'Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru' - Eurfyl ap Gwilym yn esbonio sut fyddai'n gweithio

Eurfyl_ap_Gwilym_720.JPG

Sut byddai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn gweithio - traethawd gan ein Prif Ymgynghorydd Economaidd, Eurfyl ap Gwilym

Cyflwyniad

I lwyddo yn economaidd a chymdeithasol, mae ar unrhyw wlad angen seilwaith modern ac effeithiol. Heb fuddsoddi mewn seilwaith o’r fath, ni all gwlad yn gyson gynyddu cynhyrchedd na chystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae methu cynyddu cynhyrchedd hefyd yn arwain at gyflogau is a safonau byw is dros amser. Un o fethiannau cyson Llywodraeth y DG fu peidio â buddsoddi yn ddigonol mewn seilwaith yn arbennig yn yr hyn maent hwy yn alw yn rhanbarthau ymylol megis Cymru. Mae’n werth sylwi bod y prif fuddsoddiadau sydd ar y gweill ac ar waith wedi eu canoli ar dde-ddwyrain Lloegr, gyda Crossrail a Crossrail 2 yn enghreifftiau mwyaf amlwg. Yn achos Llywodraeth y DG, eu hymlyniad at y ddogma o orfod talu eu ffordd mor fuan ag sydd modd sydd wedi cyfyngu ar yr arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Tra bod agwedd o’r fath wedi esgor ar sgil-effaith ar yr arian sydd ar gael yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf, mae’r llywodraeth honno yn ei thro wedi methu â mynd ati i ganfod ffyrdd eraill o dalu am fuddsoddi cyfalaf o’r fath. Cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011, cynigiodd Plaid Cymru eu cynllun AdeiladuIGymru oedd yn gosod allan yn fanwl sut y gallai Llywodraeth Cymru fanteisio ar farchnadoedd cyfalaf a ffynonellau eraill o arian ychwanegol. Yr oedd y cynllun hwn yn ganlyniad pedair blynedd o waith ac fe’i seiliwyd ar gyngor arbenigol gan y banciau mawr, y diwydiant adeiladu ac un o’r pedwar prif gwmnïau cyfrifo. Ysywaeth, dros y pum mlynedd a aeth heibio, bu Llywodraeth Cymru yn araf i arloesi ym maes buddsoddi cyfalaf.

Wrth esbonio beth mae disgwyl i’r agwedd newydd hon gyflawni, efallai mai da fyddai cael golwg ar gyd-destun a chefndir y cyfyngiadau i fuddsoddi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Er bod tai ar hyn o bryd yn ddrud iawn, y farn gyffredinol yw mai da o beth yw i bobl fod yn berchen ar dŷ, ac i’r rhan fwyaf o bobl, dyma’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf maent yn debyg o wneud. Am y byddai’n amhosib i bawb ond yr unigolion mwyaf cyfoethog brynu tŷ o’u hincwm cyfredol, ac am y cymerai amser maith i gynilo’r arian sydd ei angen i brynu tŷ, datblygodd marchnad forgeisio sy’n caniatáu i unigolion brynu tai a byw ynddynt wrth iddynt dalu eu dyled yn raddol dros flynyddoedd.

Nid yw sefyllfa llywodraethau mor wahanol â hynny. Os ydynt am wario symiau mawr o arian cyfalaf i’w fuddsoddi mewn ysgolion, ysbytai, ffyrdd newydd ac ati, rhaid iddynt naill ai ddefnyddio eu hincwm cyfredol, cynilo nes bod ganddynt ddigon o arian, neu fenthyca’r arian dros y blynyddoedd ac ad-dalu wrth iddynt ddefnyddio’r cyfleuster.

