Plaid Cymru yn cwrdd â Gweinidogion Brexit yn Stryd Downing

Brexit_meeting_PC_landscape.jpg

Wrth gyfarfod gyda’r Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ddoe, mae dirprwyaeth Plaid Cymru wedi sicrhau llinell gyfathrebu uniongyrchol â Gweinidogion Brexit.

Cyfarfu Jonathan Edwards AS, Steffan Lewis AC a’r Arglwydd Dafydd Wigley ag Adran Brexit yn 9 Stryd Downing i drafod blaenoriaethau Cymru ym mhapur gwyn Plaid Cymru-Llywodraeth Cymru ar y cyd, a gyhoeddwyd gan Leanne Wood a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn ystod y cyfarfod, ail-adroddodd dirprwyaeth Plaid Cymru eu hymrwymiad i weld Cymru yn cadw aelodaeth o’r Farchnad Sengl, i Gymru beidio â cholli ceiniog o gyllid, ac i beidio â chymryd unrhyw gam datganoli yn ôl.

Rhoddwyd sicrwydd yn y cyfarfod fod pob sianel gyfathrebu yn agored i Blaid Cymru i’w defnyddio yn y dyfodol i sicrhau dyfodol Cymru yn ystod trafodaethau Brexit.

Wedi’r cyfarfod, meddai Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan:

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd yn rhoi Cymru ar agenda Brexit. Yr ydym yn falch fod adran Brexit wedi rhoi sicrwydd fod croeso i ni gwrdd â hwy ar unrhyw bwynt i hybu blaenoriaethau Cymru trwy gydol y broses. Mae’n hen bryd i Gymru gael mwy na geiriau teg pan ddaw’n fater o Brexit ac fe wnaf yn siŵr fod llais Cymru i’w glywed bob cam o’r ffordd.”

Meddai Steffan Lewis AC, llefarydd Plaid Cymru yn y Cynulliad ar Faterion Allanol:

“Rwy’n benderfynol o rai Cymru ar flaen meddyliau Gweinidogion Brexit pan fyddant yn llunio eu safbwynt trafod. Yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru, wnaf i ddim sefyll o’r neilltu a gadael i bapur gwyn Cymru gael ei anwybyddu.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, sydd ar hyn o bryd yn dal Llywodraeth y DG i gyfrif wrth i Fesur Erthygl 50 fynd trwy Dŷ’r Arglwyddi:

“Ni ddylai Llywodraeth y DG ddefnyddio canlyniad y refferendwm i wthio Brexit niweidiol trwy’r Senedd fel bod Cymru yn dioddef yn anghymesur. Rwy’n bendant yn f’ymrwymiad i weld Cymru yn cadw masnach rydd gyda Marchnad Sengl yr UE a byddaf yn defnyddio’r llinellau cyfathrebu sydd newydd eu ffurfio i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DG i wrando ar ein gofynion.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.