Cynnydd sylweddol yn nifer y carcharorion o Loegr yng Nghymru

prison_wire.jpg

Mae nifer y carcharorion o Loegr sy’n cael eu cadw yng ngharchardai Cymru wedi codi o 76% ers mis Mawrth 2017, yn ôl ffigyrau newydd.

Dengys ffigyrau a gafwyd gan Blaid Cymru fod 1,256 o garcharorion yn awr yng ngharchardai Cymru wedi eu cofnodi â chyfeiriad cartref yn Lloegr – cynnydd o 714 ym Mawrth 2017.

Mae’r ffigyrau hyn wedi sbarduno galwad gan Blaid Cymru am i gyfrifoldeb dros garchardai a chyfiawnder troseddol yng Nghymru gael ei ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS, wedi cyhuddo San Steffan o ddefnyddio Cymru fel canolfan gaethiwo i ddatrys argyfwng carchardai Lloegr, ac wedi galw ar San Steffan fel mater o frys i roi’r gorau i uwch-garchar newydd ym Mhort Talbot.

Os aiff carchar Baglan ym Mhort Talbot rhagddo, bydd gan Gymru dros 2,500 yn fwy o lefydd nac o garcharorion, gan agor y drws i fewnforio mwy o garcharorion.

Plaid Cymru’s Justice spokesperson, Liz Saville Roberts MP said:

“Mae’n amlwg fod carcharorion gyda chodau post yn Lloegr yn cael eu cludo gryn bellter oddi wrth eu teuluoedd. Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol fod cynnal cysylltiadau teuluol yn ffactor hanfodol mewn adsefydlu carcharorion a’u hatal rhag dychwelyd i droseddu unwaith iddynt gael eu rhyddhau.

“Mae’r ffaith fod bron i hanner y carcharorion yng Nghymru yn dod o Loegr yn tanlinellu’r ffaith fod Cymru’n cael ei defnyddio gan San Steffan fel canolfan gaethiwo: nid yw hyn yn addas i anghenion Cymru nac i anghenion y cyhoedd, sy’n disgwyl cael eu gwarchod rhag trosedd.

“Os bydd San Steffan yn gosod uwch-garchar arall ym Mhort Talbot i ddal rhyw 1,600 yn ychwanegol o garcharorion, ni wnaiff hyn ond gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn annerbyniol. Rhaid i San Steffan roi’r gorau i’w cynigion fel mater o frys, a throsglwyddo’r cyfrifoldeb dros garchardai a chyfiawnder troseddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Dylai penderfyniadau am nifer carcharorion mewn carchardai yng Nghymru gael eu gwneud trwy ystyried anghenion Cymru yn unig – byth fel dull o ddatrys argyfwng carchardai mewn gwlad arall.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.