - Liz Saville Roberts

broadcasting_lsr.jpg

Mae dinasyddion Cymru yn cael eu hamddifadu o ran sylfaenol o ddemocratiaeth, honnodd Plaid Cymru, gan alw am ddatganoli’r cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, gyda San Steffan yn gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru, fod dinasyddion yn cael eu gadael heb allu cyrraedd gwybodaeth hanfodol am eu sefydliadau democrataidd a’r penderfyniadau a wneir ar eu rhan.

Daw’r alwad wrth i’r myfyriwr a’r ffermwr, Elfed Wyn Jones, 20, gychwyn ar ympryd wythnos o hyd i bwyso am i’r cyfrifoldeb dros ddarlledu yng Nghymru gael ei drosglwyddo i Gymru.

Mae darlledu yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar hyn o bryd yn cael ei reoli o San Steffan.

Canfu arolwg a gomisiynwyd gan y BBC yn 2014 fod llai na hanner y bobl yng Nghymru yn gwybod mai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Llywodraeth San Steffan, sy’n gyfrifol am redeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gyda 31% yn credu fod San Steffan yn gyfrifol am ysgolion Cymru.

Canfu arolwg YouGov yn 2017 mai dim ond 27% o bobl yng Nghymru sy’n credu mai San Steffan ddylai ofalu am ddarlledu yng Nghymru.

Yn ei sylw, dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Mae democratiaeth sy’n gweithio’n iawn yn dibynnu ar gael etholwyr deallus y gellir dibynnu arnynt i unioni pethau pan fydd pobl mewn grym yn cael pethau o chwith. Mae etholwyr gwybodus a deallus felly yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth.

“Mae dinasyddion Cymru yn cael eu hamddifadu o wybodaeth hanfodol am eu sefydliadau democrataidd ac am y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan, ac nid ydynt felly mewn sefyllfa dda i ddal eu llywodraeth a’u cynrychiolwyr i gyfrif am eu gweithredoedd.

“Gyda pholisi a chyllid darlledu oll yn destun penderfyniadau yn San Steffan, gorfodir dinasyddion Cymru i wylio newyddion cartref sy’n canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar faterion cartref gwlad arall, ac nid ydynt yn cael y gwasanaeth cyhoeddus y maent hwy yn talu amdano.

“Mae gwylwyr bwletinau newyddion yn cael gwybod am argyfyngau yn NHSLloegr, neu benderfyniadau polisi o bwys ynghylch ysgolion yn Lloegr, ond maent yn cael eu cadw yn y tywyllwch am yr hyn mae eu llywodraeth eu hunain yng Nghymru yn wneud i ymdrin â’r problemau yn ein hysgolion a’n hysbytai ni.

“Gellid maddau i’n dinasyddion am neilltuo bai am gyflwr gwasanaethau cyhoeddus Cymru i Weinidog o Lywodraeth Lloegr sydd heb gyfrifoldeb o gwbl dros wasanaethau yng Nghymru, tra bod y sawl sydd yn eu rheoli yng Nghymru yn osgoi craffu.

“Mae gwylwyr o Gymru sydd yn mwynhau gwylio rhaglenni paneli trafod megis Question Time y BBC yn cael eu gorfodi’n rhy aml i wylio dadleuon ar bynciau pwysig ac emosiynol iawn nad ydynt yn berthnasol o gwbl iddynt hwy fel meysydd datganoledig.

“Hyd yn oed pan fo rhaglenni yn cael eu darlledu o Gymru, dywedir wrth aelodau’r gynulleidfa na allant holi cwestiynau am feysydd polisi datganoledig – hynny yw, y materion sydd fwyaf perthnasol i bobl Cymru – am na fyddant yn berthnasol i gynulleidfa fwyafrifol Seisnig.

“Mae’n bryd i bolisi darlledu adlewyrchu natur aml-genedl gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol ac i’r cyfrifoldeb gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.