Plaid Cymru yn ymuno â grwp trawsbleidiol ar Brexit i gadw’r Deyrnas Gyfunol yn y Farchnad Sengl

brexit_summit.jpg

Mae Plaid Cymru wedi ymuno â’r SNP, y Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol i alw ar i’r DG aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau wedi gadael yr UE.

Cyfarfu arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, gydag arweinwyr y gwrthbleidiau eraill heddiw mewn cyfarfod trawsbleidiol yn Senedd y DG, a alwyd i gydgordio ymdrechion i amddiffyn lle’r DG yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau wedi iddi adael yr UE.

Rhyddhaodd Ms Saville Roberts ddatganiad ar y cyd gydag arweinwyr yr SNP, y Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan addo i weithio gyda’i gilydd i atal bygythiad digynsail gadael y Farchnad Sengl, i ddiogelu swyddi, incwm a safonau byw rhag y difrod y byddai’n achosi.

Gadwyd cadair wag i’r arweinydd Llafur yn y cyfarfod wedi iddynt wrthod ymuno â’r trafodaethau trawsbleidiol ar y mater pwysicaf sy’n wynebu’r DG, er i 87% o aelodau Llafur gefnogi aelodaeth o’r farchnad sengl.

Mae’r datganiad yn arwydd o fwriad i alw ar y Seneddau a’r Cynulliadau datganoledig i weithio gyda’r grŵp, ac y mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS wedi galw ar Brif Weinidog Cymru - Carwyn Jones o Lafur, i weithio gyda’r grŵp trawsbleidiol yn absenoldeb ei arweinydd.

brexit_summit_llafur.jpg

Addawodd y pleidiau weithredu fel gwrthblaid unedig ac effeithiol i Brexit caled yn y misoedd i ddod - gyda dim ond deng mis cyn i gytundeb ddigwydd rhwng y DG a’r UE. Gyda dyfalu ynghylch senario ‘dim cytundeb’ niweidiol, anogodd y pleidiau Theresa May i fynd â’r dewis hwn “yn bendant oddi ar y bwrdd”.

Datganiad ar y cyd gan Liz Saville Roberts AS, Ian Blackford AS, Caroline Lucas AS a Vince Cable AS:

"Mae cynlluniau’r Torïaid am Brexit eithafol yn fygythiad digynsail i’n heconomi fyddai’n dinistrio cannoedd o filoedd o swyddi, ac yn difrodi incwm, bywoliaeth a safonau byw miliynau o bobl ledled y DG.

"Mae amser yn mynd yn brin i osgoi’r trychineb economaidd hwn. Deng mis yn unig sydd cyn i gytundeb ddigwydd rhwng y DG a’r UE. Deng mis i atal y cynlluniau i’n llusgo allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau ac i osgoi’r niwed parhaol fyddai hyn yn achosi.

"Mae dadansoddiadau gan Fanc Loegr, Sefydliad Fraser of Allander, Ysgol Economeg Llundain a llawer eraill, wedi datgelu pa mor niweidiol fyddai Brexit caled neu senario ‘dim cytundeb’ i’r Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

"Bydd gadael y farchnad sengl yn costio swyddi. Mae dros dair miliwn o swyddi yn y DG wedi eu cysylltu â masnach gyda’r UE - un ym mhob deg o swyddi. Does mo’r fath beth â Brexit “swyddi’n gyntaf” fydd yn cynnwys terfynu ein haelodaeth o’r farchnad sengl - nid yw’r deilliannau hyn yn gydnaws.

"Mae amddiffyn swyddi, incwm, hawliau gweithwyr a’r amgylchedd yn ganolog i’n hymdrechion i gadw’r DG yn y farchnad sengl. Yr ydym yn croesawu’n gynnes safbwynt Cyngres yr Undebau Llafur sydd yn adleisio’r teimladau hyn a gobeithiwn weithio gyda hwy dros y misoedd i ddod.

"Mae diffyg paratoi’r DG yn nodweddiadol o’r llanast wrth galon proses Brexit. Mae’n warthus, dros 18 mis wedi i’r DG bleidleisio i adael yr UE, nad yw’r llywodraeth eto wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r effaith economaidd.

"Teuluoedd, gweithwyr, busnesau a ffermwyr fydd yn y pen draw yn talu’r pris gyda marchnad ryngwladol fydd wedi crebachu’n enbyd, cyflogau is, prisiau uwch am fwyd a thanwydd, a safon byw is.

"Gydag amser yn mynd, mae’n bwysicach nac erioed fod gennym wrthblaid unedig ac effeithiol i ddal llywodraeth y DG i gyfrif, a gweithio ynghyd er mwyn y genedl i atal eithafion mwyaf niweidiol Brexit caled neu sefyllfa lle nad oes cytundeb.

"Yr ydym wedi ymrwymo ar y cyd i fod yn wrthblaid felly. A galwn ar Lafur i ymuno a ni - byddai methu gwneud hynny yn troi cefn ar gyfrifoldeb, a byddai’n golygu bod Llafur yr un mor euog am y difrod niweidiol y gwnâi Brexit caled i swyddi a ffyniant y DG.

"Heddiw, rydym yn galw ar y Prif weinidog i gau’r drws ar unrhyw senario ‘dim cytundeb’. Rhaid troi cefn yn bendant ar y posibilrwydd hwnnw.

"Byddwn yn gweithio ynghyd yn Nhŷ’r Cyffredin gydag Aelodau o bob plaid wleidyddol i warchod economi’r DG ac atal unrhyw ymgais i lusgo’r Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon allan o’r farchnad sengl.

"Gan symud ymlaen gyda’n gilydd, byddwn yn ceisio cyfarfod gyda rhanddeiliaid allweddol, megis y TUC a grwpiau busnes, a’r gweinyddiaethau datganoledig gan gynnwys Cynulliad Llundain, i fynegi awydd trawsbleidiol y Senedd i osgoi’r difrod a achosir gan Brexit, ac annog pob ymdrech i osgoi canlyniad felly."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.