San Steffan wedi “rhoi’r gorau” i Gymru wledig

profile.jpg

Mae San Steffan wedi “rhoi’r gorau” i’r Gymru wledig fel ardal heb botensial o gwbl, meddai llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig, Ben Lake AS.

Arweiniodd AS Ceredigion ddadl yn Neuadd Westminster ar ddydd Mawrth ar ddyfodol yr economi wledig yng Nghymru ac anogodd Lywodraeth San Steffan i gydnabod potensial cefn gwlad Cymru ac i ymrwymo i “fargen twf” a fwriadwyd i gwrdd ag anghenion yr economi wledig.

Cyhoeddodd Canghellor y Deyrnas Gyfunol yn ei ddatganiad ar y gyllideb yr wythnos ddiwethaf y byddai Llywodraeth San Steffan yn “cychwyn trafodaethau tuag at fargeinion twf i Ogledd Cymru a Chanolbarth Cymru.”

Dywedodd Ben Lake petai bargen twf yn cael ei rhoi at ei gilydd, na ddylai “ailadrodd yn ddifeddwl y model a ddefnyddiwyd ar gyfer bargeinion dinesig.” Dywedodd fod yn rhaid i Gymru symud ymaith oddi wrth y meddylfryd o adeiladu economi genedlaethol sydd wedi canoli’n afiach ar un gornel o’r wlad, ac yn hytrach fynd ar ôl “cyfleoedd a ffyniant i bob rhan o’r genedl.”

Anogodd Mr Lake Lywodraeth San Steffan i ddefnyddio’r fargen twf i fuddsoddi mewn band llydan a seilwaith data ffonau symudol a chynnig mwy o gefnogaeth i sefydliadau addysg uwch megis Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amgylcheddol (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Mr Lake:

“Dylai datblygu’r economi wledig fod yn rhan annatod o strategaeth economaidd i Gymru os ydym am osgoi adeiladu economi genedlaethol sydd wedi canoli’n afiach mewn rhai ardaloedd - neu yn un gornel - o’r wlad. Does dim rhaid i ni edrych ymhellach nac economi’r DG i sylweddoli canlyniadau canoli sylw a buddsoddiad mewn un rhanbarth ar draul y gweddill. Rhaid i ni osgoi mabwysiadu meddylfryd o’r fath yng Nghymru, ac yn hytrach geisio cyfleoedd a ffyniant i bob rhan o’n cenedl.

“Wedi’i chladdu yn natganiad y Canghellor, clywsom: “[Y bydd Llywodraeth San Steffan] yn cychwyn trafodaethau tuag at fargeinion masnach i Ogledd Cymru a Chanolbarth Cymru.” O gofio eu record o gadw eu haddewidion i Gymru - dros y blynyddoedd diwethaf, gwelsom yr addewid o reilffyrdd wedi’u trydaneiddio yn dod i ddim, ac oedi cyn ymrwymo i forlyn llanw - dyw’r frawddeg hon, wedi ei chrefftu’n ofalus, rwy’n siŵr - ddim yn union yn ennyn hyder ynof.

“Serch hynny, fe wnaf yn siwr y bydd y Canghellor yn cadw at y cyhoeddiad hwn, ac na chaiff ei anghofio. Er fy mod yn gyndyn o ddathlu polisi economaidd sy’n rhoi amlygrwydd i ranbarth daearyddol annaturiol, a thrwsgl ar lawer ystyr, yr wyf yn sylweddoli y gallai bargen twf i “Ganolbarth Cymru” fod yn gyfle gwirioneddol i rai cymunedau gwledig sydd wedi dioddef tanfuddsoddi difrifol ac esgeulustod gan un llywodraeth ar ôl y llall. Mae’n bwysig, fodd bynnag, os bydd bargen twf yn cael ei rhoi at ei gilydd, nad yw’n ailadrodd yn ddifeddwl y model a ddefnyddiwyd ar gyfer bargeinion dinesig.

“Mae Ceredigion ymysg y deg etholaeth sy’n perfformio waethaf yn y DG o ran cyflymder band llydan, ac eto, ar waethaf yr angen amlwg am fuddsoddi yng Nghymru, dewisodd Llywodraeth y DG yn ddiweddar fuddsoddi i wella seilwaith band llydan yn nhair gwlad arall y DG. Yn ôl Gweinidogion, yr oedd y penderfyniad ar lle i fuddsoddi yn seiliedig ar pa mor debygol fyddai’r buddsoddiad o hybu twf economaidd.

“Ymddengys bod San Steffan wedi rhoi’r gorau i’r Gymru wledig fel ardal heb botensial – ardal na fydd yn llwyddiannus hyd yn oed petai ganddi seilwaith effeithiol, ardal nad yw’n werth dim.

“Petai barge twf i Ganolbarth Cymru, o’i gwneud yn iawn, ddechrau mynd i’r afael â’r problemau sy’n bla ar hyn o bryd mewn ardaloedd gwledig. Gallai ganolbwyntio ar wella cysylltedd, a rhoi mwy o gefnogaeth i sefydliadau addysg uwch megis Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amgylcheddol (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

“Mae’n rhaid i ni wneud i’r Gymru wledig fod yn fater o bwys. Bu’n bwysig i ni erioed, ond gyda Brexit ar y gorwel ac, mae’n ymddangos, dim arwydd o gynnydd ar y gweill, mae’n hanfodol i’n llais ni gael ei glywed.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.