Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn y Mesur Brexit diweddaraf

conference.jpg

Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn Mesur Brexit diweddaraf Llywodraeth San Steffan, sydd yn gwthio’r DG tuag at adael yr Undeb Tollau yn ogystal â’r Undeb Ewropeaidd

Y Mesur Trethiant (Masnach Drawsffiniol) yw’r diweddaraf mewn cyfres o Fesurau gan Lywodraeth San Steffan a fwriadwyd i gadarnhau eu safbwynt o adael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, yn ogystal â gweithredu canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd AS Plaid Cymru ac Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop, Jonathan Edwards, yn dweud heddiw mai’r Undeb Tollau yw’r “rhwydwaith mwyaf o genhedloedd masnachu rhydd a welsom yn y cyfnod modern.” Mae’r Undeb Tollau yn caniatáu i gwmnïau sy’n seiliedig yn unrhyw un o wledydd y DG i symud nwyddau yn rhydd i unrhyw rai o’r 27 aelod arall yn Ewrop a’r 67 gwlad ychwanegol y mae gan yr Undeb Tollau gytundebau masnach â hwy.

Bydd Mr Edwards yn beirniadu’r Blaid Lafur am “chwarae hokey cokey” ar aelodaeth o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, gan ddweud bod “amwysedd adeiladol” safbwynt y Blaid Lafur yn rhoi i Lywodraeth San Steffan “hambwrdd arian i’r Torïaid allu cyflwyno Brexit niweidiol a dinistriol.”

Bydd yn rhybuddio y bydd gadael yr Undeb Tollau yn peryglu dyfodol Porthladd Caergybi fel yr ail borthladd prysuraf yn y DG, gan ddweud y byddai ffin ym Môr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon yn “anrheithio trefi porthladd Cymru sydd eisoes yn dlawd” ac yn arwain yn y pen draw at orfodi nwyddau i osgoi Caergybi a Chymru. Bydd yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o ystyried bywoliaeth pobl Caergybi fel rhywbeth i’w “hepgor.”

Bydd hefyd yn amlygu’r pryderon a godwyd gan bron i ddwsin o gynrychiolwyr y diwydiant a’r undebau dur fod San Steffan yn creu “agwedd ysgafnach ei chyffyrddiad at ddympio anghyfreithlon gan China ac eraill [yn y DG] nac yng ngweddill yr UE ac unrhyw economi arall o bwys.”

Bydd AS Plaid Cymru ac Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop, Jonathan Edwards yn dweud yn ei araith yn nes ymlaen yn Nhŷ’r Cyffredin:

“Trwy symud ymaith rwystrau corfforol ac ariannol i fasnach, mae’r Undeb Tollau wedi creu’r rhwydwaith mwyaf o genhedloedd masnachu rhydd a welsom yn y cyfnod modern. Nid y 27 aelod o’r UE yw’r unig rai y byddwn yn colli ein cytundebau masnach rydd presennol â hwy os rhown y gorau i’r Undeb Tollau – byddwn hefyd yn colli ein cytundebau masnach rydd gyda’r 67 gwlad ychwanegol y mae gan yr Undeb Tollau gytundeb â hwy.

“Os mai sicrwydd yw nod Llywodraeth San Steffan a bod y status quo yn sicrwydd, pam fod hapchwarae gyda dros hanner ein hallforion ac allforion yn syniad da? Pam fod San Steffan yn gamblo ymaith swyddi a chyflogau dinasyddion? Pam fod San Steffan yn ein tynnu allan o’r Undeb Tollau o gwbl?

“Mae amwysedd adeiladol safbwynt y Blaid Lafur ar Brexit yn rhoi hambwrdd arian i’r Toriaid allu cyflwyno’r Brexit niweidiol a dinistriol hwn. Yn hytrach na chwarae hokey cokey pan ddaw’n fater o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, dylai ASau Llafur uno â Phlaid Cymru a datgan yn glir ein bod yn well ein byd yn y sefydliadau Ewropeaidd economaidd hyn.

“Cafwyd darlun clir o’r llanast amlwg gaiff ei greu trwy ein tynnu allan o’r Undeb Tollau yn union cyn y Nadolig pan fu’r trafodaethau bron â chael eu chwalu ar fater ffiniau tollau ar ynys Iwerddon. Byddai canlyniadau difrifol hefyd i greu ffin tollau ym Môr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon , ac felly rhwng Cymru a’r UE.

“Yng Nghaergybi does dim lle yn y porthladd nac yn y cyffiniau i’r math o seilwaith fydd ei angen i brosesu nifer y lorïau a’r ôl-gerbydau sy’n pasio drwodd ar hyn o bryd. All ffin galed yng Nghaergybi wneud dim ond arwain at anhrefn.

“Canlyniad anorfod cyfyngiadau ffisegol yn y porthladd ac o gwmpas yw y bydd angen i nwyddau ddod o hyd i ffyrdd o osgoi Caergybi, Cymru ac o bosib y DG yn gyfan gwbl. Gyda’r bwriad o’n tynnu allan o’r Undeb Tollau, mae San Steffan yn ei gwneud yn amlwg i bobl Caergybi eu bod yn ystyried y gall eu bywoliaethau gael eu hepgor.

“Bydd y diwydiant dur hefyd mewn perygl os caiff San Steffan eu ffordd. Mae gan San Steffan hanes o fradychu sector dur Cymru. Fe wnaethant atal ymdrechion i gryfhau amddiffynfeydd masnach yr UE yn erbyn mewnforion dur rhad o China a anrhaethodd weithfeydd dur Port Talbot a’u dwyn yn agos at ddinistr. Nawr mae cynrychiolwyr y diwydiant a’r undebau yn dweud wrthym eu bod yn ceisio cymryd agwedd gyda chyffyrddiad ysgafnach i ddympio anghyfreithlon gan China a gwledydd eraill yn y DG na gweddill yr UE ac unrhyw economi mawr arall.

“Bydd y Mesur hwn yn hollol ddiangen ac ni fyddai ei ddiffygion o bwys petai San Steffan wedi dilyn y llwybr call o barhau yn aelod o’r Undeb Tollau. Bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Mesur hwn heno ac yn amddiffyn buddiannau Cymru a’n hetholwyr.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.