Rhaid i ‘gynllun’ Brexit amlinellu safbwynt y DG ar y farchnad sengl - Jonathan Edwards

Jonathan_Edwards1bsmall.jpg

Mae Plaid Cymru wedi gosod allan eu galwadau am ‘gynllun’ Brexit arfaethedig Llywodraeth y DG, gan fynnu eu bod yn datgan yn glir y llwybr tebygol ar bolisi masnachu.

Mae’r blaid wedi ail-ddatgan ei safbwynt, gan gefnogi parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac wedi galw ar Lywodraeth y DG i ddatgan yn glir ei safbwynt ar y ‘cynllun’ sydd i’w gyhoeddi cyn i’r Senedd bleidleisio ar danio Erthygl 50.

Dywedodd llefarydd y blaid ar Brexit, Jonathan Edwards AS, tra bod gan Lywodraeth y DG fandad i adael yr Undeb Ewropeaidd, nad oes ganddynt fandad i bennu’r berthynas yn y dyfodol heb ymgynghori â’r Senedd. Anogodd y Prif Weinidog i osod allan ei bwriadau ynghylch a fydd yn mynd am aelodaeth o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, bargen unswydd, neu ddychwelyd at reolau cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yng Nghymru ym mis Rhagfyr fod mwyafrif llethol yng Nghymru o blaid parhau yn aelod o’r farchnad sengl yn hytrach na rheoli mewnfudo.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Jonathan Edwards AS:

“Er i Gymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, wnaeth neb bleidleisio i dorri eu cyflogau eu hunain nac i golli eu swyddi.

“Mae 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnachu gyda’r farchnad sengl, a’n dyletswydd ni fel gwleidyddion yw cynrychioli buddiannau’r bobl a’n rhoes yn y Senedd ac alla’i ddim pleidleisio dros rywbeth nad wyf wedi’i weld.

“Mae’n hollbwysig i gynllun Llywodraeth y DG ar gyfer Brexit amlinellu fel eu hamcan cyntaf lwybr eu polisi masnachu tebygol wedi Brexit. Aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau? Bargen unswydd? Neu ddychwelyd at reolau cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd? Rhaid i’r cynllun wneud hyn yn glir i ni fel gwleidyddion a’r cyhoedd yn gyffredinol beth yw bwriad Llywodraeth y DG cyn gofyn i ni bleidleisio arno.

“Mae Plaid Cymru wedi gwneud yn glir o’r cychwyn na fyddwn yn pleidleisio dros unrhyw beth nad yw er lles pobl Cymru. Yr ydym yn parchu’r ffaith fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ond does neb wedi pleidleisio i bennu beth fydd ein perthynas yn y dyfodol – a ydym am dorri ein holl gysylltiadau economaidd ag Ewrop yn ogystal â’r cysylltiadau gwleidyddol, er enghraifft.

“Mae’n amlwg i mi ac i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, fel gwlad sy’n allforio ac sy’n dibynnu’n drwm ar werthu ei nwyddau i’r farchnad sengl ac i wledydd y mae gan yr undeb tollau gytundebau masnach dwyochrog â hwy, fod cynnal cysylltiadau economaidd yn hanfodol. Nid yw’n afresymol i mi ofyn ar ran fy etholwyr a’m cydwladwyr, i Lywodraeth y DG ddweud wrthyf a ydynt yn bwriadu cadw’r cysylltiadau hynny ynteu eu dinistrio yn ddifeddwl.

“Yr oedd Plaid Cymru o blaid pleidleisio i Aros yn y refferendwm, ond yng ngoleuni penderfyniad pobl Cymru i adael, yr ydym yn awr o blaid parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.