Leanne Wood yn gosod galwadau Plaid Cymru ar gyfer llythyr Erthygl 50

MaeFforddWell.png

Arweinydd Plaid Cymru yn gwneud “amddiffyn a hyrwyddo buddiannau economaidd” yn brif flaenoriaeth

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi galwadau ei phlaid ar gyfer cynnwys llythyr Erthygl 50, sydd yn amlinellu sut y dylai amddiffyn a hyrwyddo buddiannau economaidd pob un o bedwar aelod y DG fod yn brif flaenoriaeth i Theresa May.

Cliciwch yma am y manylion.

Daw galwadau Ms Wood cyn bwriad Prif Weinidog y DG i ysgrifennu at Gyngor Ewrop yfory, yn eu hysbysu o’i bwriad i dynnu holl aelodau’r DG o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu pump o alwadau allweddol ddylid, yn ei barn hi, gael eu cynnwys yn llythyr Theresa May, gan gynnwys parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau; gwarant o hawliau dinasyddiaeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru a dinasyddion Cymru yn yr UE; parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni cyllido Ewropeaidd gan gynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth y DG i warantu lefelau presennol o daliadau cynnal amaethyddiaeth y tu hwnt i 2020; ymrwymiad i drosglwyddo pecyn o gyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb dynnu unrhyw bwerau yn ôl; ac ymrwymiad i ymofyn am gytundeb pob weinyddiaeth ddatganoledig ar y ddêl orffenedig.

Meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC:

“Ers y bleidlais yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu budd cenedlaethol Cymru. Mae hyn wedi golygu yn bennaf amddiffyn a hyrwyddo ein buddiannau economaidd- swyddi a chysylltiadau masnach hanfodol, nawr ac yn y dyfodol.

“Does dim rhaid i Brexit fod mor anghyfrifol, niweidiol na diofal ag y bwriada San Steffan iddo fod. Mae’n bosib dilyn Brexit synhwyrol, gan ddilyn ôl traed Norwy, er enghraifft, nad yw’n aelod o’r UE ond sydd yn cymryd rhan yn y Farchnad Sengl.

“Rhaid i Brif Weinidog y DG gofio mai ei gwaith yw cynrychioli holl genhedloedd y DG, nid dim ond ei chenedl ei hun. Mae ganddi ddyletswydd i ystyried anghenion unigryw Cymru yn ogystal â’r tri aelod arall o’r DG , fel y gall y sawl sy’n byw yma fod yn dawel eu meddwl na fydd eu cyflogau’n cael eu torri, fod cost byw yn sefydlog ac y bydd gobeithion eu plant am swyddi yn ddiogel.

“Mae ein galwadau amgen Erthygl 50 yn adlewyrchu nid yn unig yr hyn sy’n bwysig i Gymru a phawb sy’n byw yma, ond yr addewidion a wnaed i bleidleiswyr gan yr ymgyrch Pleidlais i Adael. Maent yn cynnig rhestr i Brif Weinidog y DG o ddewisiadau synhwyrol a chymedrol nad ydynt yn mynd yn groes i’r mandad i adael yr UE ond sy’n amddiffyn ein cysylltiadau economaidd hanfodol â’r cyfandir ac sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a phawb sy’n byw yma.

“Bydd y llythyr y bydd Theresa May yn anfon yfory yn fan cychwyn i ddwy flynedd o drafodaethau. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y man cychwyn hwnnw mor gryf ag sydd modd, a’n bod yn cychwyn ar lwybr synhwyrol, nid llwybr a yrrwyd gan ideoleg a thactegau etholiadol.

“Dywedwyd wrthym sawl gwaith fod y Deyrnas Gyfunol yn bartneriaeth o genhedloedd cyfartal. Bydd llythyr Erthygl 50 yn rhoi prawf ar ymrwymiad y Prif Weinidog i’r honiad hwnnw ac i fuddiannau economaidd Cymru – wnaiff hi sefyll drostynt neu wnaiff hi gerdded ymaith?"

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.