Datganiad ar garcharu gwleidyddion Catalonia

junqueras_a_jill.jpg

Plaid Cymru yn condemio Gwladwriaeth Sbaen am garcharu gwleidyddion Catalonia

Mae’r gwleidyddion hyn yn aelodau o lywodraeth etholedig a democrataidd. Mae Is-Arlywydd Oriol Junqueras yn hen ffrind i Blaid Cymru ac yn gyd-weithwr yng Nghynghrair Rhydd Ewrop. Rydym ni’n erfyn ar Wladwriaeth Sbaen i’w ryddhau ef ynghyd â’r carcharorion gwleidyddol eraill.

Rydym ni bellach wedi codi achos Catalonia heddiw yn Nhy’r Cyffredin, yn galw ar Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain i hwyluso trafodaethau rhwng Catalonia a Sbaen.

Mae’n rhaid i aelodau’r Undeb Ewropeaidd gondemio’r gweithredoedd yma ac annog Sbaen i fynychu trafodaethau. Rhaid iddynt gynnig lloches gwleidyddol i gynrychiolwyr Catalonia. Yn y cyfamser, rydym ni’n parhau i adnabod Gweriniaeth Catalonia a’i arweinyddiaeth etholedig.

[Yn y llun o'r chwith i'r dde: Oriel Junqueras a Jill Evans]

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.