ASau o saith plaid yn uno i alw am ddal Blair i gyfrif dros Irac

Screen_Shot_2016-11-30_at_11.08.13.png

Bydd ASau o saith plaid wleidyddol wahanol yn San Steffan yn uno heddiw y tu ôl i gynnig yn galw am i’r cyn-Brif Weinidog, Tony Blair gael ei ddal i gyfrif dros "dwyll bwriadol" ar Irac.

Caiff y cynnig, a gefnogir gan ASau o Blaid Cymru, yr SNP, Llafur, y Ceidwadwyr, a Blaid Werdd, yr SDLP a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn dilyn rhyddhau adroddiad gan yr academydd nodedig o Gaergrawnt, Dr Glen Rangwala, sydd yn mynd i fanylion am y gwrthgyferbyniad rhwng datganiadau cyhoeddus Blair i’r Senedd ac i bobl a’r ohebiaeth breifat gydag Arlywydd America, George W Bush.

"Yn ei adroddiad, mae’r Dr Glen Rangwala yn dadansoddi gwahanol agweddau yn y cyfnod cyn yr ymosodiad, gan gynnwys y penderfyniad i ddefnyddio grym milwrol, newid regime yn Irac, tystiolaeth am arfau dinistr, a defnyddio holl lwybrau diplomyddiaeth.

Casgliad yr adroddiad oedd, yn dilyn datganiadau Blair dro ar ôl tro i’r Senedd na chymerwyd unrhyw benderfyniad i ddefnyddio grym milwrol yn erbyn Irac, y gellid bod wedi osgoi gweithredu milwrol trwy ddiarfogi Irac ac nad newid regime oedd nod polisi’r llywodraeth; fod y datganiadau hyn wedi eu gwrth-ddweud gan nodyn preifat Blair at yr Arlywydd Bush oedd yn dweud yn blwmp ac yn blaen, "Fe fyddaf gyda chi beth bynnag a ddaw ".

Meddai arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd ar Faterion Rhyngwladol, Hywel Williams AS:

"Mae’r cynnig hwn yn galw ar Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i gynnal archwiliad penodol pellach i’r gwrthgyferbyniad rhwng gohebiaeth y cyn-Brif Weinidog gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau a’r datganiadau cyhoeddus i’r Senedd a’r bobl, yn ogystal ag yng nghyflwyno cudd-wybodaeth.

"Dywedodd y Prif Weinidog fod yr ymgynghorydd ar ddiogelwch cenedlaethol yn arwain ymarferiad i ddysgu’r gwersi o adroddiad Chilcot ond mae ein dadl ni yn cyfeirio’n benodol at weithredu Seneddol.

"Rhyfel Irac oedd un o drychinebau mwyaf y byd yn yr 21ain ganrif. Lladdwyd cannoedd o filoedd o bobl yn Irac. Yn y DG, yr oedd teuluoedd yn galaru dros eu hanwyliaid, a’r sawl a oroesodd wedi gwasanaethu eu gwlad yn dioddef yn enbyd. Mae’r rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol yn parhau, a therfysgaeth yn lledaenu ar draws gogledd Affrica, Ewrop a’r byd i gyd. Heddiw yn y DG, mae’r lefel bygythiad yn 'ddifrifol', sy’n golygu bod ymosodiad yn debygol iawn, a gellir olrhain llawer o hyn yn ôl i’r rhyfel anghyfreithlon ac anfoesol yn Irac, y pleidleisiodd y Senedd drosto wedi cael eu camarwain gan y cyn-Brif Weinidog.

"Bu ymateb y Llywodraeth hyd yma yn hynod annigonol. Mae dioddefwyr y trychineb hwn yn haeddu cyfiawnder."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.