Rhaid i Gyllideb y Canghellor gadw at addewidion datganoli

Jonathan_Treasury_2.jpg

Mae’r Canghellor dan bwysau i gadw at addewidion i drosglwyddo pecyn o gyfrifoldebau o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ddatganiad ar y Gyllideb yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw ar y Canghellor Prydeinig i amlinellu yn ei ddatganiad ar y Gyllideb pa gyfrifoldebau a gaiff Cymru wedi Brexit.

Dywedodd Llywodraeth Prydain cyn hyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gweld “cynnydd sylweddol" yn eu pwerau i wneud penderfyniadau o ganlyniad i Brexit, ond maent wedi gwrthod amlinellu beth fydd y pwerau newydd.

Galwodd Mr Edwards am i becyn o bwerau gael ei drosglwyddo er mwyn sicrhau y bydd gan Gymru yr arian, y pwerau a’r cyfrifoldebau angenrheidiol i lwyddo.

Mae Plaid Cymru yn galw am y canlynol:

  • Pecyn o bwerau ariannol i’w trosglwyddo i Gymru fel y gall Cymru roi hwb i weithgaredd economaidd ac i gadw peth o’r refeniw trethi a godir yng Nghymru;
  • Cyfrifoldebau dros fasnach ryngwladol er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gytundeb fasnach newydd wedi Brexit yn gweithio i Gymru yn ogystal â Lloegr; a
  • Gwarant y cynhelir lefelau presennol cefnogaeth ariannol yr UE y tu hwnt i 2022, fel yr addawyd yn ymgyrch refferendwm Brexit.

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Gwnaeth Llywodraeth Prydain gyfres o addewidion i bobl Cymru mewn ymgais i ennill ein cefnogaeth i’w rhith Brexit trychineb us. Rhaid cadw at yr addewidion hyn yn awr.

“Rhaid i bob ceiniog goch mae Cymru yn dderbyn diolch i bolisïau ail-ddosbarthu cyfoeth yr UE gael eu gwarantu y tu hwnt i derfyn y senedd hon fel y gallwn barhau i gynnal ein sector amaethyddol hanfodol ac fel y gall ein Llywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd wrthweithio’r tanfuddsoddi cronig yn ein seilwaith economaidd o San Steffan.

“Rhaid i gymryd rheolaeth yn ôl beidio â golygu gorfodi pobl Cymru i ildio rheolaeth i San Steffan dim ond i San Steffan anwybyddu buddiannau Cymru mewn cytundebau masnach sy’n gwthio nwyddau Cymreig allan. Mae Cymru yn aelod o’r Deyrnas Gyfunol yn yr un modd ag y mae Lloegr, a dylem gael llais cyfartal ar gytundebau masnach yn y dyfodol, i wneud yn siŵr eu bod yn ehangu, nid yn crebachu, ein cyfleoedd economaidd.

“Yn anad dim, rhaid i Lywodraeth Prydain adael i Gymru gymryd rheolaeth dros ei heconomi ei hun. Mae gadael ein dyfodol yn nwylo gwlad arall wedi gadael pobl Cymru i lawr yn llwyr, sydd ar hyn o bryd yn cael eu talu 35% yn llai na phobl Llundain, yn teithio ar seilwaith trafnidiaeth echrydus ac yn methu â chael mynediad at y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hynny sydd ar gael mewn mannau eraill.

“Nid achos o gael San Steffan i gymryd sylw o Gymru yw hyn  – mae’r llong honno wedi hen adael y porthladd. Mater yw hyn o gael San Steffan adael i ni wneud pethau ein hunain. Os ydynt mor gyndyn i fuddsoddi yn ein cenedl, yna rhaid i ni wneud hynny ein hunain.

“Rhaid caniatáu i ni gadw peth o’r refeniw trethi a godir yng Nghymru fel y gallwn ei wario ar ein seilwaith ein hunain, yn hytrach na’i anfon i San Steffan iddynt hwy ei wario yn Llundain.

“Oes unrhyw syndod fod rheilffyrdd Cymru yn y fath gyflwr a hwythau yn cael eu rhedeg o wlad arall? Mae arian trethdalwyr Cymru yn cael ei ddefnyddio i dalu am HS2 a Crossrail 2, ond chawn ni  mo’i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd ein hunain.

“Mae’n bryd i bobl Cymru gymryd rheolaeth dros ein dyfodol ein hunain. Fydd bod yn ddibynnol ar San Steffan fyth yn arwain at lwyddiant na ffyniant.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.