Brexit: Ateb eich Cwestiynau

Brexit-atebcwestiynau.png

1. Beth sy’n digwydd nawr?

Mae Cymru yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol (DG) wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno Erthygl 50 cyn mis Mawrth. Unwaith mae hi wedi gwneud hynny bydd y negodi rhwng yr UE a’r DG am dermau’r gwahanu yn dechrau.

2. Ydi Plaid Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm?

Mae Plaid Cymru yn derbyn fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE. Dyna pam y byddwn yn gweithio i sicrhau fod Cymru yn cael y fargen orau posib o ran gadael yr UE.

3. Yw Plaid Cymru eisiau cynnal ail refferendwm ar aelodaeth o’r UE?

Na. Mi fydd Plaid Cymru yn parhau i weithio tuag at ei hamcan tymor hir o Gymru annibynnol yn Ewrop, ond rydym yn derbyn fod pleidlais refferendwm yr UE yn cynrychioli safbwynt pobl Cymru ar hyn o bryd.

4. Sut mae’r bleidlais i adael yr UE yn effeithio ar Gymru?

Mae cynhyrchu ac allforion yn rhan fwy o economi Cymru o’i gymharu â gweddill y DG. Arwyddocâd hyn yw bod gan Gymru anghenion gwahanol o ran y math o ymadawiad â’r UE fyddai o fwyaf o fudd i ni.

5. Pwy ddylai negodi ein hymadawiad o’r UE?

Mae’n glir nad oes gan lywodraeth ddi-glem San Steffan, sydd yn cael ei arwain gan Brif Weinidog sydd heb gael ei hethol gan aelodau o’i phlaid ei hun hyd yn oed, fandad democrataidd er mwyn negodi ar ran pobl Cymru.

Mae Plaid Cymru yn galw am safbwynt negodi sydd yn cynnwys pedair cenedl y DG, gyda phob un senedd ddatganoledig yn chwarae rhan lawn, yn ogystal â San Steffan lle mae hynny yn addas. Byddai hynny yn sicrhau fod anghenion unigryw pob gwlad ddatganoledig, yn ogystal â Lloegr, yn cael eu cynrychioli’n deg.

6. Pa fath o ymadawiad fyddai orau i Gymru felly?

Safbwynt Plaid Cymru yw bod angen i Gymru barhau o fewn y Farchnad Sengl er mwyn gwarchod ein buddiannau economaidd.

Mae tua 200,000 o swyddi Cymreig yn gysylltiedig â’r Farchnad Sengl, ac amddiffyn y rhain yw ein prif flaenoriaeth. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Farchnad Sengl.

Mae allforion yn fater pwysig arall. Mae Cymru yn wlad sy’n allforio mwy na mae hi’n mewnforio. Byddai gorfod talu tariffs drud er mwyn cael masnachu gyda gwledydd eraill o fewn y Farchnad Sengl yn ergyd drom i fusnesau Cymreig sydd yn ddibynnol ar y fasnach honno.

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Mae Plaid Cymru yn feirniadol o’r ymagwedd ‘Brexit Caled’ mae’r llywodraeth glymblaid Llafur-Democratiaid Rhyddfrydol yn ei ffafrio. Byddai hyn yn golygu gadael y Farchnad Sengl a llawer o gytundebau pwysig eraill sydd yn cefnogi swyddi, gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru gyfan.

8. Sut gallwn ni aros o fewn y Farchnad Sengl os ydym yn gadael yr UE?

Dyw’r Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl ddim yr un pethau.

Nid yw’r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi gofyn i bobl os ydyn eisiau aros yn y Farchnad Sengl ai peidio. Roedd aros o fewn y farchnad hyd yn oed yn ymrwymiad yn eu maniffesto ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Nid oes mandad gan Theresa May a’i chydweithwyr i beryglu swyddi Cymreig gan ein gorfodi allan o’r Farchnad Sengl.

Gallwn gadw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl drwy gyfrwng yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop.

Dim ond synnwyr cyffredin economaidd yw bod Cymru yn parhau i fod yn aelod o’r Farchnad Sengl.

9. Ond onid yw parhau yn aelod o’r Farchnad Sengl yn golygu derbyn rhyddid symudiad?

Yn wahanol i bob plaid arall yng Nghymru, dyw Plaid Cymru ddim yn erbyn mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae mewnfudwyr o’r UE yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a’n gwasanaethau cyhoeddus. Boed nhw’ ddoctoriaid a nyrsys yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd neu ddarlithwyr a gwyddonwyr yn ein prifysgolion, y ffaith yw bod mewnfudo o Ewrop yn gweithio i Gymru.

Byddai gadael y Farchnad Sengl er mwyn rhoi terfyn ar ryddid symudiad yn golygu rhoi ergyd ddiangen i’n heconomi a byddem hefyd yn peryglu deheuadau cenhedloedd o Gymry i fyw, teithio a gweithio ledled Ewrop.

10. Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer datganoli?

Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wastad wedi cefnogi datganoli – gan sicrhau fod penderfyniadau sydd yn effeithio ar bobl yn cael eu cymryd mor agos â phosib i’r bobl maen yn eu heffeithio. Byddwn yn gweithio er mwyn sicrhau fod llywodraeth y DG yn trosglwyddo unrhyw bwerau sydd yn perthyn i Gymru yn sgil ein hymadawiad o’r UE.

Eisiau dysgu mwy? Y Farchnad Sengl Briffing Brexit

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.