Yn achos Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, mae ganddo bwerau benthyca cyfyngedig. Rhoddodd Mesur Cymru 2014 bwerau benthyca i Lywodraeth Cymru fedru buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf o 2018 ymlaen. Bydd gweinidogion yn cael benthyca i fuddsoddi mewn maes datganoledig, hyd at gyfanswm o £500m. Mae mynediad cynnar wedi ei roi i gynorthwyo gydag adeiladu ‘Llwybr Ddu’ drud yr M4. Yn ogystal â bod yn gyfyng yn ei phwerau benthyca, nid yw llywodraeth Cymru yn medru codi incwm trwy drethiant. Os byddant yn cynilo, mae perygl wedyn i’r Trysorlys gymryd yr arian yn ôl ar y sail nad yw wedi ei wario, fel y gwnaethant yn ddiweddar – gall dull y Trysorlys o gadw tŷ filwrio yn erbyn bod yn ddarbodus. Felly mae rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o unigolion yn ei gymryd yn ganiataol, ac a ystyrir yn gyffredinol fel rhywbeth da, sef y gallu i fenthyca’n ddarbodus dros dymor hir i brynu ased cyfalaf drud a thalu amdano yn raddol, yn cael ei wadu i Lywodraeth Cymru.

Mae’n wir y cynigiodd San Steffan ddewis arall: PFI, sydd yn ei hanfod yn ddull crandiach, aneffeithiol a drud o hur-bwrcas. O gofio nad oedd unrhyw ffynhonnell arian arall ar gael, ymgymerodd llawer rhan o’r DG yn gyndyn iawn â phrosiectau cyfalaf gan ddefnyddio PFI am nad oedd ganddynt fawr o ddewis. Mae’r Trysorlys bellach wedi cydnabod fod PFI yn aml yn rhoi gwerth gwael am arian, a dyna pam y canslwyd y rhaglen Adeiladu Ysgolion i’r Dyfodol yn Lloegr. Ym mis Ebrill 2011 ychwanegodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol eu beirniadaeth o PFI a dysgwyd nifer o wersi buddiol sydd wedi eu hadlewyrchu yng nghynigion Plaid Cymru. Mae’n destun balchder na wnaeth Cymru gyllido llawer iawn trwy ddenfyddio PFI (rhyw un rhan o ddeg o’r swm a wariwyd gan yr Alban, a llai nac 1 y cant o gyfanswm y DG). Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu fod nifer fawr o brosiectau cyfalaf wedi cronni yn sector cyhoeddus Cymru.

Mae hyn yn golygu fod angen dybryd i Lywodraeth Cymru (a’r sector cyhoeddus Cymreig yn gyffredinol) ddod o hyd i ffordd arall o fuddsoddi yn ei seilwaith. Mae’n rhaid iddynt hefyd geisio gwneud hynny o fewn ffiniau’r dyraniad ariannol dan fformiwla Barnett, o gofio’r heriau ariannol sy’n wynebu’r DG ar hyn o bryd. Mae’r her o gynyddu buddsoddi cyfalaf yn fater o frys. Llusgo’u traed wnaeth Llywodraeth ddiwethaf Cymru wrth gyflwyno cyllido arloesol. Nid yw’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, a sefydlwyd yn 2012, wedi mynd yn ddigon pell wrth weithredu’r prosiectau isadeiledd sydd eu hangen ar Gymru. Y mae hefyd wedi ei feirniadu am beidio â gweithio oherwydd diffyg strategaeth sylfaenol. ,

Fel y dywedwyd gan gyrff fel yr OECD a’r CBI, mae achos cryf dros fuddsoddi o’r fath yn enwedig pan fo cyfraddau llog mor isel. Amcangyfrifir y gall yr elw ar fuddsoddi mewn seilwaith fod mor uchel â 3 i 1, h.y., am bob £1 a fuddsoddir, ceir elw economaidd o £3. Adeg ysgrifennu hyn (Ebrill 2016) mae’r elw ar warantau 10 mlynedd Llywodraeth y DG yn is na 1.5 y cant, h.y., maent yn agosáu at gyfradd negyddol mewn termau real, sy’n gwneud yr achos dros fuddsoddi yn gryfach fyth.

