Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r adroddiadau cyfrinachol ar Brexit, yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi'r asesiadau yn eu cyfanrwydd, er mwyn rhoi darlun cyflawn i'r cyhoedd.
Mae'r adroddiadau cyfrinachol wedi datgelu y bydd pob un gwlad yn y Deyrnas Gyfunol yn cael eu neweidio gan bob un math posib o Brexit.
Cafodd yr adroddiadau eu rhoi i BuzzFeed ac maent ar gael fan hyn.
Dylai'r adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi o'r cychwen, yn ol llefarydd y Blaid ar Brexit, Hywel Williams, ac maent yn dangos fod y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol yn anghywir i ddilyn trywydd Brexit caled.
Dywedodd Hywel Williams:
“Dylai’r asesiadau hyn fod wedi cael eu gwneud yn gyhoeddus o’r cychwyn. Maent yn dangos pam fod y pleidiau Llundeinig yn anghywir i ddilyn trywydd Brexit caled a pham fod amddiffyn ein cysylltiadau economaidd gydag Ewrop mor bwysig ar gyfer ein safonau byw.
“Mae angen i gefnogwyr Brexit dderbyn y ffeithiau – byddai torri pob un cyswllt gyda’n prif bartner economaidd yn niweidio ein gwlad ni ac mae rhaid i Lywodraeth San Steffan esbonio i’r cyhoedd pam eu bod nhw yn dewis aberthu safonau byw ein dinasyddion yn y fath fodd.”