Dylai parcio fod am ddim yn nhrefi Cymru er mwyn cadw canol ein trefi yn brysur, fe ddywed Plaid Cymru heddiw (Mercher Hydref 5 2016). Bydd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, Sian Gwenllian, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd i alluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru i gefnogi siopau a busnesau lleol.
Dywedodd Sian Gwenllian fod mwy o siopau gwag ar brif strydoedd Cymru na gweddill y DG, a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yr angen i gefnogi’r stryd fawr er mwyn ei chadw’n ganolfan economaidd fywiog.
Cyn y ddadl, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol Sian Gwenllian:
“Canol trefi yw canolbwynt y gymuned leol a’r economi lleol, ond ar hyn o bryd, maent yn cael eu gadael ar ôl oherwydd amgylchiadau economaidd anodd. Mae ffigyrau mynychwyr o drefi ar hyd a lled Cymru yn tynnu darlun llwm, gyda chanol trefi fel y Fenni, yr Wyddgrug ac Aberystwyth yn gweld dirywiad mewn mynychwyr o 39%, 28% a 18%.
“Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol o ran cefnogi perchenogion busnesau lleol a’r economi lleol, a gwyddom fod diffyg parcio am ddim yn aml yn ddigon i droi siopwyr ymaith. Mae datblygiadau ar gyrion trefi yn aml yn cynnig parcio am ddim felly mae’n anodd iawn i’r stryd fawr gystadlu.
“Trwy ganiatau i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol ddarparu parcio am ddim i siopwyr, gallwn helpu i gadw’r cae chwarae yn wastad i’r strydoedd mawr a denu siopwyr yn ôl yno. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa i helpu awdurdodau lleol gyda chost hyn.
“A gallwn wneud mwy fyth. Gallwn ostwng trethi busnes i fusnesau bach a dwyn 70,000 ohonynt allan o dalu trethi yn gyfan gwbl, a gallwn geisio cau’r bwlch cyllido hwnnw o £500 miliwn y mae busnesau bach yn wynebu trwy sefydlu Banc Datblygu Cymru gyda digon o gyllid, er mwyn benthyca i fusnesau bach a’u helpu i dyfu.
“Allwn ni ddim anwybyddu pa mor bwysig yw’r stryd fawr i les ardal leol. Mae stryd fawr fywiog yn aml yn arwydd o economi lleol bywiog, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i achub y stryd fawr.”