Plaid Cymru yn cyhoeddi Cytundeb Canser arloesol

Cytundeb_Canser_Plaid.png

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi Cytundeb Canser i dorri amseroedd aros, gwella mynediad at gyffuriau a chefnogi cleifion.

Bydd cynlluniau Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen: dyna oedd y neges gan Weinidog Iechyd cysgodol y Blaid Elin Jones heddiw wrth iddi ddatgelu Cytundeb Canser 3 phwynt.

Mae Cytundeb Canser 3 phwynt Plaid Cymru yn ymrwymo i’r canlynol:

  • Dod ag amseroedd aros i lawr - diagnosis neu ddweud nad oes canser ymhen 28 diwrnod;
  • Cronfa triniaethau newydd: gallu mynd at feddyginiaethau newydd ar sail beth mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post;
  • Cefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth.

Mae Plaid Cymru hefyd yn anelu at ostwng nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy ofalu bod y brechlyn HPV yn cael ei roi am ddim i fechgyn yn ogystal â merched, trwy gymryd camau pellach i atal pobl rhag ysmygu, trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, a thrwy sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu trwy ein cynllun i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones AC:

“Mae un mil ar bymtheg o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru bob blwyddyn, gyda llawer mwy yn cael profion a’r newyddion nad oes canser arnynt. O’r ennyd yr amheuir bod canser ar rywun, dylent allu disgwyl safon uchel o wasanaeth, o’r diagnosis trwodd at ôl-ofal.

“Gwaetha’r modd, dan Lywodraeth Lafur bresennol Cymru, dyw hyn ddim yn digwydd. Mae amseroedd aros am lawer o brofion diagnostig all achub bywydau yn sylweddol hwy yng Nghymru nac yn unman arall yn y DG. Mae rhyw draean o gleifion yng Nghymru yn disgwyl yn hwy na 6 wythnos am sgan MRI, a chafwyd llawer gormod o enghreifftiau o gleifion yng Nghymru yn gorfod gadael eu cartrefi a mynd allan o Gymru er mwyn cael y cyffuriau a’r driniaeth mae arnynt eu hangen.

“Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru ar hyn o bryd ymysg yr isaf yn Ewrop. Nod cynlluniau Plaid Cymru yw symud Cymru tuag at y cyfraddau goroesi gorau.

“Bydd cytundeb canser Plaid Cymru yn sicrhau diagnosis cyflym, mynediad at y cyffuriau a’r driniaeth iawn, a gofal ac ôl-ofal priodol i gleifion canser. Fe fyddwn yn creu tair canolfan ddiagnostig fydd yn cynnwys yr ystod lawn o brofion ac yn meddu ar yr amrywiaeth angenrheidiol o arbenigeddau. Byddwn yn creu cronfa feddyginiaethau a thriniaethau newydd i roi diwedd ar y loteri cod post sy’n bodoli ar hyn o bryd. Ac fe wnawn yn siŵr fod pob claf canser yn cael gweithiwr allweddol i roi cyngor a chefnogaeth trwy gydol cyfnod eu triniaeth.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.