Galw am i’r iaith Gymraeg gael ei gwarchod dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb

Liz-Saville-Roberts-MP-Blaenau-Ffestiniog-.jpg

Dylai rhagfarn a chasineb a anelir at yr iaith Gymraeg fod yn anghyfreithlon dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, bydd AS Plaid Cymru yn ddweud heddiw.

Bydd Liz Saville Roberts AS yn dweud y dylid cynnwys iaith fel nodwedd warchodedig mewn deddfwriaeth cydraddoldeb, ynghyd â hil, crefydd a chyfeiriadaeth rywiol.

Bydd AS Dwyfor Meirionnydd yn gwneud yr alwad mewn dadl a sicrhawyd ganddi yn Neuadd Westminster ar amddiffyn siaradwyr Cymraeg rhag eu difenwi. Mae’r ddadl yn dilyn erthygl ddadleuol gan golofnydd y Sunday Times, Rod Liddle, yr wythnos ddiwethaf lle gwawdiwyd yr iaith, ynghyd â thlodi Cymru.

Bydd Ms Saville Roberts yn dweud nad yw sylwadau Mr Liddle yn ddim ond yr “enghraifft ddiweddaraf mewn traddodiad maith o ddifrïo, bychanu a gwawdio’r iaith Gymraeg, ac yn sgîl hynny, siaradwyr Cymraeg.”

Gwrthodwyd nifer o gwynion a gyflwynwyd i Gorff Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) ar y sail nad yw Cod y Golygyddion yn gymwys i grwpiau o bobl. Mae’r NUJ wedi ymgyrchu ers amser am i reoleiddiwr y wasg dderbyn cwynion ar sail y modd y cynrychiolir grwpiau penodol yn y cyfryngau, yn hytrach na dim ond cyfyngu ei gylch gorchwyl i sylwadau’n ymwneud ag unigolion penodol.

Rhestrir naw o nodweddion gwarchodedig ar hyn o bryd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y bwriada Ms Saville Roberts ychwanegu iaith atynt:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadaeth rywiol

Wrth wneud sylw cyn y ddadl, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Yr ydym yn byw, gwaetha’r modd, mewn cyfnod pan fo rhagfarn gul yn dod yn gynyddol dderbyniol. Mae casineb geiriol yn agor y ffordd at droseddau casineb.

“Nid oedd yr erthygl yn y Sunday Times yr wythnos ddiwethaf yn ddim ond yr enghraifft ddiweddaraf mewn traddodiad maith o ddifrïo, bychanu a gwawdio’r iaith Gymraeg, ac yn sgîl hynny, siaradwyr Cymraeg.”

“Nid dim ond erfyn cyfathrebu yw iaith. I lawer, y Gymraeg yw eu mamiaith. Hi yw iaith y cartref, iaith y gymuned ac iaith y gweithle. Pam y dylid gorfodi’r bobl hyn i gyfiawnhau’r iaith y maent yn meddwl ynddi, iaith eu gwaith, ac iaith eu holl fywydau? Mae mor naturiol a normal iddynt hwy â’r iaith Saesneg i siaradwyr Saesneg iaith-gyntaf.

“Ond mae’r llif cyson o wawd, gwatwar a dirmyg y sefydliad y mae’r iaith yn ddioddef dro ar ôl tro yn cael effaith ddofn. Rhieni yn dewis peidio â throsglwyddo eu hiaith gyntaf eu hunain i’w plant; siaradwyr Cymraeg yn gyndyn i ddefnyddio’r iaith y tu hwnt i grŵp cymdeithasol cyfyng iawn; y norm cymdeithasol o droi i’r Saesneg; plant sydd heb fod yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol; oedolion sy’n amharod i gyrchu gwasanaethau yn Gymraeg. Mewnoli’r stereoteip negyddol.

“Mae ymosod ar yr iaith Gymraeg a thrwy hynny siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd yn drosedd casineb, ond nid yw’r gyfraith yn adlewyrchu hyn. Mae cwynion yn cael eu hanwybyddu ar y sail nad yw iaith yn nodwedd warchodedig ac yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth San Steffan yn ystyried newid hynny er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd yn rhaid i siaradwyr Cymraeg ddioddef gwawd a gwatwar cyson gan Rod Liddle a’i debyg.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.