Fy nhaith i San Steffan - Ben Lake AS

BL.jpg

Ben Lake sy'n ysgrifennu am ei wythnosau cyntaf fel Aelod Seneddol newydd Ceredigion.

“Excuse me, which way to the Chamber?” Pe bai unrhyw frawddeg yn cwmpasu cyfnod cyntaf Aelod Seneddol newydd, dyna hi.

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn daith swreal a di-stop o ganfod fy nhraed (weithiau’n llythrennol!) yn un o adeiladau mwyaf rhyfeddol y byd.

Dyw Senedd San Steffan gyda’i phensaerniaeth mawreddog a’i milltiroedd o goridorau ddim yn gartref naturiol i unrhyw genedlaetholwr Cymreig, ond rydw i wedi mwynhau pob munud.
Pan gytunais i fynd am yr ymgeisyddiaeth yn fy etholaeth enedigol, Ceredigion, ro’n i’n llwyr ymwybodol o’r her o’n blaen.

Roedd Mark Williams yn Aelod Seneddol poblogaidd ac yn wyneb gwasgfa genedlaethol, fy mhrif amcan oedd cynnal ymgyrch bositif, egnïol y byddai actifyddion diflino’r sedd, a’r Blaid yn genedlaethol yn falch ohoni. Dyna’n union fu ffrwyth llafur cannoedd o wirfoddolwyr ac rwyf mor ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniad. Nid fy llwyddiant i oedd cipio’r sedd gan roi terfyn ar dros ganrif o gynrychiolaeth seneddol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ond ein llwyddiant ni.

Yn wir, erbyn 6 o’r gloch ar fore’r 9fed o Fehefin ac ar ôl dau ail-gyfri, roedd hi’n gwawrio arna i mai gen i bellach oedd y fraint ddihafal a’r cyfrifoldeb enfawr o gynrychioli ardal arbennig bro fy mebyd.

Daeth y newid mewn ennyd. Llu o longyfarchion, cyfweliadau teledu ac etholwyr yn dechrau cysylltu yn syth gyda cheisiadau am gymorth ag achosion yn amrywio o fewnfudo i warchodaeth plant i drais yn y cartref.

Erbyn y bore Mawrth ar ôl yr etholiad roeddwn ar y trên i San Steffan am y tro cyntaf fel Aelod Seneddol Ceredigion. O fewn deuddydd roeddwn wedi tyngu llw yn y Siambr ac yn barod i dorchi llewys gyda’r gwaith dydd i ddydd o sicrhau fod gan bobl fy etholaeth y llais cryfaf posib yn San Steffan.

Diolch i gefnogaeth Grŵp Plaid Cymru yn Llundain, rwyf wedi gallu bwrw ati ar unwaith. Mae fy nghyd-Aelodau a’r staff wedi cynnig cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i mi dros yr wythnos diwethaf ac mae fy nyled iddynt eisoes yn fawr.

Bydd fy mhortffolio yn cynnwys yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Materion Cyfansoddiadol, a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae sgôp ac amrywiaeth y pynciau’n enfawr ac rwy’n edrych ymlaen at gael y maen i’r wal o ran cryfhau’r achos o blaid datganoli rhai o’r meysydd hyn a sicrhau nad ydi diwydiannau allweddol yn cael eu hanfanteisio yn sgil Brexit.

Dim ond megis dechrau mae’r gwaith, ond yn barod rwy’n ysu i sicrhau fod pobl Ceredigion yn cael cynrychiolaeth sy’n deilwng o’i ffydd ynof fi. Rwy’n benderfynol o beidio eu siomi.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.