“Dim angen a dim eisiau” carchar Baglan, medd Plaid Cymru

LSR_conf_small.jpg

Daw Cymru yn un o’r unig wledydd yn y byd fydd yn mewnforio carcharorion os bydd San Steffan yn llwyddo i osod uwch-garchar ar Bort Talbot.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o godi gormodedd o garchardai yng Nghymru er mwyn datrys argyfwng Lloegr a dympio ei phroblem garchardai ar Gymru.

Bydd llefarydd y blaid ar Gyfiawnder a Materion Cartref, Liz Saville Roberts yn cynnal dadl heddiw (Mawrth 12 Medi) yn Neuadd Westminster, i wrthwynebu codi’r carchar ym Mhort Talbot, a allai gynnwys hyd at 1,600 o garcharorion.

Dywed Ms Saville Roberts “nad oes angen nad eisiau” y carchar, a rhybuddiodd am y pwysau ychwanegol y bydd y carchar yn roi ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, a threthdalwyr Cymru fydd yn talu am hyn.

Yn y ddadl, byd dyn galw am ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol fel na fydd Cymru bellach yn dod dan bolisïau San Steffan ac y gall yn hytrach lunio system gyfiawnder sydd yn cwrdd ag anghenion Cymru.

Yn ei sylw cyn y ddadl, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS:

“Os caiff Llywodraeth Prydain ei ffordd ac y bydd yn gosod y carchar ar Bort Talbot, Cymru fydd un o unig wledydd y byd fydd yn mewnforio carcharorion.

“Does dim angen y carchar, a does mo’i eisiau, ac nid yw’n ateb chwaith i’r anhrefn yng ngharchardai Lloegr.

“Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi agor y carchar mwyaf yn Ewrop yn y gogledd – HMP Berwyn. Unwaith iddo fod yn rhedeg yn llawn, gall ddal dros 2,100 o garcharorion gwryw. Bydd hyn yn golygu 800 yn fwy o lefydd nac o garcharorion yn stad carchardai Cymru.

“O ychwanegu’r 1,600 o lefydd ym Mhort Talbot i’r llefydd ychwanegol a grëwyd gan Berwyn, bydd gan Gymru 2,400 yn fwy o lefydd nac sydd eu hangen. Hyd yn oed petai carchar Caerdydd yn cau, byddai gennym 1,600 yn ormod o lefydd. Does ar Gymru ddim angen mwy o lefydd mewn carchardai. Petai Cymru yn llywodraethu ei hun yn yr un modd ag y mae’r Alban yn ei llywodraethu ei hun, gyda rheolaeth dros ei system gyfiawnder troseddol ei hun, ni fuasem yn codi’r carchar hwn.

“Mae’r penderfyniad i osod y carchar hwn ar Gymru yn seiliedig ar ddatrys yr argyfwng yn Lloegr, nid ar wasanaethu buddiannau Cymru. Ond ar bobl Cymru y syrth baich y penderfyniad hwn. Bydd cost gofal iechyd a phlismona yn ogystal â’r baich ychwanegol ar gymuned Baglan pan fydd teuluoedd carcharorion yn symud i’r ardal ac yn aros yn y gymuned wedi eu rhyddhau, yn disgyn ar ysgwyddau trethdalwyr Cymru.

“Y brif ddadl a ddefnyddir gan Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Lafur Cymru fydd swyddi, ond petaent yn cau carchardai Caerdydd neu Abertawe, byddai colli’r swyddi hyn yn gwrthbwyso’r swyddi newydd.

“Bu Port Talbot trwy amser caled yn ddiweddar, ond yn bendant, nid yr ateb yw troi pwerdy diwydiannol Cymru yn drefedigaeth benydiol ar raddfa ddiwydiannol i gau tyllau yn system garchardai fethiannus Lloegr.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.