Brexit: Rhaid diogelu diwydiant Cymru

hywel_profile.jpg

Plaid Cymru yn galw ar fargen Nissan i fusnesau Cymru

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y DG i gynnig yr un warchodaeth i ddiwydiant ag a gynigiodd i’r diwydiant ceir yng Ngogledd Lloegr.

Holodd arweinydd Seneddol y Blaid, Hywel Williams, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod Cwestiynau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin a oedd wedi annog ei gydweithwyr yn y llywodraeth i amddiffyn diwydiant Cymru.

Ym mis Hydref, gorfodwyd Llywodraeth y DG i roi addewid ysgrifenedig munud-olaf i amddiffyn y gwneuthurwr ceir, Nissan, sydd â gweithfeydd yn Sunderland, rhag canlyniadau Brexit cyn i’r cwmni gytuno i barhau i fuddsoddi yn y DG.

Daw’r alwad gan Blaid Cymru yn dilyn sylwadau gan Brif Swyddog Gweithredol Airbus ddoe (Mawrth) y bydd Airbus, sydd yn cyflogi 6,000 o bobl ar eu safle yn Sir y Fflint, yn “mynd i gyfnod peryglus” oni allant barhau i symud pobl a chynhyrchion yn ddiwnïad o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd cadeirydd y gwneuthwyr ceir, Toyota, sydd yn cyflogi dros 500 o bobl ar Lannau Dyfrdwy, wrth y Financial Times yr wythnos ddiwethaf (Mercher 18 Ionawr) fod y cwmni’n ystyried “sut i oroesi” yn y DG y tu allan i’r Farchnad Sengl. Mae tri chwarter y ceir a wneir gan Toyota yn y DG yn cael eu hallforio i’r UE.

Yn ei sylw, dywedodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams:

“Bydd torri ein cysylltiadau economaidd ag Ewrop a’r amrywiol wledydd y mae’r Undeb Tollau yn caniatáu masnachu’n rhydd gyda hwy yn weithred hunan-niweidiol tu hwnt.

“Mae cyflogwyr mawr o bwys megis Airbus yn Sir y Fflint eisoes wedi amlinellu pwysigrwydd eu gallu i symud pobl a chynhyrchion rhwng eu gwahanol ffatrioedd ledled Ewrop, a rhybuddiodd Toyota hefyd eu bod yn ystyried sut y gallant oroesi, gyda thri chwarter y ceir maent yn gynhyrchu yn y DG yn cael eu hallforio i’r UE.

“Mae modd gweithredu canlyniad y refferendwm ym Mehefin yn llawn heb orfod achosi’r boen ychwanegol hwn. Yr oedd llawer o’r rhai fu’n ymgyrchu dros Brexit llynedd o blaid model Norwy o adael yr Undeb Ewropeaidd ond cadw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl. Byddai gwneud hynny yn golygu na fyddai’n rhaid i ni lwgrwobrwyo cwmnïau neu sectorau unigol i’w hatal rhag gadael.

“Os yw Llywodraeth y DG yn benderfynol o glosio at yr aden dde eithafol ar ymylon y Blaid Geidwadol a llusgo pedair cenedl y DG allan o’r blocs economaidd waeth beth fo barn y gwledydd hynny, yna dylent o leiaf fod yn cynnig yr un camau amddiffyn i ddiwydiant Cymru ag a gynigiwyd i rai sectorau yn Lloegr.

“Mae’n amlwg mai’r ffurf leiaf niweidiol o Brexit fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd a chadw ein lle ar yr un pryd yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau a byddwn yn cynnig gwelliannau i ddeddfwriaeth Erthygl 50 er mwyn gofalu y bydd hyn yn digwydd. Os bydd y Llywodraeth yn atal ein gwelliannau, fodd bynnag, bydd yn ddyletswydd ar y Prif Weinidog i gynnig sicrwydd i’r 200,000 o bobl yng Nghymru y mae eu swyddi yn dibynnu ar fasnachu gydag Ewrop trwy roi i gwmnïau Cymreig yr un mesurau gwarchod ag a gynigiwyd ganddi i rai sectorau yn Lloegr.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.