Rhaid i Brif Weinidog San Steffan alw pleidlais i adael yr Undeb Tollau

joni_a_theresa.PNG

Does gan Lywodraeth San Steffan ddim mandad i gymryd gwledydd y Deyrnas Gyfunol allan o’r Undeb Tollau, a rhaid iddynt geisio caniatâd Seneddau cenedlaethol cyn gwneud hynny, meddai Plaid Cymru.

Mae Jonathan Edwards, Is-Gadeirydd y Grŵp Seneddol Amlbleidiol ar Ewrop, ac AS Plaid Cymru, wedi ymateb i honiad Llywodraeth San Steffan y bydd y Deyrnas Gyfunol yn “bendant” yn gadael yr Undeb Tollau, trwy ddweud nad oes mandad ganddynt i wneud yr honiad hwnnw, gan alw am bleidlais yn y Senedd.

Mae’r Undeb Tollau yn caniatáu masnachu nwyddau yn rhydd gyda thros 80 o wledydd ledled y byd. Petai pob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Tollau, byddai angen mannau i gadw golwg ar dollau ar ynys Iwerddon.

Mae honiad Prif Weinidog San Steffan yn croesddweud datganiadau blaenorol yn nodi na fyddai ffin galed yn Iwerddon, ac yn croesddweud hefyd y cytundeb y daethpwyd iddo rhwng trafodwyr y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop cyn y Nadolig, oedd yn caniatau trafodaethau i symud ymlaen i’r ail gam.

Yn ei sylw, meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru ac Is-Gadeirydd y Grwp Seneddol Amlbleidiol ar Ewrop, Jonathan Edwards:

“Os byddwch yn gadael yr Undeb Tollau – bydd gennych ffin galed. Mae mor syml â hynny.

“Does dim mandad gan Lywodraeth San Steffan i gymryd Cymru nac unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Gyfunol allan o’r Undeb Tollau a rhaid iddynt felly gael caniatâd y Senedd cyn gwneud hynny.

“Dywedasant wrth bob Iwerddon na fyddai ffin galed ar yr ynys a dywedasant yr un peth wrth y sawl sy’n trafod ar ran yr Undeb Ewropeaidd, ond mae dweud yn bendant na fydd modd aros mewn unrhyw fath o Undeb Tollau wedi Brexit yn golygu, yn bendant, y bydd ffin galed ar ynys Iwerddon ac y bydd busnesau a diwydiant yn wynebu tariffau ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio.

“Mae Seneddau yno i ddal llywodraethau i gyfrif - maent yn greiddiol i’n democratiaeth. All Theresa May ddim osgoi democratiaeth. Rhaid rhoi’r cynnig i adael yr Undeb Tollau i bleidlais ym mhob un o Seneddau cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.