Annog ‘Cynghrair y Môr Celtaidd’ i barhau cysylltiadau Cymru-Iwerddon

00_Steffan_Lewis_AC.jpg

Plaid Cymru yn galw am fargen rhwng Cymru ac Iwerddon i sicrhau buddsoddiad Ewropeaidd pellach

Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda Gweriniaeth Iwerddon a sicrhau cytundeb fyddai’n creu ‘Cynghrair y Môr Celtaidd’ ac yn sicrhau buddoddiadau Ewropeaidd at y dyfodol, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Allanol, Steffan Lewis AC.

Dywedodd Mr Lewis fod Cytundeb Belfast 1998 yn gwneud darpariaeth i ddwy neu fwy o lywodraethau’r ynysoedd hyn ddod i gytundebau dwyochrog neu amlochrog a gallai hyn fod yn fframwaith i sicrhau cyllid Ewropeaidd ar gyfer cytundebau ar y cyd, hyd yn oed os bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rhoes Mr Lewis esiampl Sweden a Norwy, lle cefnogwyd prosiect ar y cyd rhwng y ddwy wlad yn ariannol gan yr UE er nad yw Norwy yn aelod o’r bloc.

Meddai Steffan Lewis AC Plaid Cymru:

“All Llywodraeth Cymru ddim fforddio ‘aros i weld’ gyda chysylltiadau Cymru yn y dyfodol â’n cymdogion agosaf, a rhaid meddwl yn greadigol er mwyn hyrwyddo buddiannau Cymru wedi Brexit.

“Bu cydweithrediad agos eisoes rhwng Cymru ac Iwerddon mewn mentrau Ewropeaidd ar y cyd, a dylem ofalu fod y berthynas honno’n parhau wedi Brexit. Mae’n rhaid ffurfioli hynny rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon trwy gytundeb a allai sefydlu Cynghrair y Môr Celtaidd, yn canolbwyntio ar gydweithredu rhwng y ddwy genedl, ond yn enwedig rhanbarthau gorllewinol Cymru a rhanbarthau dwyreiniol Iwerddon.

“Gallai symud ymlaen felly ein gosod mewn sefyllfa lle gallwn ddelio yn well gyda’r cyd-destun ar ôl Brexit. Mae enghreifftiau y gallwn ddysgu ohonynt, megis Norwy a Sweden lle mae prosiectau ar y cyd rhwng y ddwy wlad honno wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan yr UE er nad yw Norwy yn aelod-wladwriaeth. Byddai cytundeb o’r fath yn arbennig o llesol i ranbarthau gorllewinol Cymru fu’n rhan o ranbarth cyllido cydgyfeiriant Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd wedi derbyn cannoedd o filiynau o gymorth yr UE dros y blynyddoedd.

“Rhaid i Gymru edrych tuag allan a mentro pan ddaw’n fater o’n cysylltiadau yn y dyfodol gyda gwledydd eraill a ffyniant ein cymunedau.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.