Chwaraeon

 

Mae chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn economi, hunaniaeth a chymdeithas Cymru. O’r nifer diddiwedd o glybiau rygbi lleol ar draws y wlad i hud Gareth Bale yn stadiwm Dinas Caerdydd, mae chwareon yn chwarae rhan anferth wrth greu yr hyn yw Cymru. 

  • Mae gan Gymru boblogaeth sydd yn heneiddio a chwestiynau cynyddol dros iechyd cyhoeddus a disgwyliadau uwch gan gleifion – mae hyn oll yn rhoi mwy o bwysau ar Wasnaeth Iechyd Gwladol (GIG) sydd o dan bwysau ariannol difrifol. Yn 2007, dywedodd y Comisiwn Ewropeaid ‘fod gan y mudiad chwaraeon mwy o ddylanwad nac unrhyw fudiad cymdeithasol arall fel arf dros wella iechyd drwy gynyddu gweithgarwch corfforol’ – a thrwy hynny leihau’r pwysau ar y GIG Cymreig.

  • Mae chwaraeon yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru. Yn 2010, roedd y gwariant ar gynnyrch chwaraeon a’i debyg, fel dillad ac offer, yn £903 miliwn – sef cynnydd o 16% ers 2004, er gwaetha’r dirwasgiad difrifol a gafwyd.

  • Mae Cymru wedi datblygu traddodiad cryf o gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafodd Cwpan Ryder, Uwch gwpan Ewrop a Chwpan Rygbi’r Byd eu cynnal yma, gan enwi dim ond rhai o ddigwyddiadau mwya’r byd.

  • Mae timoedd cenedlaethol Cymru yn mynd o nerth i nerth. Bydd prif tîm pêl-droed y dynion yn cystadlu yn Ewro 2016 yn Ffrainc, ac mae tîm rygbi’r dynion wedi ennill 3 camp lawn yn y ddegawd olaf.

  • Parhau i ddatblygu a thyfu mae chwaraeon menywod hefyd ledled Cymru, gyda chynydd hynod yn y nifer o ferched sydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon all-gyrsiol a mawrion fel Jazz Carlin and Frankie Jones yn ennill medalau aur dros Gymru.

 

Beth yw manteision bod yn aelod o’r UE? 

  • Mae’r UE yn ein galluogi i deithio’n rhydd ledled ei haelod wladwriaethau i gyd.

  • Mae Cymru’n gwneud elw net drwy fod yn aelod o’r UE, yn nhermau ei chyfraniadau ariannol. Caiff llawer o hyn ei fuddsoddi yn y diwydiant chwareon, fel y Rwydwaith Beicio Cenedlaethol 1,200 milltir o hyd a’r £3.8m a roddwyd gan yr UE i ariannu parc chwaraeon Bae Colwyn, Parc Eirias.

  • Mae’r UE yn ein caniatau ni i fynd i’r afael â materion traws ffiniol fel pennu canlyniadau gemau’n anghyfreithlon, ar y cyd â chenhedloedd Ewropeaidd eraill. Fel aelod wladwriaeth o’r UE, mae’r DG yn aelod llawn o EUROPOL, sef asiantaeth cyfraith a threfn yr UE, sydd yn cynorthwyo Aelod Wladwriaethau yn eu brwydr yn erbyn troseddau rhyngwladol difrifol a therfysgaeth gan gynnwys y troseddi sydd yn gysylltiedig â threfnu canlyniadau gemau yn anghyfreithlon.

  • Gall y chwaraewyr gorau o aelod wladwriaethau’r UE, ddod i Gymru i weithio a chystadlu. Mae gan dîm cyntaf Cwb Pêl-droed Abertawre nifer o chwaraewyr o’r UE – ac mae hi’n lawer yn haws i gael y chwaraewyr yma i ymuno â’r clwb oherwydd bod gan yr unigolion yma y rhyddid eisoes i weithio mewn unrhyw aelod wladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

  • Mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn y broses o greu Marchnad Ddigidol Sengl fyddai’n caniatau i’w dinasyddion gael mynediad at ddarllediadau o Ewrop gyfan– fyddai’n ein caniatau ni i weld mwy o chwaraeon o ansawdd uchel.

 

Beth fyddai’n digwydd pe byddem yn gadel yr UE? 

  • Byddai cefnogwyr chwaraeon o Gymru sydd yn dilyn ein timoedd cenedlaethol dramor yn ei chael hi’n lawer mwy anodd a chymleth i deithio ar draws Ewrop i gefnogi ein timoedd pe bai angen fisas bob tro.

  • Byddem mewn perygl o golli’r chwaraewyr gorau sydd wedi dod i chwarae yng Nghymru – p’un a fyddai hynny mewn pêl-droed, rygbi neu chwaraeon eraill. Ofn rhai yw y byddai gadael yr UE yn arwain at 400 o chwaraewyr yn colli’r hawl i warae yn y DG.

  • Byddai’n rhaid i Gymru, neu Lywodraeth Prydain, lofnodi cytundebau masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd – ac fe fyddai gan rhain rwystrau llawer uwch, fel ardollau, i rwystro masnach. Byddai hyn yn ei gwneud hi’n ddrytach i bobl brynu nwyddau chwaraeon hanfodol sydd yn cael eu cynhyrchu yn yr UE.

 

Beth allen ni ei wneud yn well yn yr UE? 

  • Dymuna Plaid Cymru gymryd enw da Cymru fel gwlad sydd yn cynnal digwyddiadau chwaraeon, i’r lefel nesaf. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru yn 2026 neu 2030 – gan ddod â sylw rhyngwladol i Gymru a rhoi hwb enfawr i economi’r wlad.

  • Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dilyn esiampl y Partneriaethau Chwaraeon Lleol yng Ngweriniaeth Iwerddon, er mwyn datblygu rhaglen Ysbrydoli Cymru/Inspire Wales ymhellach ac annog mwy o bob oed i gymryd rhan mewn chwaraeon. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.