AGWEDD NEWYDD AC ENDID NEWYDD

Er mwyn cwrdd â’r her gyllido hon, yn ogystal ag i ddarparu mecanwaith ar gyfer gwella caffael a rheolaeth y sector cyhoeddus a lleihau costau, y mae ar Gymru angen agwedd newydd ac endid newydd. Byddai Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol i Gymru (NICW) yn meddu ar y nodweddion allweddol canlynol:

1. Cwmni preifat nid am elw dosbarthiadwy fyddai NICW, cyfyngedig trwy warant, gyda strwythur tebyg i eiddo Glas Cymru. Byddai’r elw fyddai’n cael ei gadw yn y cwmni yn cael ei ddefnyddio i wella mantolen y cwmni ac i fuddsoddi mewn mwy o brosiectau seilwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddai’n canolbwyntio yn unig ar brosiectau seilwaith yng Nghymru, ac wrth i’w bortffolio dyfu, rhagwelir y byddai’n adeiladu corff sylweddol o wybodaeth ac arbenigedd ym maes tendro a thrafod, yn ogystal â rhedeg a rheoli eiddo yn y sector cyhoeddus .

2. Byddai NICW yn gyfrifol am gyllido a gweithredu prosiectau seilwaith y sector cyhoeddus, megis ysgolion ac ysbytai, a gallai hyn hefyd ymestyn i ffyrdd a thai. Byddai hefyd yn gyfrifol am eu rhedeg a’u rheoli ar ôl iddynt gael eu hadeiladu. Byddai’n ddewis arall yn lle PFI ac yn lle benthyca uniongyrchol gan gorff sector cyhoeddus. Ni fyddai NICW am fwndelu ynghyd gontractau adeiladu a chontractau rhedeg a gwasanaethu, fel gyda PFI; yn hytrach, landlord yr adeilad/perchennog yr ased fuasent, gyda phrydles safonol. Yn ychwanegol, byddai unrhyw elw a wnâi’r cwmni yn cael ei ailgylchu i fwy o fuddsoddiad yn seilwaith sector cyhoeddus Cymru. Byddai hyn yn golygu ei fod yn sylfaenol wahanol i PFI. Ni fyddai rheidrwydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ddefnyddio’r endid newydd, ond fe fyddai’n ddewis cyllido pwysig arall yn lle PFI confensiynol a chaffael cyhoeddus ar sail eu blaenoriaethau gwario eu hunain. Byddai NICW yn ceisio tendrau gan gwmniau adeiladu’r sector preifat i gyflwyno’r seilwaith ar ei ran, ond NICW fyddai’n gyfrifol am gyllido’r seilwaith, ei reoli ac ad-dalu’r ddyled berthnasol dan drefniant prydles tymor-hir.

3. Ymysg ffynonellau cyllido i NICW byddai:
• Marchnadoedd cyfalaf;
• Banc Buddsoddi Ewropeaidd;
• Cronfa Ewropeaidd dros Fuddsoddi Strategol;
• Cyfleuster Cysylltu Ewrop Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd;
• Cynllun Gwarantu Seilwaith y DG;
• Banc Buddsoddi Gwyrdd;
• Awdurdodau lleol;
• Y gronfa Llwyfan Seilwaith Pensiynau newydd; a
• Cronfeydd Pensiwn.

4. Byddai sefydlu cyfrwng o’r fath yn galluogi’r sector cyhoeddus i gynllunio gwariant cyfalaf dros gyfnod hwy, ac elwa o arbenigedd corff hyd braich fyddai’n canolbwyntio ar y sector seilwaith a rhoi gwerth am arian. Yn achos codi ysgol, er enghraifft, gallai’r awdurdod addysg lleol ofyn i NICW adeiladu ysgol ar eu rhan. Byddai’r AALl yn dod i brydles tymor hir i feddiannu’r ysgol, a byddai’r taliadau prydles a wnâi’r AALl yn talu’r ddyled a godwyd gan NICW i godi’r ysgol. Yr AALl fyddai’n gyfrifol am redeg yr eiddo o ddydd i ddydd.

