Dafydd Trystan

 DafyddTrystan.jpg

Ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth De Caerdydd a Phenarth a thrydydd ar restr Canol De Cymru

Mae Dafydd Trystan Davies yn byw yn Grangetown yng Nghaerdydd gydai’i wraig, Lise. Cafodd ei eni yn Aberdâr a’i addyg yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Aberystwyth, gan raddio gyda gradd ddosbarth 1af gydag anhrydedd llawn a PhD mewn Globaleiddio a’r Economi Gymreig.

Mae’n cadeirio’r fenter gymdeithasol lwyddiannus Cycle Training Wales, yn Gyfarwyddydd ar TooGoodToWaste, menter gymdeithasol yn y Rhondda, ac mae’n aelod o’r bwrdd trafnidiaeth cynaliadwy Sustrans Cymru.

Fel cyn Brif Weithredwr a Chadeirydd ar Blaid Cymru, mae gan Mr Davies brofiad gwleidyddol sylweddol ac mae’n benderfynol o wireddu ei uchelgais o gynrychioli De Caerdydd a Phenarth yn Senedd Cymru.

Helpwch ymgyrch Dafydd

Nôl i’r map etholaethau

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.