Gwelliant Plaid Cymru yn gorfodi consesiwn gan y Pwyllgor ar y Farchnad Sengl

conference.jpg

Mae adroddiad Pwyllgor Dethol Brexit wedi galw ar y Prif Weinidog i egluro safbwynt Llywodraeth y DG ar barhau yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau cyn tanio Erthygl 50, diolch i welliant gan AS Cymru ar y pwyllgor, Jonathan Edwards o Blaid Cymru.

Croesawodd AS Plaid Cymru gonsesiwn y Pwyllgor a llongyfarchodd y cadeirydd am gynhyrchu’r adroddiad ar waethaf y gwahaniaethau barn ar y pwyllgor. Fodd bynnag, beirniadodd Aelodau eraill ar y pwyllgor am atal gwelliannau pwysig eraill, gan gynnwys rhai yn galw am i’r cenhedloedd datganoledig gadarnhau telerau terfynol y trafodaethau.

Dywedodd Mr Edwards ei fod yn siomedig gydag ymddygiad ASau Llafur ar y Pwyllgor, gan eu cyhuddo o fethu â sefyll yn erbyn y Toriaid ac atal eu cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru rhag cael llais ar faterion o bwys cenedlaethol.

Heriodd y Prif Weinidog i barchu barn unfrydol y Pwyllgor a “bod yn onest” am barhau yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau cyn tanio Erthygl 50, gan dynnu sylw at y ffaith fod hyn yn oed y Brexitwyr ar y pwyllgor wedi cefnogi’r gwelliant.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar Brexit ac AC Cymru ar Bwyllgor Dethol Brexit, Jonathan Edwards:

“Rhaid llongyfarch y Cadeirydd am gynhyrchu’r adroddiad hwn ar waethaf y gwahaniaethau barn sylweddol ar y Pwyllgor, ac yr wyf yn falch fod y Pwyllgor wedi derbyn fy ngwelliant.

“Rhaid i Theresa May fod yn onest am barhau’n aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau, a rhaid iddi wneud hynny cyn tanio Erthygl 50. Rwy’n falch fod y pwyllgor wedi cefnogi fy ngalwad a phwysleisio fod hyd yn oed y Brexitwyr ar y Pwyllgor wedi cefnogi’r alwad hon.

“Er bod pobl wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ni wnaethon nhw bleidleisio ar ffurf ein perthynas fasnachu yn y dyfodol. Yn sicr ni wnaethant bleidleisio i golli eu swyddi eu hunain nac i dorri eu cyflogau. Mae’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn hanfodol i Gymru fel cenedl sy’n allforio. Mae 200,000 o swyddi Cymreig yn dibynnu ar ein masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ac fel rhywun sydd â’r swydd o gynrychioli fy etholwyr a’m cydwladwyr, does dim disgwyl i mi bleidleisio dros rywbeth heb wybod pa effaith a gaiff ar y sawl rwyf yma i’w cynrychioli. Rhaid i’r Prif Weinidog barchu gofynion y Pwyllgor a gwneud hyn yn glir cyn tanio Erthygl 50.

“Rwy’n siomedig fod pleidiau San Steffan wedi atal f’ymdrechion i sicrhau bod yr adroddiad yn cydnabod fod gwahanol wledydd y DG wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd ac i’r Seneddau datganoledig gael cadarnhau telerau terfynol y trafodaethau. Bydd gan bob un aelod-wladwriaeth o’r UE feto dros y trafodaethau hyn, ynghyd â llawer o ranbarthau is-wladwriaethol yn Ewrop hefyd. Yn y cyfamser, mae’n ymddangos fod ASau Llafur a Thoriaidd yn credu y dylai’r fargen gael ei phennu’n unochrog gan San Steffan – dim ond ychydig o bellter yr aiff y bartneriaeth gyfartal.

“Trwy atal fy ngwelliannau i roi llais i Gymru,mae ASau Llafur ar y Pwyllgor mewn gwirionedd wedi mygu llais eu cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Dylai hynny fod yn rhybudd i ni yng Nghymru. Mae San Steffan yn benderfynol o droi’r DG yn wladwriaeth unochrog, gyda’r holl orchmynion yn dod o San Steffan, waeth beth fo anghenion a buddiannau Cymru.

“Mae’n hollol amlwg bellach fod y Blaid Lafur yn amherthnasol. Wnan nhw byth sefyll dros Gymru yn erbyn y Toriaid ac oni fydd Cymru yn dechrau cryfhau byddwn yn cael ein gwthio fwy fyth i’r ymylon ym Mhrydain wedi Brexit dan lywodraeth Doriaidd aden-dde a gwrthblaid wan ac aneffeithiol.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.