“Bwriwch ymlaen â’r ymchwiliad i ollwng gwybodaeth am Gylchffordd Cymru”

00_Adam_Price_AC.jpgAdam Price yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i gael y diweddaraf am yr ymchwiliad

 

Mae AC Plaid Cymru Adam Price wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i’w hannog i fwrw ymlaen gyda’r ymchwiliad i ollwng gwybodaeth ar brosiect Cylchffordd Cymru.

Dywedodd Adam Price fod yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth i newyddiadurwr ar y Western Mail wedi cymryd pum mis pryd y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo gymryd pedair i chwe wythnos. Yn ei ohebiaeth, dywedodd AC Plaid Cymru, oherwydd bod yn rhaid cynnal ymchwiliadau i ollwng gwybodaeth, a chael eu gweld yn cael eu cynnal, “heb ofn na ffafriaeth pan ddaw’n fater o euogrwydd gwleidyddion neu’r sawl a benodir ganddynt” a bod y “canfyddiad am ddiffyg cynnydd gyda’r ymchwiliad hwn yn awr yn fater o bryder gwirioneddol.”

Copïodd Mr Price ei ohebiaeth at Syr Jeremy Heywood - yr Ysgrifennydd Cabinet a Phennaeth Gwasanaeth Sifil y DG.

Wrth ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan, dywedodd Adam Price AC:

“Rwy’n ysgrifennu atoch i leisio pryderon difrifol sydd gennyf o ran yr ymchwiliad yr ydych yn ei gynnal ar hyn o bryd i ryddhau peth gwybodaeth gyfrinachol ynghylch Cylchffordd Cymru.

[...] Ar ddydd Mawrth Mehefin 28 penderfynodd y Cabinet beidio â bwrw ymlaen gydag unrhyw gefnogaeth ariannol bellach i brosiect Cylchffordd Cymru. Ar y dydd Llun canlynol, Gorffennaf 3, yr oedd gan y Western Mail erthygl ar ei thudalen flaen dan y pennawd, 'Datgelu’r elw enfawr y gall cefnogwyr Cylchffordd Cymru ei gael – gyda’r pennaeth a’i wraig yn debygol o gael £46m'.

Yr oedd y stori yn seiliedig ar wybodaeth fanwl ynghylch enillion ariannol personol a chorfforaethol a ragamcanwyd ac oedd yn gysylltiedig â’r prosiect: gwybodaeth a ddarparwyd yn gyfrinachol mewn e-bost gan Michael Carrick, Prif Weithredwr Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, at un o’r swyddogion arweiniol oedd yn ymdrin â’r prosiect mewn ymateb i gais am wybodaeth ychwanegol gan Grant Thornton a oedd yn cynnal diwydrwydd dyladwy allanol i’r Llywodraeth. Mae’n rhesymol dod i’r casgliad, ar sail cyd-destun a chynnwys yr erthygl, fod y wybodaeth wedi ei ollwng gyda’r bwriad o fwrw sen ar enw da yr unigolion dan sylw a helpu i gyfiawnhau penderfyniad y Llywodraeth a oedd wedi derbyn ymateb rywfaint yn gymysg.

Byddai nifer y bobl fuasai fel rheol wedi gallu gweld yr e-bost gwreiddiol yn eithaf bychan oherwydd natur sensitif y wybodaeth. Yn ychwanegol at yr anfonwr a’r sawl a’i derbyniodd yn y pen draw, Grant Thornton, gallasai hyn fod wedi cynnwys nifer fechan o Weision Sifil ychwanegol oedd yn gweithio ar y prosiect (dim mwy na chyfanswm, o bedwar, fwy na thebyg), un neu ddau o Ymgynghorwyr Arbennig a’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun.

