Negeseuon cymysg ar ryddid i symud yn tanseilio’r sector addysg uwch yng Nghymru - Plaid Cymru

LlyrG.jpg

Llyr Gruffydd yn galw ar weithredu i ddiogelu enw da Cymru fel cyrchfan o fri i fyfyrwyr ac academyddion rhyngwladol.

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd, wedi galw am fesurau brys i hybu recriwtio myfyrwyr ac academyddion rhyngwladol gan brifysgolion Cymru.

Daw’r alwad yn dilyn cyhoeddi datganiad ystadegol cyntaf UCAS ar gylch israddedigion the 2017, sydd yn datgelu gostyngiad mawr yn nifer yr ymgeiswyr o dramor i brifysgolion yng Nghymru erbyn y terfyn amser ddechrau Hydref.

Mae’r gostyngiad o 32% mewn myfyrwyr o’r UE ac 11% mewn ceisiadau rhyngwladol eraill wedi cryfhau ofnau fod safbwynt caled llywodraeth y DG ar fyfyrwyr rhyngwladol yn niweidio prifysgolion Cymru yn eu hymdrech i ddenu mwy o fyfyrwyr o dramor i ddod i Gymru i astudio.

Wrth godi’r mater yn y Cynulliad Cenedlaethol, galwodd Llyr Gruffydd hefyd ar Ysgrifennydd Addysg Cymru i ddweud yn glir a yw yn cefnogi barn Llywodraeth Cymru na fyddai modd cynnal y rhyddid i symud – barn sydd yn hollol groes i safbwynt ei phlaid ei hun.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd:

“Mae myfyrwyr ac academyddion rhyngwladol yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru, gan gyfoethogi ein prifysgolion a’n cymunedau, a rhoi hwb i economi Cymru.

“Dywedodd adroddiad gan Brifysgolion Cymru fod dros 25,000o fyfyrwyr rhyngwladol wedi astudio ym mhrifysgolion Cymru yn 2013-14, gan gefnogi dros 7,400 o swyddi cyfatebol llawn-amser ledled y wlad a chyfrannu’r hyn sydd yn cyfateb i £368 miliwn i GVA Cymru. Mae un swydd yng Nghymru yn cael ei chreu am bob tri myfyriwr o’r tu allan i’r UE sy’n astudio yng Nghymru.

“Mae’r ffaith fod Ysgrifennydd Cartref y DG yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau llym ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol i Gymru yn anghredadwy.

“Mae’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, wedi disgrifio’r cynigion i gysylltu fisas myfyrwyr ag ansawdd y sefydliadau fel rhywbeth nad yw’n gwneud ‘dim synnwyr’ ac a fyddai’n ‘ergyd drom tu hwnt’ i’r sector. Dylai Llywodraeth ymbellhau oddi wrth safbwynt chwerthinllyd y Swyddfa Gartref, a gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr fod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i feddwl am Gymru fel cyrchfan ddymunol ar gyfer astudio.

“Dylai’r ffigyrau cynnar o gylch ceisiadau 2017 fod yn rhybudd fod datganiadau gan Lywodraeth y DG yn debyg o danseilio’r sector addysg uwch sector yng Nghymru. Dyletswydd Llywodraeth Cymru yw amddiffyn buddiannau addysg uwch Cymru a gwrthwynebu’r camau arfaethedig i gyfyngu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i Gymru.

“Man cychwyn da fyddai egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar ryddid pobl i symud. Rhaid iddynt anfon neges glir at y gymuned ryngwladol y cânt groeso twymgalon pan ddeuant i Gymru i astudio. Mae’n siomedig na lwyddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddwued yn glir ai barn arweinydd ei phlaid y mae hi’n gefnogi ynteu barn arweinydd ei Llywodraeth.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.