San Steffan yn torri addewid ar gyllid yr UE funding wrth i welliant Plaid Cymru gael ei drechu

joni.jpg

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo gwleidyddion San Steffan o dorri eu haddewid wrth i welliant i sicrhau parhad lefelau o gyllid yr UE i Gymru wedi i’r DG adael yr Undeb Ewropeaidd gael ei drechu yn Nhŷ’r Cyffredin.

Nod y gwelliant, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ac a gefnogwyd gan yr SNP, Llafur, yr SDLP a’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd sicrhau y bydd lefelau presennol o gyllid yr UE yn parhau wedi i’r DG adael yr Undeb Ewropeaidd, fel yr addawyd mewn llythyr a lofnodwyd gan 13 o ymgyrchwyr amlwg dros Bleidleisio i Adael yn ystod ymgyrch y refferendwm.

Mae Cymru yn derbyn £245 miliwn yn fwy y flwyddyn nac y mae’n gyfrannu i’r UE, sy’n cyfateb i £79 yr unigolyn, bob blwyddyn.

Fe wnaeth ffigyrau blaenllaw oedd yn ymgyrchu dros Brexit, gan gynnwys Boris Johnson, Michael Gove, a Chris Grayling oll lofnodi llythyr yn dweud “fod mwy na digon o arian i sicrhau y bydd y rhai sydd yn awr yn cael cyllid gan yr UE – gan gynnwys prifysgolion, gwyddonwyr, ffermwyr teuluol, cronfeydd rhanbarthol, mudiadau diwylliannol ac eraill – yn parhau i’w gael a sicrhau yr un pryd ein bod yn arbed arian y gellir ei wario ar ein blaenoriaethau.”

Beirniadodd llefarydd y blaid ar Brexit, Jonathan Edwards, y Torïaid hefyd am geisio “tawelu Cymru” yn y ddadl ar effaith Brexit ar y Seneddau datganoledig. Mr Edwards oedd yr unig AS o Gymru i gael ei alw i siarad mewn dadl deirawr ar faterion datganoledig.

Er iddo gael cryn sylw ar gyfryngau cymdeithasol, trechwyd y gwelliant o 267 i 330.

Wrth siarad wedi’r bleidlais, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards:

“Addawodd yr ymgyrch Pleidleisio i Adael na fyddai Cymru yn colli ceiniog petaem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a heno cadarnhaodd San Steffan mai twyll maleisus oedd hyn a fwriadwyd i argyhoeddi pobl i bleidleisio dros Brexit a hwythau’n gwybod o’r gorau mai’r canlyniad fyddai i bobl Cymru ddod yn dlotach.

“Fe wnaethom ein gwelliant mor dderbyniol ag oedd modd i bleidiau San Steffan - gan alw nid yn unig am warant syth, fel y buasai gennym hawl i wneud, ond galw yn unig am adroddiad yn amlinellu’r effaith fydd Brexit yn gael ar gyllid cyhoeddus Cymru. Mae’r ffaith fod San Steffan yn gwrthod hyd yn oed ag ymrwymo i gynhyrchu adroddiad yn dangos mor benderfynol y maent i osgoi datgelu’r gwir.

“Mae Cymru yn derbyn £245 miliwn yn fwy nac y mae’n gyfrannu at yr UE bob blwyddyn. Bydd colli hyn yn taro pobl yn eu pocedi, a’r bobl hynny sydd leiaf abl i’w golli fydd yn dwyn pen trymaf y baich.

“Yr oedd y llythyr a gyhoeddwyd gan ymgyrch y Bleidlais Adael, oedd yn addo y bydd Cymru yn parhau i gael pob ceiniog a gaiff yn awr, yn cynnwys enwau ASau Torïaidd blaenllaw a bleidleisiodd heno yn bendant yn erbyn eu haddewidion eu hunain.

“Mae’n warthus fod y gwleidyddion hyn yn gallu twyllo fel hyn, a does dim rhyfedd fod gan y cyhoedd cyn lleied o ffydd yn San Steffan pan fo twyll o’r fath yn cael ei dderbyn heb ganlyniadau. Mae’n gywilydd hefyd i San Steffan, mewn dadl deirawr ar faterion datganoledig, mai un AS yn unig o Gymru a alwyd tra caniatawyd i ASau o Loegr siarad am hydoedd mewn ymgyrch gytûn i dawelu Cymru a siarad nes i amser y ddadl ddod i ben.

“Rwy’n falch o fod wedi arwain y ddadl hon heno dros Gymru ac yr wyf yn falch o’m cydweithwyr ym Mhlaid Cymru a safodd yn erbyn San Steffan ac a ymladdodd dros Gymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y bydd San Steffan yn parhau i weithredu yn erbyn ein buddiannau ac er afles i’n pobl.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.