I grynhoi, mae’r wybodaeth gafodd ei ollwng yn golygu rhyddhau un darn o wybodaeth a fyddai ar gael, yn ôl fy nghyfrif i, i lai na deg o bobl. Yng ngoleuni hyn, rwy’n synnu’n fawr pam fod yr ymchwiliad ar fin cyrraedd ei bumed mis, heb fawr ddim arwyddion o gynnydd hyd yma. Ar sail fy ymchwil i, mae ymchwiliadau i ollwng gwybodaeth yn Whitehall yn ymddangos fel petaent yn cymryd pedair i chwe wythnos ar gyfartaledd.

O’m hymholiadau fy hun, medrais ganfod y canlynol:

Ni wnaed unrhyw ymgais i gyfweld y sawl a dderbyniodd y wybodaeth, Martin ShiptonDywed yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw’n gwybod pwy wnaeth ollwng y wybodaeth ac, mewn cwestiynau ysgrifenedig, dywedodd ei fod yn fodlon nad swyddogion yn ei adran ef nac ymgynghorwyr arbennig oedd yn gyfrifolNi wnaed unrhyw ymgais i gyfweld y cwmni.

Mae’r pwynt olaf hwn yn peri pryder arbennig o gofio fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi awgrymu yn ei ateb llafar i mi ar 11 Hydref mai’r cwmni a ryddhaodd y wybodaeth, er mwyn dwyn gwarth arnynt eu hunain, felly. Mae hyn yn awgrym chwerthinllyd – ac os mai anwiredd ydyw, un maleisus – ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a ydych wedi trafod gollwng y wybodaeth gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun ai peidio; ac a ydych wedi ymateb ai peidio i gyfres o ebyst gan y cwmni yn gofyn am gyfoesiad ar hynt yr ymchwiliad.

Fe fyddwch yn sylweddoli bod cryn ddiddordeb cyhoeddus yng nghanlyniad yr ymchwiliad hwn. Mae’n rhesymol rhagdybio fod gwybodaeth oedd ym meddiant y Llywodraeth wedi ei ollwng i’r cyfryngau er mwyn mynd ati yn fwriadol i bardduo’r unigolion dan sylw ac amddiffyn enw da'r Llywodraeth. Mae hyn yn fwy nac “anffodus” â defnyddio ymadrodd y Prif Weinidog wrth gyfeirio at ollwng y wybodaeth; mae hefyd yn tanseilio ffydd y cyhoedd mewn llywodraethiant da a rheolaeth cyfraith. Yn hyn o beth, buaswn yn ddiolchgar petaech yn cadarnhau a fyddai gollwng y wybodaeth dan sylw, petai’n cael ei brofi mai o’r tu mewn i’r Llywodraeth y’i gollyngwyd, yn torri Deddf Diogelu Data yn ogystal ag o bosib fod yn achos o gamweithredu neu gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac a ydych, ar y sail honno, wedi cysylltu â’r awdurdodau ymchwilio priodol.

Mae ymchwiliadau i ollwng gwybodaeth, wrth gwrs, yn cael eu cynnal yn annibynnol gan y Gwasanaeth Sifil er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn natur ddiduedd mecanwaith y Llywodraeth. Mae gwybodaeth yn cael ei ollwng yn aml am resymau gwleidyddol – fel yn yr achos gyda’r ymchwiliad i Swyddfa’r Alban a grybwyllwyd uchod – ac o’r herwydd, rhaid cynnal ymchwiliadau i ollwng gwybodaeth, a rhaid iddynt gael eu gweld yn cael eu cynnal, heb ofn na ffafriaeth pan ddaw’n fater o euogrwydd posib gwleidyddion neu’r sawl a benodir ganddynt. Gan gadw hyn mewn cof, fe fyddwch yn sylweddoli pam fod y canfyddiad am ddiffyg cynnydd yr ymchwiliad hwn bellach yn fater o bryder dybryd.

Buaswn yn ddiolchgar petaech yn tawelu ein meddyliau trwy ymateb yn fanwl i’r cwestiynau a godaf yn y llythyr hwn ac ymdrin yn benodol â’r amser afresymol mae’r ymchwiliad hwn yn ei gymryd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.