Cynnyrch Cymreig

● Yng Nghymru mae 48,000 o bobl wedi cael eu cyflogi’n uniongyrchol mewn amaethu a chynhyrchu bwyd. O fewn y gadwyn gyflenwi ehangach mae 170,000 wedi eu cyflogi.

● Mae allforion yn tyfu yng Nghymru – caiff ei weld fel diwydiant a chanddi llawer o botensial. Rhwng 1999 a 2013, cynyddodd allforion gan 132%.

● Ar y cyfan, mae’r Deyrnas Gyfunol yn ddibynol iawn ar aelod wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd am fwyd. O’r bwyd a gaiff ei fwyta yn y DG, dim ond 60% ohono sydd wedi ei gynhyrchu yma. Mae’r DG yn arbennig o ddibynol ar fewnforion o rai bwydydd, yn enwedig ffrwythau a llysiau.

● Mae’r DG yn dioddef o fwlch masnach bwyd o £21bn.

● Cafwyd trafodaeth arwyddocaol ynglŷn ag efaith ymadawiad posib Prydain ar y diwydiant amaeth. Fodd bynnag, dim ond rhan o’r diwydiant bwyd ehangach yw hwn – ac mae 6 gwaith y nifer o bobl hyn wedi cael eu cyflogi tu allan i ffermio o fewn y diwydiant hwnnw yn y DG.

Beth yw manteision aelodaeth o’r UE?

● Mae aelodaeth o farchnad gyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi mynediad i ni i amrywiaeth anferth o gynnyrch a bwydydd, y byddai’n rhaid i ni dalu pris uchel amdanyn nhw fel arall. Mae hefyd yn cynnig ystod o gwsmeriaid ar gyfer y bwyd a gynhyrchir yma yng Nghymru.

● Daw llawer o’r rheoliadau manwl ynglŷn â diogelwch bwyd o’r UE. Mae hyn yn sicrhau bod y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, ac a fewnforiwn o dramor yn ddarostyngedig i’r un safonau diogelwch ac felly fe wyddom y gallwn ymddiried yn yr hyn rydym yn ei fwyta.

● Mae cynnyrch o Gymru wedi elwa gan safonau ansawdd yr UE ar fwyd.

● Cytuna arbenigwyr fod angen newid sylweddol yng nghyfeiriad cynhyrchu a defnyddio bwyd. Mae yna nifer o ffactorau pwysig yn y diwydiant sydd angen mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys cynaladwyedd, newid mewn demograffeg, newidiadau mewn deiet, newidiadau mewn cadwynau cyflenwi, a’r angen am newid i fwydydd mwy iachus. Mae’r rhain yn faterion rhyngwladol na ellir eu datrys yn annibynol – ac mae’r UE yn rhoi cyfle i ni drafod a datrys y materion hyn ar raddfa rhyngwladol.

Beth fyddai’n digwydd i ni pe byddem yn gadael yr UE?

● Byddai’r ansicrwyd ynglŷn â gadael yr UE bron yn sicr o wneud yn gwneud i bris Sterling syrthio’n sylweddol. Byddai hyn yn golygu mewnforion bwyd llawer drytach – ac rydym wedi gweld gymaint mae Cymru a’r DGyn dibynnu ar fewnforio bwyd.

● Ar sail mwy hir-dymor, byddai gadael yr UE yn golygu colli mynediad at y farchnad sengl – onibai ein bod yn dilyn holl reolau a rheoliadau’r UE. Os wnawn ni adael y farchnad gyffredin, byddwn bron yn sicr o weld tollau yn cael eu gosod ar ein nwyddau gan yr UE, sydd yn golygu bod diwydiant bwyd Cymru yn colli mantais sylweddol pan yn masnachu gyda gwledydd Ewropeaidd. Byddai’r diwydiant yn dioddef yn arw wrth fod yn agored i brisiau bwyd rhyngwladol a chystadleuaeth gyda blociau masnach anferth.

● Pe byddem yn gadael yr UE fe allai’r DG gael gwared â llawer o’r rheoliadau diogelwch bwyd sydd yn cael ei orfodi ar lefel UE ar hyn o bryd. Bydd corfforaethau amlgenedlaethol yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i wanhau’r rheoliadau hyn er mwyn iddyn nhw allu parhau i wneud elw.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.