Plaid Cymru yn ysgrifennu at y Canghellor yn mynnu y cedwir addewidion Brexit am gyllido

budget.jpg

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Ganghellor y DG yn mynnu bod addewidion Brexit yn cael eu cyflawni ân y gyllideb ar ddydd Mercher.

Mae llefarydd y blaid ar y Trysorlys yn San Steffan, Jonathan Edwards AS, a’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Gyllid yn y Cynulliad Cenedlaethol, Steffan Lewis AC, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at y Canghellor yn rhestr pump o alwadau cysylltiedig â Brexit ar gyfer y Gyllideb.

Mae’r blaid yn annog Llywodraeth Prydain i anrhydeddu addewidion a wnaed yn ystod y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd y bydd Cymru yn parhau i dderbyn yr un lefelau o gyllid wedi Brexit, gan gynnwys taliadau amaethyddol, cronfeydd strwythurol a chyllid ymchwil a datblygu, yn ogystal â hwb sylweddol i gyllid y GIG.

Mae Mr Edwards a Mr Lewis hefyd yn galw am i’r Canghellor rwymo Llywodraeth Prydain i gymryd agwedd “pedair-cenedl” at fargeinion masnach wedi Brexit, gan sicrhau fod gan bedair cenedl y DG lais cyfartal ar gytundebau masnach, gan amddiffyn buddiannau pob un o’r gwledydd.

Mewn ymosodiad anuniongyrchol ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyfeiria llefaryddion Plaid Cymru yn eu llythyr at “absenoldeb unrhyw bresenoldeb na llais effeithiol yng Nghabinet y DG dros fuddiannau Cymru.” Mae llefaryddion Plaid Cymru yn ymbil ar y Canghellor i sylweddoli bod llywodraethu’r DG yn golygu cyflawni ar gyfer y pedair cenedl, nid dim ond Lloegr yn unig.

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar y trysorlys, Jonathan Edwards AS:

“Gwnaeth Llywodraeth Prydain gyfres o addewidion i bobl Cymru mewn ymgais i ennill ein cefnogaeth i’w rhith Brexit trychinebus. Rhaid cadw’r addewidion hyn yn awr.

“Rhaid gwarantu pob ceiniog mae Cymru’n dderbyn diolch i bolisïau’r UE o ailddosbarthu cyfoeth y tu hwnt i ddiwedd y senedd hon fel y gallwn barhau i gefnogi ein sector amaethyddol hanfodol ac fel y gall ein Llywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd wrthweithio’r tanfuddsoddi cronig yn ein seilwaith economaidd gan San Steffan.

“Ni ddylai cymryd rheolaeth yn ôl olygu gorfodi pobl Cymru i ildio rheolaeth i San Steffan dim ond i San Steffan ildio buddiannau Cymru mewn cytundebau masnach sy’n gwthio nwyddau Cymreig allan. Mae Cymru yn aelod o’r Deyrnas Gyfunol yn yr un m odd yn union ag y mae Lloegr, a dylem gael llais cyfartal ar gytundebau masnach y dyfodol, i wneud yn siŵr eu bod yn ehangu ein cyfleodd economaidd, nid yn eu crebachu.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid, Steffan Lewis AC:

“Mae Cymru wedi dod i arfer â disgwyl tanfuddsoddi yn ein gwasanaethau a’n cymunedau o du San Steffan. Gwnaed addewidion pendant i Gymru yn ystod refferendwm yr UE a rhaid i’r Canghellor gadw at yr addewidion hyn.

“Dylai ymrwymo i amddiffyn lefelau presennol o daliadau amaethyddol a chyllido strwythurol; a rhoi i Gymru ei chyfran deg o ran poblogaeth o gyllid Ymchwil a Datblygu. Rhaid i ni hefyd gael yr hwb i gyllid y GIG a addawyd mor hael.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.