5. Dylai agwedd o’r fath, dros amser, arwain at safoni dogfennau contractaidd a gweithdrefnau a gofynion caffael, gan leihau costau a rhoi mwy o dryloywder a sicrwydd, gan ei wneud yn fwy tebygol y bydd seilwaith cyhoeddus yn cael ei gyflwyno yn effeithiol. Ar gyfer awdurdodau addysgol lleol, ymddiriedolaethau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill, mae’n rhoi mynediad at ganolfan arbenigedd sydd, er ei fod yn breifat, yn meddu ar genhadaeth sector cyhoeddus, a all gyflwyno prosiectau cyfalaf iddynt yn fwy effeithlon, oherwydd ei arbenigedd yn y sector, ac sy’n gallu adeiladu ar ei brofiad o gyllido ac adeiladu.

6. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi bod yn cael trafferthion sicrhau’r model dosbarthu di-elw (NPD) ar gyfer tri phrosiect isadeiledd sylweddol yng Nghymru oherwydd penderfyniad gan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol i glustnodi rhaglen NPD yn yr Alban yn brosiect cyhoeddus “ar fantolen”. Mae Llywodraeth yr Alban ers hynny, mewn trafodaeth â’r swyddfa ystadegau, wedi cynnig ateb gan newid strwythur y model dosbarthu di-elw mewn ffordd sydd yn ateb gofynion y swyddfa ystadegau . Pan yn dylunio NICW byddai Plaid Cymru, mewn trafodaethau gyda’r swyddfa ystadegau a Llywodraeth yr Alban, yn sicrhau bod y model yn cael ei ddylunio sydd yn ei alluogi i fod yn ‘sector breifat’ ac o ganlyniad ‘ddim ar y fantolen”.

7. Ymysg amcanion creu NICW mae:

a. Galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio rhan o’u gwariant cyfredol ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn dull effeithlon. Dyma rywbeth mae’r Trysorlys fel arfer yn ei groesawu fel agwedd ddarbodus. Gan nad yw Cymru wedi gwneud llawer o PFI o gymharu a rhannau eriall y DG mae ganddi fwy o le i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.
b. Galluogi mynediad at gyllid y sector preifat mewn ffordd decach a mwy effeithlon na PFI ar adeg pan fod cyfyngiadau llym ar fenthyca gan y llywodraeth
c. Creu cwmni arbenigol sydd a phrofiad mewn caffael a thrafod gyda chontractwyr, fydd yn arwain at gyflwyno prosiectau seilwaith y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol, a lleihau costau, un arall o amcanion y Trysorlys.
d. Byddai’r elw a wnaed gan y cwmni yn cael ei gadw i fuddsoddi ymhellach yn y sector cyhoeddus, sy’n nod arall gan y Trysorlys.

8. Mae’r agwedd hon felly wedi ei theilwrio yn benodol i gwrdd â nifer o amcanion allweddol y Trysorlys yn ogystal ag anghenion Llywodraeth Cymru. Mantais arall fyddai darparu galw yn y diwydiant adeiladu ar adeg anodd, gan warchod a chreu swyddi a buddsoddi ar lefelau prisio a ddylai fod yn gystadleuol iawn o gymharu â rhai blynyddoedd yn ôl.

MEYSYDD BUDDSODDI

Ym mlwyddyn gyntaf llywodraeth Plaid Cymru, datblygir rhaglen ddatblygu. Bydd hyn yn cynnwys:
• moderneiddio ein rhwydwaith cludiant cyhoeddus gyda chysylltiadau rheilffordd ar draws Cymru gyfan;
• gwella ein system gefnffyrdd, gyda buddsoddiad yn yr M4 a’r A55;

• moderneiddio ein rhwydwaith telegyfathrebu, gan ddarparu bandeang cyflym iawn i bawb;
• buddsoddi yn ein seilwaith ynni, gan sefydlu rhwydwaith o gridiau ynni gyda phwyslais cynyddol ar y sector andewyddadwy;
• buddsoddi mewn ynni adnewyddol, gan gynnwys prosiectau hydro ym mhob rhan o Gymru;
• cychwyn y rhaglen effeithlondeb ynni fwyaf uchelgeisiol erioed;
• gwella isadeiledd porthladdoedd ar draws Cymru gyfan
• uwchraddio a datblygu cyfleusterau addysg a moderneiddio adeiladau ysgolion;
• ehangu buddsoddi mewn iechyd, gan gynnwys tair canolfan diagnostig newydd ac;
• adeiladu 10,000 o dai newydd, fforddiadwy ychwanegol.

