Torrwch Dreth Gorfforaeth yng Nghymru i roi hwb i gyflogau - Plaid Cymru

 15722615061_9119515989_k.jpg

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid, Adam Price wedi dweud y gallai Cymru dorri Treth Gorfforaeth yng Nghymru wedi Brexit  i ddwyn busnesau i Gymru ac i roi hwb i gyflogau.

Wrth siarad ar Wales Report y BBC nos Fawrth (16 Mai), dywedodd AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod Brexit yn cynnig cyfleoedd i Gymru megis cyflwyno “cyfraddau treth amrywiol ar draws y DG” gan gynnwys Treth Gorfforaeth a TAW.

Mae Plaid Cymru wedi dweud ers tro byd y dylid trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros drethiant o San Steffan i Gymru, gan sicrhau fod trethi a delir gan fusnesau a phobl yng Nghymru yn aros yng Nghymru.

Cyn hyn, galwodd y blaid am i Dreth Gorfforaeth gael ei gysylltu i faint yr economi, fyddai’n golygu y byddai ardaloedd tlotach yn elwa o drethi is, tra byddai ardaloedd cyfoethocach yn talu mwy. Dadleua’r blaid y byddai hon yn drefn decach a mwy synhwyrol, gan roi cymhelliant i fusnesau fuddsoddi mewn ardaloedd lle mae angen buddsoddi fwyaf, a gallai arwain at gyflogau uwch ledled Cymru.

Wrth ddadlau am effaith Brexit ar yr economi, dywedodd Adam Price ar y Wales Report fod Brexit yn cynnig rhai cyfleoedd yn ogystal â bygythiadau i’r economi. Galwodd ar wleidyddion i fanteisio ar y cyfleoedd, gan awgrymu y gallai Cymru osod cyfraddau is o Dreth Gorfforaeth na gweddill y DG, fyddai’n rhoi “mantais gystadleuol” i’r wlad i ddenu busnesau i Gymru ac i helpu busnesau presennol i dyfu.

Yn ei sylw, meddai llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Adam Price:

“Rhaid i wleidyddion o bob plaid edrych i’r dyfodol a bwrw ymlaen i wneud yn siŵr ein bod yn cael y Brexit gorau posib i’n gwlad. Mae peryglon penodol i’n heconomi gyda’n sectorau gweithgynhyrchu ac amaeth yn ddibynnol iawn ar allforion, yn enwedig felly i’r UE , a rhaid i ni wneud popeth fedrwn i amddiffyn y sectorau hynny, ond mae hefyd rai cyfleoedd nad ydynt yn cael eu crybwyll mor aml.

“Wrth ddod allan o’r UE, er enghraifft, mae gennym yn awr y gallu i osod cyfraddau amrywiol i wahanol drethi yn y gwledydd gwahanol sy’n ffurfio’r DG. Byddai modd i ni gael cyfradd TAW is i helpu ein sector twristiaeth a’n sectorau adeiladu, er enghraifft. Byddai modd i ni wneud yr un peth i Dreth Gorfforaeth a sicrhau bod trethiant busnes yn adlewyrchu’r lefelau is o gryfder economaidd yng ngwahanol wledydd y DG.

“Petaem yn torri Treth Gorfforaeth yng Nghymru byddai’n rhoi mantais gystadleuol i’n cenedl a fyddai’n denu busnesau i Gymru ac yn helpu’r rhai sydd yma eisoes i dyfu, i gyflogi mwy o bobl ac i gynnig cyflogau uwch i’w gweithwyr.

“Gydag un gyfradd o Dreth Gorfforaeth i’r holl Wladwriaeth Brydeinig gan gynnwys pob un gwlad ynddi, does dim  cymhelliant i fusnesau fynd i unman ond yr ardaloedd cyfoethocaf fel Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Os ydym ni eisiau i bobl yng Nghymru gael cyflogau uwch, i gael cynnig gwell morgeisi iddynt ac i’n Llywodraeth yng Nghymru gael mwy o arian i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, er enghraifft, rhaid i ni wneud Cymru yn ddeniadol i fusnesau.

“Rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle a gynigir gan Brexit a gwneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn Cymru rhag pob bygythiad. Yr unig blaid sy’n abl ac yn alluog i wneud hynny yw Plaid Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.