Byddai hon yn rhaglen uchlegeisiol gyda’r nod o ail-adeiladu Cymru.

AMCANGYFRIFON ARIANNOL

Mae cyllideb fuddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru fel y’i gosodwyd gan Lywodraeth y DG yn £1.5bn am y flwyddyn gyfredol (2016-17) a bydd yn codi i £1.7b mewn termau enwol erbyn 2020-21. Wrth baratoi amcangyfrifon ariannol ar gyfer NICW mae’r diffyg cynllunio ar gyfer prosiectau sy’n barod i’w gweithredu yn golygu y bydd yn rhaid gweithredu rhaglen ‘Ailgodi Cymru’ dros ddegawd.

Wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi, rydym wedi cymryd agwedd feiddgar ond ddarbodus. Byddwn yn ceisio codi £7.5bn dros gyfnod o ddeng mlynedd o’r amrywiaeth o ffynonellau a restrwyd yn gynharach. Lle bynnag posib, byddwn yn defnyddio yr arian hwn i alluogi buddsoddiad ychwanegol ac arian cyfatebol gan ffynonellau eraill.

Byddwn yn benthyca dros bum mlynedd ar hugain. Ar y sail honno, bydd cost gwasanaethu’r ddyled (gan gynnwys talu’r llog a’r cyfalaf), yn pegynnu yn 2026, pan fydd yn rhyw 4 y cant o’r gyllideb Gymreig. Pan gwblheir y rhaglen ddeng mlynedd, bydd y gost gwasanaethu yn cwympo fel canran o’r gyllideb wrth i’r gyllideb Gymreig dyfu mewn termau enwol a real. Bydd y ffaith y bydd y ddyled wedi ei thalu yn caniatau i lywodraethau’r dyfodol bennu eu rhaglenni benthyca eu hunain.

Mae’r rhagolygon ariannol a wnaed ar gyfer gwasanethu dyled NICW yn seiliedig ar ragdybiaethau darbodus; maent wedi eu hymgorffori yng nghostiadau manwl maniffesto Plaid Cymru, sydd yn eu tro wedi eu hasesu’n annibynnol gan yr Athro Gerald Holtham a’r Athro Brian Morgan o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a’i farnu ganddynt yn ‘rhesymol ac yn unol â rhagamcanion gwariant Trysorlys EM a’i oblygiadau i Gymru’.

PERTHNASEDD NICW I’R DG YN EHANGACH

Mae’r Trysorlys wedi cydnabod nad yw PFI yn rhoi gwerth am arian, ac y maent yn chwilio am ddewis arall pan fo cyfyngiadau eithriadol ar gyllid cyhoeddus y DG ac eto, mae angen rhoi hwb i dwf, yn enwedig yn y diwydiant adeiladu. Er bod gan Lywodraeth Cymru fwy o allu cymharol i drosglwyddo gwariant cyfredol i fuddsoddi cyfalaf oherwydd lefel isel yr ymrwymiadau PFI cynharach, byddai’r agwedd a gyflwynir yma yr un mor gymwys yng ngweddill y DG.

Y gobaith yw, wrth i fanylion yr agwedd hon ddod yn gliriach, ac yn niffyg unrhyw awgrymiadau eraill seiliedig ar ymchwil ynghylch sut y gallai Cymru a’r DG yn ehangach ateb her buddsoddi’r sector cyhoeddus yn y dyfodol, y gallai’r agwedd hon ennyn cefnogaeth trawsbleidiol.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.